Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl clecs

Y Clonc Mawr!

Mae’r Clonc Mawr yn mynd o nerth i nerth.
Taith gerdded yw’r Clonc Mawr, ac mae’r daith yn benodol ar gyfer oedolion sy`n dysgu Cymraeg yn ogystal â Chymry Cymraeg. Y Cloncfeistr (sef Dewi Rhys-Jones) sy’n gyfrifiol am drefnu’r daith unwaith y mis ar ddydd Sadwrn. Y bwriad yw cerdded rhan fechan o Lwybr Arfordir Sir Benfro unwaith y mis am wyth mlynedd!

Roedd taith mis Ebrill 2010 yn ymestyn o Fae Gorllewin Angle i Rhoscrowther. Gyda chwmni da a golygfeydd godidog, mae’n ffordd wych o dreulio dydd Sadwrn!

Ddiwedd Chwefror cafodd y cerddwyr gwmni gwahanol ar eu taith gerdded, sef criw ffilmio rhaglen Wedi Tri. Yn y llun gellir gweld Es yn siarad â Heddyr ac Aled ar y llwybr rhwng Pont Werdd Cymru a Gorllewin Freshwater.

llun clonc

llinell

Clwb Cymdeithasu Cymraeg C3

Llawer iawn o bethau ar y gweill – cyfleoedd amrywiol i siarad Cymraeg yn ardal yr Wyddgrug!

Mai 17/18
Y ddrama Llwyth gan Theatr Sherman yn Theatr Clwyd, efo Parti'r Pentan.

Mehefin 19
Noson arbennig C3. Salsa / Blasu Gwin / Tapas / Cerddoriaeth yn Neuadd yr Eglwys. O 7.30 ymlaen, £5 i Oedolion, £1 i rai dan 18. Dewch â phlat o Tapas! Bar ar gael o'r gwinoedd, cwrw ac ati gan Arwel Gwinology ...
RHAID i chi archebu tocyn cyn y noson gan Eirian neu Pauline.

Gorffennaf 2  
Geraint Lovgreen ac eraill, sef gig cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 yn Central Station. Manylion i ddilyn.

Gorffennaf 3
Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Manylion i ddilyn.

Gorffennaf 10
Taith gerdded/taith hanesyddol (yn Rhewl a Rhuthun).  Addas i deuluoedd hefyd.

Mwy i ddod yn 2010. Manylion yn fuan.

I fod yn aelod o C3 (am ddim eleni!), i gynnig syniad neu i helpu efo digwyddiad, cysylltwch ag Eirian Conlon/Pauline Owen, d/o Tŷ Pendre, Pwllglas, yr Wyddgrug CH7 1RA. 01352 756080
e-bost e.conlon@bangor.ac.uk

llinell

Paratoi ar gyfer Wrecsam 2011

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Wrecsam a’r teimlad yn lleol yw ei bod yn holl bwysig fod y dre yn barod am hynny. Yn ôl cydlynydd Coleg Iâl, gyda chymorth ac anogaeth gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion ym Mangor, bwriedir gwahodd banciau, siopau, tafarndai a gwestai i ddanfon staff ar gyrsiau Cymraeg  er mwyn dysgu digon o Gymraeg i fod  yn hyderus i gwrdd ag anghenion y cyhoedd Cymraeg fydd yn tyrru i mewn i Wrecsam yn ystod wythnos yr eisteddfod.
Y nod yw cynnal sesiynau blasu a chyrsiau deg awr dros gyfnod  o ddeunaw mis yn arwain at fis Awst 2011. Mae hyn yn dipyn o her i’r Coleg, ac i’r dre sydd yn llythrennol ar y ffin. Ond deuparth gwaith yw ei ddechrau – ac mae’r llythyr cyntaf wedi mynd at y busnesau yn barod.

Croeso Cymraeg i Wrecsam 2011 !

 

llinell