O’r Bala i Alberta, ac o un gystadleuaeth i’r llall.
Newyddion
Mae’r rhifyn hwn yn edrych ar uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau eleni ac yn llongyfarch dau o enillwyr pwysicaf yr Ŵyl – o safbwynt Cymraeg i Oedolion! Cawn wybod pwy yw Dysgwr y Flwyddyn a phwy enillodd Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas. Hoffech chi wybod hefyd beth ddigwyddodd ym Maes D a Seremoni Cyflwyno Tystysgrifau CBAC, a phwy yn y byd oedd yn y Cwch Banana?
Dilynwn olion traed rhai tiwtoriaid hefyd wrth iddynt deithio i gyfandir arall i ddysgu. Darllenwch am brofiadau Iona Hughes yng Ngŵyl y Smithsonian yn Washington (Gŵyl y Cymry a’r Americanwyr) a chewch wybod beth welodd y Ddau Diwtor Ar Daith yn oriau mân y bore yng Nghanada!
Mae’r ffocws hefyd ar adnoddau y tro hwn.
O Adnoddau Acen i Raglen Adnoddau APADGOS, ac o’r Ffôn i’r iPhone. Os ydych yn chwilio am ddeunydd darllen i’ch myfyrwyr beth am argymell y nofel ‘E-Ffrindiau’ gan Lois Arnold. Ac mae Owen Saer yn cynnig dadansoddiad o rai o sesiynau’r Gynhadledd IATEFL yng Nghaerdydd, sy’n edrych ar amryw o agweddau ar ddysgu iaith i oedolion, o adnoddau i ddulliau.
Da chi, peidiwch ag anghofio chwaith am y gystadleuaeth a’r cyfle i ennill tocyn llyfr gwerth £20!
Yr adrannau eraill
Gwybodaeth am arholiadau 2009 sydd gan Emyr Davies yn ei erthygl ef ac ewch ymlaen i’r adran Broffil i wybod pwy gafodd ei geni yn Ohio a phwy fu’n gweithio ar rwydwaith camlesi Lloegr! Yn yr adran Canolfannau mae rhai’n gobeithio carlamu ymlaen ar y Cwrs Carlam ac eraill wedi creu Newyddlen.
Mae’r adran Deunydd Dysgu yn orlawn unwaith eto ac yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau wedi eu lefelu, o weithgaredd gwrando a deall i weithgareddau darllen yn seiliedig ar y nofel ‘Ffreshars’ a’r nofel ‘E-Ffrindiau.’ Os ydych chi’n teimlo’n egnïol, gallwch fentro hefyd gyda’r gemau sbarduno siarad! Ewch i’r adran i weld yr holl adnoddau sydd yno ar eich cyfer.
Pob hwyl!