# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 8 Hydref 2009


    llwybr.jpg

Cwrs newydd yn cynnig llwybr cynt i ddysgwyr

Fis nesaf, ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg, caiff cwrs dwys newydd ei lansio sydd wedi’i gynllunio i roi dysgwyr Cymraeg ar drywydd cyflym.

Mae’r cwrs Wlpan newydd, y gellir ei gwblhau mewn blwyddyn yn hytrach na’r pedair blynedd wrth astudio cwrs ‘unwaith yr wythnos’ i ddechreuwyr, yn cynnig llwybr cyflym at hyfedredd ieithyddol i ddysgwyr.

Mae’r cwrs, a gafodd ei ddatblygu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg Prifysgol Caerdydd, yn cynnig y cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau mewn amryw o ffyrdd newydd a chyflymach.

Bydd dysgwyr yn cael dewis un ai astudio yn y dosbarth, ddwy waith neu’n fwy bob wythnos; defnyddio dysgu cyfunol lle addysgir hanner y cwrs yn y dosbarth a’r hanner arall ar-lein fel dysgu annibynnol; neu fynychu cwrs haf lle gellir cwblhau’r cwrs cyfan mewn wyth wythnos yn unig.

Dywedodd Gareth Kiff, Uwch Diwtor Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg: ‘Am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys sgiliau Cymraeg i’r farchnad waith neu er mwyn cynorthwyo addysg Gymraeg eu plant yn yr ysgol, mae oedolion yn edrych am ffordd gynt o ddysgu’r iaith.’

‘Mae cwrs llwybr carlam Wlpan yn cynnig y cyfle a’r hyblygrwydd i’r dysgwyr hynny sy’n dymuno datblygu a chynyddu eu sgiliau i wneud hynny mewn cyfnod byr o amser.’

Techneg dysgu iaith benodol yw Wlpan, sy’n tarddu o’r gair Hebraeg Ulpan, ac sydd wedi ei haddasu’n llwyddiannus gan y Ganolfan ers dros 25 mlynedd.

Mae Rhobat Bryn Jones, arweinydd y tîm sydd wedi cynhyrchu’r cwrs newydd, yn credu bod cynhwysiant yn ffactor pwysig yn llwyddiant dull Wlpan.

Dywedodd Rhobat Bryn Jones: ‘Rydym yn ymwybodol iawn fod Cymru yn gymdeithas aml-ddiwylliant, yn enwedig yn y rhanbarth ble rydym yn gweithio. Rydym yn ymdrechu i adlewyrchu hynny yn ein dewis o ddeunyddiau ar y cwrs newydd. Hefyd, mae’n gyfle i nifer o bobl ddysgu pwnc nad oedd ar gael iddynt yn yr ysgol.’

‘Un nod pwysig i ni gyda’r cwrs hwn yw sicrhau nad yw dewisiadau a gafodd eu gwneud yn gynt mewn bywyd yn rhwystr at gael mynediad at yr iaith Gymraeg.’

Mae tiwtoriaid yn cyflwyno patrymau newydd ar ffurf driliau, gyda dysgwyr yn ailadrodd a siarad yn uchel. Cyflwynir y patrymau hyn mewn blociau er mwyn iddynt gael eu hamsugno’n hawdd.

chris.jpg
I Chris Warlow, (yn y llun) athro ysgol gynradd sydd newydd gymhwyso, mae cwrs Wlpan newydd Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn cynnig yr hyblygrwydd i’w alluogi i gydbwyso bywyd gwaith prysur a gwella ei obeithion gyrfaol hir dymor. Dywedodd, ‘wrth i fi ddechrau ar fy ngyrfa fel athro rwy’n sylweddoli y bydd y blynyddoedd nesaf yn amser prysur iawn. Mae’r cwrs Wlpan cyfunol yn berffaith i mi gan y bydd yn fy ngalluogi i ddysgu Cymraeg yn gyflym, gan gyflawni’r rhan fwyaf o’r gwaith yn ystod fy amser fy hun ar fy nghyfrifiadur personol a mynychu dosbarthiadau unwaith yr wythnos er mwyn ymarfer yr hyn rwyf wedi ei ddysgu.’

Dywedodd Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwraig Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg: ‘Nid yw dysgu Cymraeg erioed wedi bod yn haws. Mae yna gynifer o ffyrdd hyblyg i ddysgu’r iaith, ac mae’r cwrs Wlpan sydd newydd gael ei ailwampio yn cynnig cyfle gwell nag erioed i feistroli’r iaith Gymraeg.’

Mae’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn cynnig cyrsiau ar bob lefel ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg yn y gymuned ac yn y gweithle trwy gydol y flwyddyn. Bob blwyddyn, mae tua 2,000 o oedolion yn dysgu Cymraeg yn y Ganolfan. Mae mwy o wybodaeth ynghylch sut i ymgeisio am le ar y cwrs Wlpan newydd ar gael trwy gysylltu â Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ar 02920 874 710 neu drwy ymweld â www.learnwelsh.co.uk.


Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, cysylltwch â:

Llion Pughe
Swyddog Marchnata
Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg
Ffôn: 02920 870 413

rule8col.gif

     Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg      
 

Mae’r Ganolfan yn rhan o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn denu 2,000 o ymrestriadau bob blwyddyn ac mae ganddi dîm o ryw 70 o staff.

Cynhelir y cyrsiau Cymraeg ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg, mewn nifer fawr o leoliadau, yn cynnwys neuaddau pentref, siopau, canolfannau iechyd a ffitrwydd, yn ogystal ag ysgolion, colegau ac adeiladau’r Brifysgol. Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am yr holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn y ddwy Sir ac mae’n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn darparu’r amrediad o gyrsiau, mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gyda 4 sefydliad, sef Cyngor Sir Caerdydd, Coleg Glan Hafren, Coleg y Barri a Chyngor Sir Bro Morgannwg i sicrhau bod gan y dysgwyr ddigonedd o ddewis.


rule8col.gif