Mae Siân yn medru amseru pethau'n berffaith… dechreuodd ar ei swydd newydd gyda Chanolfan y Gogledd ar 15 Rhagfyr 2008, y diwrnod cyn y parti Dolig! A hithau ond yn 27 oed, mae hi wedi cyflawni llawer iawn ers graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2003. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, dyfarnwyd rhagoriaeth iddi wrth ennill gradd MA mewn ysgrifennu creadigol. Yn yr un flwyddyn, enillodd hi wobr goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri, am ei nofel I Fyd Sy Well. Ers gadael y Brifysgol, mae hi wedi gweithio fel Tiwtor Cymraeg yn Wrecsam ac ym Mangor ac fel Tiwtor Saesneg ar gynllun addysgu yn Sri Lanka yn dilyn y Tsunami. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, bu Siân yn rhedeg Cae’r Gors (Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts) yn Rhosgadfan, cyn penderfynu symud yn ôl i faes Cymraeg i Oedolion. Cysylltodd Y Tiwtor â hi er mwyn cael gwybod ychydig mwy amdani…
- Lle cest ti dy fagu?
Dinas, Pen Llŷn - Pan oeddet ti’n blentyn, beth oeddet ti eisiau bod ar ôl tyfu i fyny?
Ceidwad Sŵ
- Beth fyddi di’n fwyta i frecwast?
Paned go gryf o goffi du a mêl ar dost
- Beth fasat ti’n newid amdanat ti dy hun?
Hoffwn i fod yn fwy mentrus a pheidio â phoeni am ymateb pobl!
- Pa siop fedri di mo’i phasio?
Unrhyw siop yn gwerthu offer ‘sgrifennu. Mae gen i ddegau o lyfrau nodiadau – y rhan fwyaf ohonynt yn wag!
- Hoff ddilledyn?
Gŵn llofft
- Mae dy bres di’n mynd ar
Fwyd! Dw i wrth fy modd yn potsian yn y gegin
- Dy hoff fwyd yw...
Cinio dydd Sul
- Dy hoff le yw…
Porthdinllaen yn y gaeaf…neu’r haf wedi meddwl, gan fod modd cael peint yn nhafarn Tŷ Coch bryd hynny!
- Dy hoff raglen deledu yw…
Rhaglenni Bruce Parry
- Taset ti’n medru byw mewn unrhyw gyfnod, pa gyfnod fasa fo a pham?
Pob un! Mi fyswn i fel Dr Who yn ei ‘dardis’ yn teithio o gyfnod i gyfnod
- Yn dy amser hamdden ti’n hoff o …
Fwydro gyda ffrindiau a theulu; ar droed, uwch fwyd, neu gyda llymaid
- Beth sy’n dy wylltio di?
Pobl hunanol….a gyrwyr araf
- Yr albwm diwethaf i ti ei brynu / lawrlwytho…
Fleet Foxes. Mae’r albwm yn f’atgoffa o’r ha’
- Y gwyliau gorau gest ti erioed oedd…
Gyrru mewn Micra bach o amgylch Sardinia gan ddarganfod pentrefi hynod a thraethau gwych ar hap
- Be’ sy’n codi ofn fwyaf arnat ti?
Unigrwydd
- Be’ hoffet ti fod yn ei wneud mewn 10 mlynedd?
Un dydd ar y tro…does wybod lle fydda i ‘mhen 10 mlynedd!