# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009
dysgu.gif  
Pe bai pob dysgwr yn robot fyddai dim angen yr erthygl yma o gwbl a byddai dysgu Cymraeg i Oedolion y peth hawsaf yn y byd. Ond yr hyn sy’n gwneud dysgu Cymraeg i Oedolion fwyaf anodd yw’r union beth sy’n ei wneud fwyaf diddorol hefyd i’r rhan fwyaf ohonom, sef yr amrywiaeth anhygoel o unigolion sy’n cyrraedd ein dosbarthiadau bob wythnos. Mae Dysgu Gwahaniaethol yn ddull dysgu sy’n ystyried yr amrywiaeth yma ac wedi’i seilio ar gydnabod bod dysgwyr yn amrywio’n fawr iawn yn eu galluoedd academaidd, arddulliau dysgu, personoliaethau, diddordebau, cymhelliad, gwybodaeth gefndirol a phrofiad bywyd.

Mater o newid ffocws yw Dysgu Gwahaniaethol, yn y bôn. O holi nifer o gyd-diwtoriaid mae’r rhan fwyaf ohonom yn cychwyn cynllunio gwers drwy ystyried beth yw’r nod, yna’n penderfynu pa ddulliau cyflwyno fyddai’n addas i’w defnyddio gan roi peth ystyriaeth i bwy sydd yn y dosbarth – ydyn nhw’n ddosbarth araf / cyflym ayyb? Mae Dysgu Gwahaniaethol yn gofyn i ni newid y man cychwyn a rhoi’r dysgwr yn gyntaf ac ystyried y nodau a’r dulliau dysgu yn sgil hynny.

     Dysgu Traddodiadol

dysgu2.gif

     Dysgu Gwahaniaethol

dysgu3.gif

Pwynt pwysig i’w nodi yw nad yw Dysgu Gwahaniaethol yn gofyn i chi ysgrifennu cynllun gwers ar gyfer pob unigolyn, fyddai hynny ddim yn ymarferol i ddechrau - mae ysgrifennu cynllun gwers ar gyfer pob dosbarth yn ddigon o waith fel y mae hi! Rhaid derbyn, fodd bynnag, bod Dysgu Gwahaniaethol yn mynnu cynllunio manylach ar ran y tiwtor. Wrth gwrs, mae un ystyriaeth arall – rhaid cofio bod gennym ni dargedau a nodau allanol sy’n rhaid i ni eu cyflawni – boed yn gredydau CBAC neu RHCA neu’n arholiadau, felly does dim penrhyddid gennym fel tiwtoriaid. Er hynny, yn fy marn i, mae gan Ddysgu Gwahaniaethol rai nodweddion sy’n werth i ni eu hystyried ac arbrofi gyda nhw wrth gynllunio’n gwersi, yn enwedig o gofio bod cynifer o ddysgwyr yn rhoi’r gorau iddi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Yn dilyn mae rhai dulliau Dysgu Gwahaniaethol cydnabyddedig ac enghreifftiau o sut dw i wedi bod yn eu haddasu ar gyfer anghenion y dysgwyr yn fy nosbarthiadau i. Byddwn wrth fy modd yn cael gwybod a oes rhywrai ohonoch wedi bod yn arbrofi gyda dulliau tebyg a sut ymateb dych chi wedi ei gael.


      Ystyried amrywiaethau’r dysgwr

Dyma fan cychwyn Dysgu Gwahnaiaethol ac y mae’n rhoi llawer o bwyslais ar gyn-asesu (anffurfiol gan fwyaf) ac asesu parhaus (ffurfiol ac anffurfiol) er mwyn bod yn ymwybodol yn gyson o anghenion y dysgwr.

