Tiwtor:
Mae’n siwr bod llawer o diwtoriaid wedi dilyn yr un llwybr â Lowri Gwenllian, sef dechrau dysgu Cymraeg i oedolion trwy gynnal dosbarthiadau gwirfoddol ac anffurfiol yn y tŷ. Nid yw’r ymdrechion hynny, yn aml iawn, yn cael eu cydnabod yn llawn er mai dyma’r cyffyrddiad cyntaf hollbwysig i lawer o ddysgwyr â’r Gymraeg. Mae ymdrechion Lowri Gwenllian i ddysgu’r Gymraeg i oedolion yn ymestyn dros gyfnod o ddwy flynedd ar hugain, rhan amser yn gyntaf ac yna wrth gwrs yn llawn amser.
Cafodd ei magu yn Aberystwyth ac aeth i’r brifysgol ym Mangor. Aeth wedyn i nyrsio am bedair blynedd cyn mynd nôl i orffen ei gradd a newid i bwnc arall, sef Efrydiau Beiblaidd. Dychwelodd i Aberystwyth i dreulio blwyddyn yn cwblhau cwrs Ymarfer Dysgu. Bu’n cynnal dosbarthiadau Cymraeg anffurfiol wrth fagu’r teulu yn Nrefach ac mae’r plant wedi hen arfer â gweld llond tŷ o ddysgwyr gan mai yng nghartref y teulu y cynhaliwyd y cyfarfodydd CYD lleol am flynyddoedd.
Mae ganddi gefndir delfrydol i fod yn diwtor Cymraeg i oedolion oherwydd hi oedd swyddog Menter Iaith Llanelli rhwng 2000 – 2007, yn ymwneud â holl nodweddion trefnu digwyddiadau a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol. Ers 2007 mae hi’n Diwtor Drefnydd gyda’r Brifysgol yn Abertawe a chyda Chanolfan Iaith y De Orllewin. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys trefnu dosbarthiadau ar draws dinas a sir Abertawe, trefnu digwyddiadau dysgu anffurfiol a chynorthwyo gyda hyfforddiant staff.
Eleni, mae hi hefyd yn dysgu pum dosbarth ac yn cael llawer o foddhad wrth weld cynnydd ei myfyrwyr. Rhydd lawer o bwyslais ar weithgareddau allgyrsiol a meithrin perthynas agos â’r dosbarthiadau ac mae’n cydnabod pa mor werthfawr yw canolfan fel Tŷ Tawe. Ym marn Lowri, mae cyfrifoldeb ar bob tiwtor i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr o ddiwylliant, hanes a daearyddiaeth Cymru.
Fel pob tiwtor da, mae’n rhaid ymlacio ar brydiau ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn adweitheg. Bu’n hyfforddi yn Llundain er mwyn medru cynnig adweitheg a ‘vacuflex reflexology and meridian therapy.’ Hi yw’r unig berson yn y byd sy’n cynnig y driniaeth hon trwy gyfrwng y Gymraeg! Mae hi hefyd yn cynnal cwrs Alpha sef cwrs yn cyflwyno’r ffydd Gristnogol mewn 10 wythnos. Mae’r cwrs hwn eisoes yn boblogaidd iawn trwy gyfrwng y Saesneg ac mae Lowri wrthi ar hyn o bryd yn helpu cyfieithu’r cwrs i’r Gymraeg.
Mae ei gobeithion ar gyfer y dyfodol yn syml iawn a theimla’n gryf fod y ddau beth o fewn cyrraedd. Y gobaith cyntaf yw gweld Cymru yn dod nôl yn wlad Gristnogol a’r ail un yw bod pob person yng Nghymru yn dewis ac yn gallu siarad Cymraeg.
Yn bendant, gellir dweud bod Lowri a’i theulu’n gweithio tuag at hynny gan fod Peredur, ei mab 20 oed, newydd ddechrau hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg i oedolion. Mae’r cyfarfodydd CYD hynny a’r dosbarthiadau anffurfiol yn y tŷ a brofodd yn ei blentyndod yn amlwg wedi gwneud eu gwaith!