#
croeso-pic5.gif  
llun-clawr.jpg

Rydym hefyd yn dathlu penblwydd cyntaf y Tiwtor! Lansiwyd y cylchgrawn ar-lein hwn flwyddyn yn ôl a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar y 4ydd o Chwefror, 2008 a gellir pori drwy’r rhifynau blaenorol drwy fynd i’r adran Archif. Yn ystod y flwyddyn mae’r Tiwtor wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae’n rhan bwysig o’r ddarpariaeth ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i oedolion.

Mae’r gystadleuaeth yn parhau’n boblogaidd iawn ac yn y rhifyn hwn cewch gyfle i ennill tocyn llyfr gwerth £20, yn rhoddedig gan Siop Lyfrau Cymraeg Merthyr Tudful. Cewch gyfle hefyd i enwebu tiwtor ar gyfer Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas.

Morgannwg yw’r ardal dan sylw y tro hwn ac ewch i’r erthygl Adnabod Ardal i gael gwybod mwy. Rydym yn dathlu’r gwaith a wneir gan Brosiect Gwaith Ieuenctid Merthyr a hefyd yn rhannu cyffro’r newidiadau mawr ym Menter Merthyr.

Mae Maldwyn Pate ac Annalie Price yn rhannu eu cyfrinachau yn y de ac mae Siân Eirian Rees Davies yn gwneud yr un peth yn y gogledd.

        Hefyd...
Pam y mae Ceri Jones yn teithio o Gymru i Iwerddon a pham y mae Ryuichiro Hirata yn teithio o Siapan i Gymru?

Mae’r adran Deunydd Dysgu yn orlawn ac yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau wedi eu lefelu, o weithgaredd sain yn ymwneud â newyddion y tywydd i dasgau ar stori’r Ferch o Gefn Ydfa. Mae yma dasgau ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Ddewi ac, ymysg nifer o dasgau eraill, ceir tasg sy’n sôn am frenin y llyfrau, T. Llew Jones.

        A llawer mwy! 2croeso-pic5.jpg