# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Chwefror 2009
cipolwg.jpg

Wrth gamu o’r car yn gynnar ym mis Tachwedd yng ngwesty’r Holiday Inn yng Nghasnewydd, gallwn weld yr horwth hwnnw o adeilad, Gwesty’r Celtic Manor, ychydig i’r gogledd o ble safwn i. Fel y gwyddoch, cynhelir y Ryder Cup yno yn 2010 (dw i ddim yn ‘ffan’ mawr o’r gêm – a bod yn onest, mae rownd o golff yn sarnu taith gerdded dda, yn fy marn i) a dwi’n siwr y bydd mawrion y gêm yn 2010 yn teimlo’n debyg i mi wrth gamu o’r car. A fyddai’r ddeuddydd nesaf yn anodd, gyda rhyw ‘bogeys’ o ddarlithoedd a ‘bunker’ o ystafell yn fy nisgwyl? Neu ynteu a fyddai’r daith yn ‘fairway’ o’r cychwyn i’r diwedd, a’m gweledigaeth i’n gliriach wedi gorffen? Dw i’n siwr y byddai’r rhan fwyaf ohonom a fu yn y gynhadledd yn cytuno mai’r olaf oedd yn wir.

Wedi croeso gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths AM, ac Awen Penri, cafwyd darlith oleuedig gan Jana Jilkova ar y modd y dysgwn, a’r modd y mae’r ymennydd yn gweithio wrth ddysgu. Roedd yr ymarferion a gynigiodd yn ddiddorol ac yn peri trafodaeth. Serch hynny, yr hyn a dynnodd fy sylw i fwyaf oedd iddi ddweud ein bod yn dysgu orau pan fyddwn yn mwynhau ein hunain, ac mai mwynhad ddylai’r broses ddysgu fod.

Cefais y fraint o glywed ei darlith yn y prynhawn hefyd oedd yn sôn am y modd y medrir ymdrin â dyslecsia yn y dosbarth ac am agweddau seicolegol dysgu a chofio.

cipolwg2.jpg  
Ar ddiwedd y prynhawn clywsom Einir Burrowes yn sôn am werthusiad Cwmni Dateb o raglen Cymraeg i Oedolion. Mewn cyfnod byr rhoddodd gyflwyniad gwerthfawr oedd yn effeithio ar bob un ohonom ar gyfer y dyfodol.

Fe’i dilynwyd gan Mandi Morse yn ein harwain trwy gylchgrawn ar-lein Y Tiwtor. Rhoddodd sgwrs ddiddorol iawn a amlinellodd ddefnyddioldeb y cylchgrawn i bob tiwtor yn ei waith bob dydd – defnyddiwch ef!

Wedi cyfnod byr i ddadbacio a chael ein gwynt atom, daeth cyfle i gymdeithasu a chiniawa, ac fe gafwyd gwledd o berfformiad gan Lowri Evans, y gantores o Sir Benfro.

Cawsom berfformiad i’w gofio – llais hyfryd a chefnogaeth offerynnol gwych. Pob clod i’r sawl feddyliodd am ei gwahodd i’r gynhadledd!

cipolwg3.jpg  
Fore trannoeth, wedi brecwast swmpus, cafwyd darlith gan Mike Sharwood-Smith o Brifysgol Caeredin, a soniodd am y modd y derbyniwn ein hiaith gyntaf, a sut y dysgwn ein hail iaith, yn oedolion ac yn blant. Fel rhywun sydd â phlant ifanc, teimlais fod yr hyn a ddwedai am y modd y dysgai plant iaith, heb boeni am wallau a chamgymeriadau, yn berthnasol iawn. Dwi’n siwr fod deunydd hwy na dwy awr ganddo yma, ac er iddo fy ngholli weithiau wrth sôn am hanes astudio caffael iaith, roedd yr hyn a ddywedai yn hynod berthnasol i ni i gyd.

Wedi cyfnod byr am goffi (byrrach nag y bwriadwyd oherwydd y gêm ryngwladol!) es i’r sesiwn a barodd i mi gyffroi fwyaf, sef sgwrs Anna Tiplady a Gareth Mahoney am y cynllun dysgu cyfunol sydd ganddynt ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel rhywun sydd yn gorfod ymwneud â gweithleoedd yn y Canolbarth, tybiais fod yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig yn hynod ddefnyddiol i’r maes hwn, gan fod y myfyrwyr yn medru dysgu wrth eu desgiau, a bod y gwersi a ddysgir wyneb-yn-wyneb yn fodd i atgyfnerthu’r hyn a wneir wrth y cyfrifiadur. Mae’n amlwg eu bod yn cael llwyddiant a hwyl gyda’r cynllun, ac fe deimlais yn eiddigeddus iawn wrth adael yr ystafell.

Roedd sesiynau diddorol eraill hefyd ar hyd y penwythnos ac yn eu plith roedd sesiwn Alun John yn ymwneud â defnyddio Gwgl a thechnolegau newydd ar y rhyngrwyd. Cafwyd sesiwn gan CBAC yn sôn am y newidiadau i’r arholiadau Mynediad a Sylfaen, yn ogystal â sôn am y Llwybr Credydau. Bu Sylfia Fisher yn trafod dysgu gwahaniaethol a chynhaliwyd fforwm trafod anghenion gan Helen Prosser ac Owen Saer. Hefyd, cafwyd gwybodaeth bellach gan Carole Bradley am y cymhwyster i diwtoriaid a chafwyd gwybodaeth am adnoddau perthnasol gan Non ap Emlyn a Cennard Davies. Bu Elin Williams a Haydn Hughes hefyd wrthi’n ddyfal yn tynnu’r ‘Aaarr!’ o ‘Arsylwi!’

cipolwg4.jpg  
Cafwyd cyfle hefyd i bori drwy’r adnoddau a gynigir gan rai asiantaethau gan gynnwys Acen, CBAC a’r BBC.

Hoffwn ddiolch i Rhodri, Awen a’r tîm am drefnu’r penwythnos, a rhaid edrych ymlaen nawr at gynhadledd 2009.

digwydd3ii.jpg