Mae Coleg Llysfasi wedi’i leoli ar ddau brif gampws, Llysfasi ger Rhuthun a Hyfforddiant Wrecsam yn Felin Puleston. Mae Coleg Llysfasi yn cefnogi addysg gydol oes ac addysg yn y gymuned ac yn cynnig nifer o gyrsiau mewn amrywiaeth o ganolfannau ar draws Dyffryn Clwyd, Dyffryn Dyfrdwy ac arfordir Gogledd Cymru.
Mae Llysfasi yn cynnig dewis eang o gyfleoedd hyfforddiant gan gynnwys cyrsiau llawn amser, cyrsiau byr a chyrsiau yn y gweithle. Un o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd a gynigir yno yw Cymraeg i Oedolion ac mae’r coleg wedi llunio deunydd unigryw ar gyfer y cwrs hwnnw. Mae’r adnodd cynhwysfawr hwn yn boblogaidd iawn ymysg myfyrwyr.
Cwrs Llanllawen
Yn syml, mae’r cwrs yn defnyddio stori i ddysgu iaith a cheir pedwar llyfr yn y gyfres.
Mae’r ddau lyfr cyntaf ar gyfer lefel Mynediad:
Llanllawen 1
Llanllawen 2
Mae’r ddau sy’n dilyn ar gyfer lefel Sylfaen:
Llanllawen 3
Llanllawen 4
Enw’r pentref ydy Llanllawen sy’n dilyn hanes y teulu Morgan sydd newydd symud yno i fyw. Cyflwynir y straeon yn ofalus – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Atgyfnerthir y gwaith dosbarth drwy ofyn i’r myfyrwyr wrando ar y Cryno Ddisgiau gartref gan eu bod yn cynnwys yr holl straeon ac yn cynnwys bylchau er mwyn i’r myfyrwyr gael cyfle i ailddweud.
Mae’r lluniau sy’n dilyn yn dangos myfyrwyr yn actio stori o un o lyfrau Llanllawen adeg lansio Clwb Llanllawen ym Mhabell y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun yn 2006.
Cyflwynir gramadeg yn ysgafn yn yr adran "Pwyntiau sy’n codi" sy’n dilyn pob stori, ac mae adrannau gramadeg mwy traddodiadol yng nghefn y llyfr. Fodd bynnag, cedwir y ffocws ar y straeon gan gyfeirio a chroesgyfeirio at ramadeg yn unig.
Wrth weithio ar y stori yn ystod y gwersi, ac wedyn gwrando ar y Cryno Ddisgiau gartref, mae’r dysgwyr yn ymgolli’n llwyr yn yr iaith. Mae’r stori’n dod â’r iaith i’r cof yn hawdd iawn a cheir dilyniant pwrpasol yn y straeon gan eu bod wedi eu llunio i adeiladu’n ieithyddol.
Fel arfer bydd y dosbarth yn treulio 6 awr ar bob stori, gyda’r tiwtor. Yna cyflwynir elfen o hunanwerthuso a gofynnir iddynt roi marc i’w hunain allan o ddeg i ddynodi pa mor dda maen nhw wedi dysgu’r stori.
Dosbarth yng
Nghorwen yn
mwynhau astudio
Llanllawen.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y deunydd hwn, cysylltwch â Choleg Llysfasi.
Coleg Llysfasi
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2LB
Ffôn: 01978 790 263
Ffacs: 01978 790 468
e-bost: admin@llysfasi.ac.uk
Myfi Brier