Mae gan bob un o’r chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion gyfrifoldeb am ddatblygu maes arbenigol, penodol. Maes Canolfan y De Orllewin yw Ymchwil Cymraeg i Oedolion. Mae’n bosib fod y gair ‘ymchwil’ yn creu delweddau academaidd, sych a diflas i rai ohonoch chi! Er hynny, mae sicrhau ein bod ni fel maes yn cynllunio ac yn darparu ar sail ymchwil cadarn a chyfoes yn gwbl greiddiol i’n hymdrechion i broffesiynoli a diweddaru’r gyfundrefn Cymraeg i Oedolion.
Un o ddyletswyddau’r Ganolfan o ran datblygu ymchwil yw paratoi a gweithredu Strategaeth Ymchwil Cymraeg i Oedolion. Paratowyd strategaeth gynhwysfawr ar gyfer 2006 – 2009 ac, ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau ar y gweill ar gyfer datblygu strategaeth newydd am y cyfnod 2009 – 2012. Er mwyn cynorthwyo’r gwaith o greu strategaeth ymchwil genedlaethol a chydlynu ymchwil yn genedlaethol, mae’r Gweithgor Ymchwil CiO yn cwrdd yn weddol reolaidd. Mae cynrychiolaeth o bob canolfan ar y gweithgor yn ogystal ag ymchwilwyr gweithgar o sefydliadau addysg eraill ynghyd â chyrff sydd â diddordeb yn y maes (e.e. CBAC, Bwrdd yr Iaith Gymraeg). Ar hyn o bryd, mae’r Gweithgor (sydd yn cwrdd ar 24 Tachwedd) yn trafod a blaenoriaethu cynlluniau ymchwil penodol gan y Canolfannau fel y gellir hyrwyddo a cheisio cyllid i gefnogi’r math o waith ymchwil y mae’r maes yn gweld ei angen fwyaf. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:
Edrych ar ddulliau dysgu (a’u cymharu) a methodoleg dysgu, gan gynnwys dulliau amgen;
Defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth mewn cymunedau lle mae’r mwyafrif yn siaradwyr Cymraeg;
Canolfannau iaith [ar batrwm yr Euskaltegis] a rhwydweithiau cymdeithasol – integreiddio oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg;
Cydweithio ag arbenigwyr dysgu Saesneg yn ail iaith er mwyn addasu’r dulliau i faes Cymraeg i Oedolion.
Rhoddir y pwyslais – a’r flaenoriaeth – yn gyson ar waith ymchwil fydd yn cael canlyniadau ymarferol ac uniongyrchol berthnasol i faes Cymraeg i Oedolion.
O ran y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yng Nghanolfan y De Orllewin yn benodol, mae staff y Ganolfan wedi gwneud gwaith yn y gorffennol ar gymhelliant a sut i fesur llwyddiant dysgwyr. Mae myfyrwyr ymchwil yn gweithio ar y defnydd o’r Gymraeg / hyfforddiant Cymraeg yn y gwasanaeth gofal ac iechyd ac e-ddysgu / llythrennedd mewn cyd-destun dwyieithog. Bydd nifer ohonoch chi, ddarllenwyr y Tiwtor, eisoes yn cyfrannu at brosiect cyffrous ar Eirfa Graidd i’r Gymraeg. Diolch i bawb sydd wedi bod yn cyfrannu’n ffyddlon hyd yn hyn!! Mae’r gwaith yma yn cael ei wneud ar y cyd rhwng y Ganolfan (dan arweiniad Steve Morris) a’r Athro Paul Meara, arbenigwr byd-eang ym maes geirfa sydd yn gweithio yn Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Abertawe ac a siaradodd yn y gynhadledd i diwtoriaid CiO y llynedd. Y gobaith yw y bydd llunio Geirfa Graidd yn hwyluso’r gwaith wrth:
lunio cyrsiau
paratoi papurau arholiad
caffael geirfa sy’n berthnasol a phriodol i lefel y dysgwyr.
Mwy am hynny yn y Tiwtor yn y dyfodol!
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw diwtoriaid rhan amser sydd â diddordeb mewn datblygu syniadau ymchwil ym maes Cymraeg i Oedolion, boed hynny trwy ymgymryd â gradd uwch, gwneud cais am arian i ddatblygu prosiect neu ddim ond trafod materion sy’n ymwneud ag ymchwil posibl. Yn yr un ffordd, mae’n bwysig dros ben ein bod yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil a wneir yn y maes nid yn unig yng Nghymru ond y tu hwnt i’n ffiniau hefyd er mwyn sicrhau, trwy gyfarfodydd y Gweithgor Ymchwil, fod y maes yn dod i glywed amdano – a’r canfyddiadau – ac er mwyn osgoi dyblygu gwaith. Croeso mawr i chi gysylltu â’r cydlynydd ymchwil, Steve Morris, trwy e-bostio: s.morris@abertawe.ac.uk