# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

   Does unman yn debyg i Adra  
adra2.jpg    
Adra. Cân hudolus gan Gwyneth Glyn fydd yn atseinio yn eich clustiau wrth i chi ymweld â gwefan o’r un enw sydd yr un mor hudolus, www.adrahome.com. Beth am nwyddau Cymraeg chwaethus ar gyfer y tŷ a’r ardd? Ydych chi angen anrhegion ar gyfer babanod a phlant neu a oes gennych bum munud sbâr i bori drwy’r holl gardiau cyfarch, y manion a’r tlysau? Dyma’r wefan sy’n profi nad oes raid i anrheg o Gymru olygu draig goch neu ddafad fflyffi.
    Angharad Gwyn yw sylfaenydd y wefan hon, ar ôl iddi hi benderfynu symud yn ôl adre i’r gogledd i fyw wedi cyfnod o weithio i’r BBC yng Nghaerdydd. Bu Angharad yn gweithio yng Nghaerdydd am saith blynedd ac er iddi fwynhau yno’n fawr iawn, y bwriad ar hyd yr adeg oedd symud yn ôl. Gyda chynifer o bobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru i fynd i fyw i’r ardaloedd dinesig, roedd penderfyniad Angharad fel chwa o awyr iach. Ond mae her yn wynebu’r rhai sydd am symud yn ôl i’r wlad o’r ddinas a dyma oedd testun y rhaglen Taro 9 ym mis Ebrill 2007 wrth iddi ddilyn hynt Angharad tros gyfnod o flwyddyn, yn paratoi i adael ei swydd ddiogel yn ninas Caerdydd a symud yn ôl i gefn gwlad i gychwyn busnes newydd sbon.
    Bellach mae Angharad a’i gŵr wedi ymgartrefu yn Llandwrog ger Caernarfon ac yn mwynhau prysurdeb y fenter newydd hon. Maent yn rhoi’r pwyslais ar ddarparu anrhegion a nwyddau Cymraeg cyfoes a chwaethus. Yn wir, sbardunwyd Angharad i ddechrau’r fusnes pan nad oedd hi’n gallu cael gafael ar nwyddau unigryw gan wneuthurwyr Cymraeg, yn enwedig ar-lein. Sylweddolodd fod yna alw mawr am wefan soffistigedig sy’n gwerthu’r math yma o nwyddau. Yn sgil hynny, aeth ati i sefydlu’r fenter gan chwalu’r gred nad oes yna gyfleoedd gwaith cyffrous yng nghefn gwlad Cymru. Iddi hi, mae’r we yn cynnig cymaint o bosibiliadau a’r bwriad yw defnyddio potensial y we yn llawn er mwyn hybu’r economi leol.
    Mae Angharad ond yn gwerthu nwyddau y byddai hi ei hunan yn eu prynu a dywedodd ei bod yn hollol ffyddiog fod yna alw mawr am nwyddau Cymraeg safonol yng Nghymru, Prydain a thu hwnt. Profwyd hynny yn ddiweddar pan gyflwynwyd Adra i lu o Americanwyr fel rhan o ddigwyddiad proffil uchel Wythnos Cymru UDA, digwyddiad blynyddol a gynhelir yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Gwahoddwyd cynrychiolwyr Adra i gymryd rhan yn y digwyddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac UDA.
adra.jpg
Cafodd detholiad o nwyddau Adra eu harddangos yn rhan o’r digwyddiadau yn Efrog Newydd a derbyniwyd ymateb gwych iddynt ac mae Angharad yn edrych ymlaen at gael croesawu mwy o gwsmeriaid tramor yn y dyfodol.
    Mae’n amlwg fod gan Angharad weledigaeth glir ac mae’n gwneud defnydd llawn o’r Gymraeg ar y wefan ddwyieithog hon. Pan edrychwch yn ofalus, fe welwch fod y ddarpariaeth yn eang iawn. Yn sicr, byddai tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion a’r dysgwyr eu hunain yn medru defnyddio gwefan Adra fel rhyw fath o adnodd estynedig. Ceir yma adran ‘Lle yng Nghymru’ sy’n rhoi hanes rhai o’r cyflenwyr a’r gwneuthurwyr, yn ogystal ag adran ‘Aros Noson’ sy’n cynnig syniadau aros dros nos mewn mannau chwaethus yng Nghymru. Mae Angharad yn mynd un cam ymhellach eto ac yn datgan ei bod yn annog pawb i ddysgu’r iaith ac yn awgrymu rhai gwefannau diddorol fel man cychwyn.

Gwefan fasnachol, chwaethus sy’n hybu’r Gymraeg.
Yn wir, does unman yn debyg i adra.

iidigwydd3.jpg