Ym mis Tachwedd daeth dros 160 o diwtoriaid i’r gynhadledd genedlaethol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn yr Holiday Inn yng Nghasnewydd. Prif nod y gynhadledd oedd rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes, a rhoi cyfle i diwtoriaid dderbyn hyfforddiant ar rai themâu allweddol, ac i ddod ynghyd i rannu profiadau.
Eleni roedd hi’n braf croesawu John Griffiths AS, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, i agor y gynhadledd ar y bore cyntaf. Eglurodd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu strategaeth genedlaethol pob oedran ar gyfer addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cynnwys Cymraeg i Oedolion fel elfen allweddol. Yn ogystal, diolchodd i’r tiwtoriaid am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd yn ystod y cyfnod o ailstrwythuro.
Fel y llynedd, roedd hi’n dipyn o gamp i benderfynu pa siaradwyr i’w gwahodd, ond cyflwynwyd nifer o syniadau gan y canolfannau. Roeddem yn ffodus fod Jana Jilkova o IATEFL wedi cytuno i siarad ar y bore cyntaf ynghylch defnyddio agweddau seicolegol wrth ddysgu iaith ac, yn dilyn y gweithdai, daeth pawb yn ôl i glywed am rai o ganfyddiadau cychwynnol y gwerthusiad o faes Cymraeg i Oedolion, ac i glywed am y cylchgrawn ar-lein, Y Tiwtor. Yn ystod amser cinio dydd Gwener roedd cyfle hefyd i’r tiwtoriaid bori trwy enghreifftiau o’r adnoddau dysgu ac addysgu diweddaraf sydd ar gael gan rai o brif bartneriaid y maes. Roedd cyflwyniad Mike Sharwood Smith am egwyddorion caffael iaith fore dydd Sadwrn yn fuddiol, ac ysgogodd sawl trafodaeth dros ginio ynghylch y dulliau gorau o ddysgu ac addysgu iaith.
Wrth drefnu’r gweithdai, y nod oedd sicrhau bod digon o amrywiaeth a bod pob gweithdy yn cynnig syniadau newydd i’r tiwtoriaid eu defnyddio yn y dosbarth. Penderfynwyd gwahodd siaradwyr i gyflwyno gweithdai ar rai o’r prif themâu y mae Llywodraeth y Cynulliad am eu gweld yn datblygu ymhellach megis e-ddysgu, hyfforddiant a datblygu adnoddau dysgu ac addysgu safonol. Cafwyd hefyd gyflwyniadau defnyddiol iawn ar y llwybr credydau a’r newidiadau i arholiadau Mynediad a Sylfaen, dysgu gwahaniaethol, a fforwm arbennig i drafod sut y dylai tiwtoriaid ymateb i anghenion unigolion.
Eleni eto, rhoddwyd cyfle i bawb aros am swper er mwyn gallu cymdeithasu â thiwtoriaid eraill ac ymlacio ar ôl diwrnod llawn. Cafwyd adloniant ysgafn gan Lowri Evans.
Bu’r gynhadledd yn llwyddiannus dros ben, a dymuna Llywodraeth y Cynulliad ddiolch i bawb a gyfrannodd. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth am unrhyw ddigwyddiadau cenedlaethol yn y dyfodol, anfonwch neges at tiwtor@cymraegioedolion.org
Rhodri Jones