# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009
elvet_trefn.jpg
Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhoddir gwobr i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i faes Cymraeg i Oedolion. Rhoddir y tlws a’r wobr ariannol gan Havard a Rhiannon Gregory, er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas a wnaeth gymaint o gyfraniad i faes dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Teimla Havard a Rhiannon fod tiwtoriaid Cymraeg yn gwneud gwaith amhrisiadwy nad yw bob amser yn cael ei gydnabod. Maent yn rhoi tlws hardd dros ben ynghyd â gwobr ariannol deilwng iawn.

Mae nifer o diwtoriaid wedi derbyn y tlws erbyn hyn, fel y gwelir isod:

    2000 – y diweddar Chris Rees
    2001 – Basil Davies
    2002 – Felicity Roberts
    2003 – er cof am Robina Elis Gruffydd
    2004 – Geraint Wilson-Price
    2005 – Elwyn Hughes
    2006 – Keith Rogers ac Elwyn Havard
    2007 – Eirian Conlon
    2008 – Cennard Davies

Caiff y tiwtoriaid eu hanrhydeddu am roi gwasanaeth gwerthfawr i faes Cymraeg i Oedolion a mawr yw ein diolch i Cennard Davies am ddod â’r tlws i’r gynhadledd genedlaethol i diwtoriaid eleni fel bod tiwtoriaid o bob cwr o Gymru yn cael cyfle i weld y trysor hwn.

Mae’r wobr wedi ei hen sefydlu felly ond fe fydd yna ychydig o newid i’r drefn bresennol wrth baratoi ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Pwyllgor golygyddol y Tiwtor fydd yn gyfrifol am weinyddu’r Tlws Coffa o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Mae hynny’n golygu y bydd modd gwneud enwebiadau ar-lein a gellir eu hanfon at y pwyllgor golygyddol gan ddefnyddio’r ffurflen bwrpasol yn yr adran gysylltu o fis Mai 2009 ymlaen. Y pwyllgor hwnnw hefyd fydd yn dewis yr enillydd. Cofiwch ddarllen Rhifyn 4 (Chwefror 2009) am fwy o fanylion.  

digwydd3ii.jpg