Enw:
Annalie Mwynwyn Price
Swydd:
Swyddog Datblygu Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Morgannwg
Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw yn Y Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf
Gyda phwy wyt ti’n byw?
Gyda fy ngŵr, Paul, a’r plant, Lewis sy’n 14 oed ac Arianne sy’n 11 oed ac mae’r ddau ohonynt yn canu’r gitâr, felly does dim tawelwch yn ein tŷ ni!
Hoff liw?
Gwyrdd, fel y mynyddoedd.
Hoff fwyd a hoff ddiod?
Caws gyda phopeth! Madarch gyda phopeth… caws a madarch, mmmmm!
Hoff ffilm?
Wel, mae fy hoff ffilm Saesneg yn eithaf hen, ‘Steel Magnolias’ ac mae angen bocs o ‘tissues’ wrth law bob tro! Fy hoff ffilm Gymraeg yw Soloman a Gaenor achos eto, dw i’n hoff iawn o grio!
Pe baet yn cael 3 dymuniad, pa rai fyddet ti’n eu dewis?
Gweld diwedd ar ryfela, diwedd ar dlodi a chael gwybod y bydd y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw.
Pryd collest ti dy dymer ddiwethaf?!
Ro’n i’n cysgu am dri o’r gloch rhyw fore ac roedd fy ngŵr yn chwyrnu fel mochyn! Roedd e’n gwrthod symud ac roedd rhaid i fi godi am chwech! Chafodd e ddim cinio y diwrnod hwnnw!
Hoff lyfr?
Wel, dw i’n hoff iawn o ddarllen felly mae’r cwestiwn ‘ma yn anodd ei ateb. Basai rhaid i fi ddweud taw fy hoff lyfr Cymraeg yw ‘Martha Jac a Sianco’ gan Caryl Lewis, mae’n stori dywyll ond yn dda iawn. Mae fy hoff lyfr Saesneg yn hawdd – ‘Atonement’ gan Ian Mckewan, mae hwn hefyd â thro yn ei gynffon, ond yn wych!
Uchafbwynt dy yrfa hyd yn hyn?
Dw i’n newydd i’r swydd hon felly basai rhaid i fi fynd nôl i’m swydd fel athrawes Gymraeg mewn ysgol uwchradd. Yr uchafbwynt oedd y diwrnod canlyniadau TGAU a Lefel A cyntaf. Roedd gen i deimlad am y tro cynta fy mod wedi llwyddo i helpu’r myfyrwyr i gyflawni rhywbeth pwysig. A hyd yn oed nawr, dw i’n cael e-byst oddi wrth y merched a aeth ymlaen i’r Brifysgol yn gofyn am help gyda’u gwaith nhw!
Oes gennyt unrhyw gyngor i diwtoriaid?
Arsylwi! Dyn ni i gyd yn dysgu sut i gyflwyno gwers dda o hyd, y peth pwysicaf yw rhannu arfer dda. Mae gan bawb hoff weithgaredd sy’n gweithio’n dda yn y wers, felly rhannwch!
Beth yw dy obeithion ar gyfer Canolfan Morgannwg?
Gweld mwy o drigolion yr ardal yn ymuno yn y gwersi ond yn bwysicach na hynny yn dod i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol fel rhan o’u bywydau pob dydd.
Beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Wel, beth dw i’n ei wneud nawr wrth gwrs, ond beth am y swydd faswn i ddim yn ei hoffi? – gyrrwr trên!