derek.gif  


Ddwy flynedd yn ôl, gosododd ein dyn tywydd adnabyddus sialens iddo’i hun i ddysgu Cymraeg. Yn dilyn hynny, ar ddydd Sul, 12 Hydref, daeth seren y ‘Big Welsh Challange’ draw i Wrecsam i ysbrydoli dysgwyr Cymraeg lleol fel rhan o’r daith ‘Yma i Chi’ ym Mhrifysgol Glyndŵr.


Yn ystod ei ymweliad â Gogledd Cymru, cymerodd saib o gyflwyno’r tywydd i eistedd mewn sesiwn holi ac ateb fel rhan o ddigwyddiad ‘Yma i Chi’, ble dywedodd wrth y dysgwyr i gadw eu ffydd, a cheisio dysgu un gair newydd bob dydd.


Dywedodd: "Mae dysgu iaith yn orchest anodd, ond mae cymorth ar gael. Rwy’n argymell eich bod yn cymryd un dydd ar y tro, ymuno â chwrs Cymraeg i Oedolion, a dysgu un gair newydd bob dydd - fe gyrhaeddwch y nod yn y diwedd. Os dw i’n gallu ei wneud - does dim amheuaeth na all pawb ei wneud!"


Siaradodd Derek am ei brofiadau sydd wedi newid ei fywyd fel dysgwr Cymraeg, gan ychwanegu, "Mae diddordeb wedi bod gen i yn yr iaith erioed, a rhoddodd ‘The Big Welsh Challenge’ y cyfle i’r freuddwyd ddod yn wir. Mae e wedi ehangu fy ngorwelion a dw i nawr yn teimlo’n rhan o deulu ehangach. Byddwn yn dweud wrth unrhyw un am fachu ar y cyfle – mater o hyder yw e, a pheidiwch ofni gwneud camgymeriadau!”


Ers iddo ddysgu Cymraeg, mae Derek wedi gwneud cyfweliadau Cymraeg ar y teledu ac wedi ymddangos mewn rhaglen sy’n cynnwys newyddion i bobl ifanc, ‘Ffeil’. Mae’n aml yn defnyddio’r iaith yn y gwaith ac yn gymdeithasol ac mae dysgu Cymraeg wedi effeithio ar ei fywyd mewn nifer o ffyrdd.


star.gif  

      Holi Derek

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

"Cwtsh". Mae’n air cynnes a chyfeillgar. "Dere â cwtsh i fi!" Mae’n gwneud i bawb deimlo’n well.


Ydy siarad Cymraeg yn dy helpu di yn dy waith?

Ydy. Dw i’n fwy hyderus o lawer pan yn ynganu enwau lleoedd Cymraeg pan fydda i’n gwneud rhagolygon y tywydd. Mae’n bwysig gallu dweud yr enwau’n gywir. Hefyd, mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y BBC ac mae dweud dim ond ychydig o eiriau o Gymraeg yn eich helpu i ddod i adnabod pobl yn well.


digwydd3ii.jpg

Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008