Podlediad
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, fel rhan o Ddiwrnod y Dysgwyr gan BBC Cymru yn Nolgellau, lawnsiwyd Pigion: Highlights for Welsh Learners gan Radio Cymru, sef podlediad newydd i ddysgwyr profiadol i’w cynorthwyo nhw i ddeall yn well rywfaint o gynnwys rhaglenni’r wythnos ar Radio Cymru. Mae wedi ei anelu at ddysgwyr profiadol a hyfedr (lefelau uwch a hyfedredd) sydd am gyfoethogi eu geirfa yn sicr ond sydd hefyd yn awyddus i ehangu eu dealltwriaeth o’r Gymru gyfoes. Un o brif amcanion Pigion yw helpu i roi cyd-destun dealladwy i ddigwyddiadau’r wythnos.
Yn seiliedig ar y rhaglen Wythnos i’w Chofio bydd Pigion, gyda Rebecca Jones yn cyflwyno, yn rhoi detholiad o uchafbwyntiau’r wythnos i chi ar ffurf podlediad i’w lawrlwytho am ddim i’ch chwaraewr MP3. Gallwch wedyn fynd â chwarter awr o Radio Cymru gyda chi yn eich poced i wrando arno pan fo’n gyfleus i chi! Ond does dim rhaid i chi fod yn berchen ar i-pod na chwaraewr MP3 - gallwch hefyd chwarae’r rhaglen yn uniongyrchol oddi ar y we yn syth o’ch cyfrifiadur.
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o bodlediadau sy’n gofyn i chi dalu er mwyn tanysgrifio iddyn nhw, mae Pigion yn un o 5 podlediad sydd ar gael am ddim yn Gymraeg erbyn hyn gan Radio Cymru. Mae yna bodlediad pêl-droed gyda thîm Ar y Marc, podlediad gwleidyddol Vaughan Roderick, podlediad byd natur efo Iolo Williams, podlediad cerddoriaeth a diwylliant cyfoes C2 ac erbyn hyn, wrth gwrs, podlediad Pigion i ddysgwyr profiadol. Bydd tudalen arbennig ar gael ar y we i gyd-fynd â Pigion bob wythnos fydd, yn ogystal â chynnwys sgript yr wythnos, hefyd yn adeiladu dros gyfnod o amser i greu storfa werthfawr o dermau ac idiomau llafar, ac ambell un mwy ffurfiol hefyd.
Y gobaith yw y daw Pigion yn adnodd defnyddiol i diwtoriaid a dysgwyr y Gymraeg. Gobeithio y bydd hefyd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach ac i unrhyw un mewn gwirionedd sy’n dymuno clywed ryw chwarter awr o uchafbwyntiau darlledu Radio Cymru boed ar gyfrifiadur neu wrth deithio ar hyd a lled y byd!