canolbarth1.jpg    

Ar ddydd Sadwrn gwlyb ym mis Tachwedd daeth 35 o ddysgwyr a phum tiwtor at ei gilydd yng Ngholeg Powys, Aberhonddu i gynnal Sadwrn Siarad. Trefnwyd y diwrnod gan y tiwtor-drefnydd dros dro yn ne Powys, Sandra Jones-Evans, a diolchwn yn fawr iddi am ei gwaith wrth gynllunio’r diwrnod. Roedd sawl pwrpas i’r diwrnod, sef ychwanegu at ddealltwriaeth y dysgwyr o’r Gymraeg, dathlu llwyddiant dysgwyr 2007-08 a chynnig profiadau mwy anffurfiol i’r dysgwyr.


Treuliwyd y bore mewn dosbarthiadau, ond wedi cinio o frechdanau, cynhaliwyd prynhawn o adloniant gan nifer o westeion. Daeth Wyn Evans a Chris Langworthy atom i ganu cyfres o ganeuon Cymraeg a chaneuon am Gymru. Bu Helena Jones yn adrodd ‘Colli Iaith’ gan Harri Webb ac yn dweud jôcs wrth y grŵp, cyn i ni gael gair o ysbrydoliaeth gan Mr John Edwards, a soniodd am ei fywyd a’i yrfa, ac am y frwydr a fu wrth sefydlu Ysgol y Bannau yn Aberhonddu. Roedd cyfraniad pob gwestai yn hynod o ddiddorol ac ysbrydoledig.


canolbarth2.jpg    

Yn ystod y diwrnod, llongyfarchwyd pymtheg o ddysgwyr o dde Powys am basio eu harholiadau CBAC – roedd un o’r rhain, Antony Thorpe, yn bresennol a chydnabuwyd ei bresenoldeb yn y Sadwrn Siarad gyda thocyn llyfrau.


Wedi egwyl o chwarter awr, cynhaliodd Dafydd Morse ei gwis enwog(!), a chymerodd pedwar grŵp ran yn y cwis, gyda chwe aelod ym mhob grŵp. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n llwyddiannus!


Edrychwn ymlaen nawr at yr Ysgol Ionawr ym Mhowys, a diolchwn unwaith eto i Sandra am ei gwaith wrth drefnu’r Sadwrn Siarad.

star.gif  

digwydd3ii.jpg

Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 4 Gaeaf 2008