Mae llond sach o ryfeddodau yn aros amdanoch y tro hwn! Yn gyntaf cawn wybod mwy am y gynhadledd genedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i oedolion a gynhaliwyd ym mis Tachwedd. Pwy, tybed, sy’n fodlon rhannu ei Gipolwg ar y Gynhadledd? Cliciwch ar yr adran Newyddion i ddarllen mwy am y cyflwyniadau a’r gweithdai a gafwyd eleni.
Yno hefyd fe gewch wybod pwy aeth i wlad Wncwl Sam a beth sy’n digwydd yng Ngŵyl Werin y Smithsonian.
Heb brynu anrhegion eto? Bydd rhaid i chi fentro i’r siop yn Nhŷ Tawe felly! Mae digon o adnoddau newydd ar gael i lenwi hosan unrhyw diwtor. A sôn am anrhegion…tybed beth hoffai Derek Brockway gael yn ei hosan Nadolig?
Does dim angen gwell anrheg Nadolig na hamper o gwmni Bodlon, yn rhoddedig gan Siop Tŷ Tawe! Ewch i’r gystadleuaeth i gael gwybod mwy. Brysiwch – rhaid ateb cyn 9 Ionawr!
Hefyd:
O lygad y ffynnon – cyngor gan un o’r prif arholwyr ynghylch sut i baratoi myfyrwyr ar gyfer y Prawf Llafar Uwch, a chyngor gan un o’n tiwtoriaid mwyaf profiadol ynghylch dysgu gwahaniaethol.
Pwy yw Aled a beth yw’r clwb newydd i ddysgwyr? .Darllenwch ymlaen i gael manylion ysgolion undydd a sadyrnau siarad.
Mae dylanwad y De Orllewin i’w weld yn drwm ar yr adran Proffil ac mae’r adran Deunydd Dysgu yn llawn o adnoddau ar gyfer pob lefel. Ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer y Nadolig a Chalennig, ymysg pethau eraill! Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.
Ac yn olaf ....Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda!
Cyhoeddir y rhifyn nesaf ym mis Chwefror.