1. Cymhelliad – gosod nod unigol.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol mai ‘dysgu siarad Cymraeg yn rhugl’ yw nod pawb yn y dosbarth - hyd yn oed os mai dyna maen nhw’n ei honni yn y wers gyntaf! A chan nad ydyn nhw’n debygol o fod yn rhugl ar ddiwedd y flwyddyn beth bynnag, maen nhw i gyd yn methu cyrraedd y nod a llawer yn rhoi’r gorau iddi o ganlyniad. Mae’r ffurflenni nodau dysgu cytunedig yn ddefnyddiol i helpu’r dysgwr benderfynu ar nod unigol mwy cyraeddadwy. Hefyd mae gosod nod tymor byr unigol, perthnasol, wedi bod yn llwyddiannus gyda rhai o fy nosbarthiadau i – e.e. un wythnos gofyn iddyn nhw feddwl am un peth y gallen nhw ddweud yn rheolaidd yn Gymraeg, fel ‘gofyn i’w plentyn beth gafodd e i ginio’ neu ‘gyfarch cydweithiwr wrth ddod i’r swyddfa’. Gellir ysgrifennu’r ymadrodd iddyn nhw ar gerdyn a’u hannog i’w ddefnyddio mor aml â phosib yr wythnos honno. Mae’n darged gyda ffiniau pendant ac mae dysgwyr, yn enwedig rhai di-hyder, wedi bod yn fwy parod i wneud hynny nag ymateb i anogaeth i ‘rhaid siarad mwy o Gymraeg â dy blentyn’ neu ‘cofia ymarfer dy Gymraeg yn y swyddfa’. Gellir ychwanegu at yr ymadroddion ac estyn y ffiniau wrth i’r dysgwr ennill hyder.

2. Arddulliau Dysgu Unigol
Cafwyd llawer o drafod yn ddiweddar ar arddulliau dysgu unigol a gellir cael nifer o holiaduron i helpu dysgwyr nodi eu harddulliau dysgu personol. (Mae cwblhau holiaduron o’r fath gyda dosbarth Uwch a chymharu canlyniadau yn gallu bod yn sbardun sgwrsio hwyliog.) Mae ein gwerslyfrau eisoes yn ystyried yr amrywiaethau hyn ac yn cynnwys tasgau siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando.Yn ychwanegol, gall tiwtor gynnig amrywiaeth o dasgau ar yr un testun er mwyn galluogi dysgwyr i gael elfen o ddewis a dysgu yn y ffordd sydd fwyaf effeithiol iddyn nhw e.e dewis o wrando ar ddarn neu ddarllen yr un darn – gallai pawb wedyn ddod at ei gilydd i ateb yr un cwestiynau. ( Dw i wedi defnyddio’r dull yma pan fo dysgwyr ag anawsterau darllen neu broblemau llygaid yn y dosbarth.) Hefyd, wrth adnabod arddull dysgu personol dysgwyr mae’n bosib eu cyfeirio at y ffyrdd mwyaf llwyddiannus o estyn eu dysgu eu hunain y tu allan i’r dosbarth e.e.
dysgu4.jpg
 




3. Diddordebau Unigol
Mae pobl yn dysgu’n fwy llwyddiannus os yw’r deunydd yn berthnasol iddyn nhw, felly defnyddiwch eu diddordebau personol i greu tasgau unigol e.e. casglu geirfa ar ddiddordeb neu hobi personol a’u dysgu. Gofyn iddyn nhw wedyn i gyflwyno eu hoff air o’r rhestr i weddill y dosbarth. Yn ogystal â chynyddu geirfa mae hyn yn rhoi hyder i’r unigolyn – ei fod e/hi yn gwybod rhywbeth nad yw’r lleill yn ei wybod eto. Mae’n bosib gofyn i ddysgwyr mwy profiadol roi cyflwyniad syml ar ddiddordeb neu hobi a gofyn iddyn nhw’n gyntaf ddysgu’r eirfa ‘dechnegol’ i’r dosbarth. Gellir hefyd amrywio cyd-destun tasg i gyd-fynd â diddordebau a phrofiad dysgwyr. [Adnoddau 1 ac Adnoddau 2]

