Tarik Kaddoumi
Colli pwysau. Mynd i’r gampfa. Bwyta’n iach. Dyma’r math o addunedau rydyn ni, y bobl gyffredin, yn eu gwneud ar ddechrau blwyddyn newydd. Ond nid Tarik Kaddoumi. Mae ef wedi gosod targed unigryw i’w hun, sef dysgu Cymraeg o fewn blwyddyn. I gyd-fynd â’i fenter bersonol ef ei hun, mae Tarik hefyd wedi sefydlu blog ar-lein, Welsh in a year, fel bod cyfeillion a dysgwyr eraill yn gallu gweld sut mae e’n dod yn ei flaen.
Cafodd ei eni ym 1980 yn yr Almaen ac fe symudodd ei deulu i fyw yn Amman, Gwlad yr Iorddonen, ym 1981. Daeth Tarik i Fangor ym 1998, yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai a doedd e ddim yn gallu siarad Saesneg bryd hynny. Erbyn hyn mae e’n hollol rugl yn y Saesneg ac ar ôl llwyddo i ennill gradd mewn Peirianneg Gyfrifiadurol o Brifysgol Bangor, dechreuodd ei fusnes ei hun, UH Media.
‘Dw i wrth fy modd yn byw yng Ngogledd Cymru,’ meddai, ‘ a dw i wedi setlo’n dda yma gan gwrdd â phob math o bobl ddifyr. Ond dw i’n teimlo y dylwn i ddysgu Cymraeg er mwyn dod yn fwy o ran o’r gymuned leol. Dydy pawb ddim eisiau dysgu’r iaith, dw i’n gwybod, ond i mi mae’n bwysig iawn.’
Yn ôl Tarik, y peth gorau a wnaeth ef ar y dechrau oedd mynychu cwrs dwys 5 diwrnod yn Nant Gwrtheyrn yn yr hydref, 2007. Ar hyn o bryd mae e’n mynd i ddosbarth Wlpan i ddechreuwyr ddwy waith yr wythnos a hynny ym Mhrifysgol Bangor.
‘Roedd e’n hawdd iawn i ddod o hyd i gyrsiau addas, meddai, ‘fe es i i wefan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion (www.learncymraeg.org) a chael gwybodaeth dros y ffôn hefyd. Cyn pen dim, ro’n i wedi cofrestru ar gyfer dau gwrs. Mor hawdd â hynny.’
Prif nod y gŵr ifanc hwn dros y flwyddyn nesa yw cael llawer iawn o hwyl wrth geisio gwireddu ei darged. Mae’n cydnabod mai modd o gyfathrebu yw iaith ac wrth ddatblygu sgiliau iaith newydd mae’n gobeithio medru cyfathrebu’n well â ffrindiau, cyd-weithwyr a chwsmeriaid.
I weld sut mae sgiliau Cymraeg Tarik yn datblygu, ewch i www.welshinayear.com