caerdydd.jpg  

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Fro wedi lansio clwb newydd sbon o’r enw Clwb Dysgwyr Caerdydd a’r Fro ar gyfer dysgwyr yr ardal. Mae’r clwb yn cynnig cyfle ardderchog i ddysgwyr ddod at ei gilydd i fwynhau, gwneud ffrindiau newydd a siarad Cymraeg wrth wneud amrywiaeth o weithgareddau sy’n llawn hwyl. Mae’r clwb hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn estyn croeso i ddysgwyr o bob lefel.


Cafodd y clwb ei lansio ar ddechrau mis Hydref yn y Cayo Arms a daeth nifer fawr o ddysgwyr i fwynhau diod am ddim a chwis gan y cwis-feistr Adrian Price, Cyfarwyddwr Dysgu Canolfan Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a’r Fro. Mwynheuodd pawb a chodon ni lawer o arian ar gyfer yr elusen Tenovus.

caerdydd2.jpg

Mae nifer o weithgareddau wedi digwydd ers y lansiad yn cynnwys trip i fowlio deg yng Nghaerdydd pan aeth criw mawr i Ganolfan Red Dragon i fwynhau. Hefyd, mae côr Dysgwyr Caerdydd a’r Fro wedi dechrau. Maen nhw’n cwrdd bob nos Fercher am 7 o’r gloch yng Nghanolfan Severn Road yn Nhreganna ac yn paratoi ar gyfer cyngherddau Nadolig ar hyn o bryd. Mae Ann Wyn Jones, cyfeilydd y côr, yn estyn croeso i unrhyw aelodau newydd.


caerdydd3.jpg

Dywedodd Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Fro, "Mae’r clwb yma wedi datblygu o waith caled yr Eisteddfod a dw i’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cynnal cymdeithas o’r fath i ddysgwyr yn sgil yr Ŵyl. Mae’r gweithgareddau rydyn ni’n eu cydlynu yn rhoi cyfle gwych i ddysgwyr i groesi’r bont a hefyd yn rhoi cyfle i gymdeithasau Cymraeg i ymwneud mwy â’n dysgwyr."


Mae nifer o bethau cyffrous iawn yn digwydd dros y mis nesaf hefyd, yn cynnwys taith o amgylch Stadiwm y Mileniwm, Taith Gerdded yn y Fro, Clwb Sgrabl, Lansio nosweithiau’r Mochyn Du gyda Dysgwr y Flwyddyn 2008 a Chlybiau Darllen newydd sbon!


star.gif  

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Fro hefyd yn awyddus i gael awgrymiadau gan unrhyw ddysgwr neu diwtor o weithgareddau sy’n boblogaidd ac yn helpu dysgwyr. Am ragor o fanylion e-bostiwch Gwenllian Willis ar willisg1@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 029 20 876 451.


digwydd3ii.jpg

Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008