4. Galluoedd cynhenid a phrofiad addysgol
Hyn sy’n rhoi’r cur pen mwyaf i diwtoriaid, yn enwedig gyda thargedau allanol i’w cyflawni. Gweithio mewn grwpiau a pharau sy’n cynnig yr ateb gorau i’r broblem hon ac yn darparu’r cyfleoedd gorau i Ddysgu Gwahaniaethol. (Yn naturiol, dylid amrywio cyfansoddiad y grwpiau yn gyson – neu fydd hi ddim yn hir cyn bod y dysgwyr yn cyfeirio at y ‘bwrdd swots’ a’r ‘bwrdd twpsod!’):

a) Grwpiau gallu cymysg wedi eu dewis ‘ar hap’. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyd-weithio yn y dosbarth

b) Grwpiau/parau o alluoedd tebyg:

• Pan fydd pawb yn y dosbarth yn cael yr un dasg mae’n gyfle i bobl yn yr un grŵp weithio ar gyflymder tebyg ac os ydyn nhw’n gorffen o flaen y gweddill gellir rhoi gweithgaredd ychwanegol iddyn nhw o fanc ‘gweithgareddau atgyfnerthu’ y tiwtor. (Enghreifftiau – Adnoddau 4.) Mae’r gweithgareddau atgyfnerthu – yr hyn a elwir yn anchor activities gan Carol Ann Tomlinson, arbenigwraig ar Ddysgu Gwahnaiethol - yn un o seiliau Dysgu Gwahaniaethol. Y syniad yw nad yw’r dysgwr yn cael amser i ‘ddiogi’ o gwbl, eu bod yn cael eu hymestyn yn gyson ac, yn achos Cymraeg i Oedolion, ddim yn cael cyfle i droi i gael clonc yn Saesneg.

• Amrywio tasgau e.e.
1) Mae rhai yn y dosbarth yn deall y gorffennol cryno yn iawn ond mae nifer yn cael trafferth o hyd. Dangos y rhifyn o ‘Talkabout Welsh’ sy’n cyflwyno’r gorffennol cryno i un grŵp. (Penwythnos yn Nant Gwrtheyrn yw cefndir y rhaglen hon). Bydd y grŵp arall yn gwrando ar stori Rhys a Meinir ar dâp neu ei darllen yn uchel gyda chymorth y tiwtor. Ar y diwedd bydd y dosbarth yn dod at ei gilydd i ateb cwestiynau am Rhys a Meinir ac efallai i drafod Nant Gwrtheyrn/cyrsiau preswyl ayyb.

2) Gosod tasg gyfathrebol i rai grwpiau sy’n rhoi cyfle iddyn nhw ymestyn, e.e. Gêm y Gwyliau (Adnoddau 5) sy’n rhoi cyfle i ddefnyddio amrywiaeth o amserau/personau. Gall grwpiau eraill weithio ar gêm lle gellir gofyn am ymatebion ‘technegol’ e.e. grid o ferfau syml er mwyn adolygu patrwm arbennig (Adnoddau 6.)

• Gosod yr un dasg ond amrywio’r rôl mae’r dysgwr yn ei chwarae e.e. deialog gyda’r rhan fwy heriol yn cael ei rhoi i un partner, holiadur lle mae’r partner gwannaf yn darllen y cwestiynau a rhaid i’r partner arall ateb (Adnoddau 3.)

Rhai syniadau yn unig sydd fan hyn. Dw i’n siwr hefyd bod gwahaniaethu yn rhywbeth mae llawer o diwtoriaid yn ei wneud yn reddfol hyd yn oed os nad ydyn nhw’n defnyddio’r term Dysgu Gwahaniaethol. Byddwn i’n falch iawn o glywed am unrhyw ddulliau gwahanol sydd wedi gweithio i chi.

*Ewch i’r adran Deunydd Dysgu er mwyn cyrchu’r Adnoddau sy’n cydfynd â’r erthygl hon. Ffeiliau Word ydyn nhw fel bod modd i chi eu haddasu at eich gofynion chi.

digwydd3ii.jpg