# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009


   Newyddlen

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd wedi cynhyrchu ei Newyddlen gyntaf ar gyfer dysgwyr.

Bwriad y Newyddlen, fydd yn cael ei chynhyrchu yn dymhorol, yw rhannu gwybodaeth i bob dysgwr o unrhyw lefel am weithgareddau allgyrsiol sydd yn digwydd ymhob ardal yng Ngogledd Cymru. Gweler yma hefyd hanesion dysgwyr sydd wedi cael budd o fynychu digwyddiadau fel hyn, hanes digwyddiadau a chlybiau dysgwyr yn ogystal â chystadleuaeth i enwi’r newyddlen a chyfle i ennill penwythnos i ddysgwyr ym Môn! Os hoffech gipolwg ar y newyddlen hon, ymwelwch â’n gwefan www.learncymraeg.org neu sgroliwch i lawr i weld ambell i ddetholiad o’r newyddlen.

gog8-1.jpg

gog8-2.jpg

rule8col.gif