# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

   Cymdeithas Madog

madog1.jpg

Ym mis Gorffennaf 2007 bues i’n ffodus iawn i gael y cyfle i ddysgu ar gwrs Cymraeg yn nhalaith Efrog Newydd yng nghwmni Steve Morris ac Elwyn Hughes. Mae Cymdeithas Madog yn trefnu cwrs blynyddol yn America i Gymry alltud ac Americanwyr o dras Gymreig mewn mannau gwahanol ar hyd a lled y wlad ac eleni cynhaliwyd y cwrs yn Albany, prifddinas ‘talaith yr ymerodraeth’.
    Steve oedd y prif diwtor ac roedd e’n dysgu ar y cwrs am y seithfed tro. Roeddwn i’n mynd am y tro cyntaf.
    Yng nghanol storom o wynt a glaw hedfanon ni o Fryste i faes awyr Newark yn Efrog Newydd. Treulion ni dair noson yn Brooklyn mewn gwesty hyfryd yn Raul Vasquez Place, Union St, bloc sydd wedi’i enwi ar ôl dyn lleol a gafodd ei saethu ar y stryd ychydig o flynyddoedd yn ôl. Wrth gerdded i’r subway bob dydd roedden ni’n pasio murlun coffa iddo fe ychydig o fetrau lawr y bloc o’n gwesty. Cawson brofiadau cofiadwy. Yn y ddinas gwnaethon ni oroesi stormydd mellt a tharannau enfawr yn ogystal â ffrwydriad pibell stêm a laddodd un person ac anafu degau o bobl eraill. Hefyd fe glywon ni enghreifftiau gwych o’r Saesneg yn cael ei chamddefnyddio gan drigolion y wlad!
    Cawson ni amser i feddwl y tu fas i ‘Ground Zero’. Ychydig o flynyddoedd yn ôl bues i lan i ben yr adeilad a rhyfedd iawn oedd gweld y twll lle bu’r adeilad.
    Lawr y subway er mwyn gweld cynnwys y Guggenheim, (er rhaid cyfaddef doeddwn i ddim yn deall rhan fwyaf ohono fe!) ond roeddwn yn fwy siomedig gyda’r tu allan lle roedd amdo enfawr yn cuddio adeilad hynod Frank Lloyd Wright. Aethon ni ymlaen i’r Metropolitan a’i gasgliadau enfawr, rhy fawr i’w gweld mewn wythnos heb sôn am brynhawn.

Chris, Steve ac Elwyn
yn mwynhau’r haul!

madog2.jpg

Yn ôl yn South Brooklyn cawson ni amser i chwilota o gwmpas yr ardal, ac ar ôl mynd heibio’r depot tanwydd, garej, ‘car lot’, bloc tennament, adfeilion o dai a llefydd tebyg i’r hyn dych chi’n ei weld ar y ‘Sopranos’, daethon ni o hyd i wyneb hyfryd Brooklyn: strydoedd ‘brownstone’ Park Slope, Prospect Park, Grand Army Plaza, fersiwn Efrog Newydd o’r Arc de Triomphe, a’r croesffyrdd di-ri sy’n nodweddiadol o gynllun strydoedd y ddinas, yn llawn ‘diners’, ‘drugstores’ a phobl gyffredin Efrog Newydd. Ar ôl bod yn y ddinas ffrenetig roedd bywyd hamddenol Brooklyn yn braf i’w weld.
    Yn ystod y tridiau a dreulion ni yno, aethon ni am dro o gwmpas y ddinas, taith o gwmpas y Cenhedloedd Unedig a chyfle i fynd i ben Canolfan Rockefeller. Aethon ni i’r Bronx i weld Stadiwm y Yankeeod a chrwydro’r ardal, wel, crwydro un bloc er mwyn cael blas o’r ardal, gan mai dyma oedd y Bronx wedi’r cyfan.
    Gyda’r nos roedd cyfle i flasu ychydig o gwrw a chan ein bod yn America, cwrw Americanaidd amdani. Yn groes i’n holl ragfarnau yn erbyn cwrw’r wlad roedd yn bleser ceisio cynnyrch y bragdai lleol, cwrw tywyll megis Samuel Adams, Brooklyn, Farmer Jon’s Oatmeal Stout a rhywbeth o’r enw ‘Arrogant B***ard Ale’: tywyll, trwchus a thrwm ei flas. Ym mhob bar roedd teledu ac ar bob teledu roedd pêl fas, un o’r gemau mwya diflas a greodd dyn erioed.
    Gadawon ni’r Afal Fawr ar ddydd Sawdrn a chafwyd taith reilffordd hamddenol yn dilyn yr afon Hudson 136 milltir i’r gogledd gan basio llefydd gydag enwau hynod fel Ossining, Poughkeepsie a Coxsackie, enwau’r Indiaid sydd yn cofnodi diflaniad trigolion brodorol yr ardal. Roedd y daith hefyd yn mynd â ni heibio pentre Sleepy Hollow, lleoliad stori fer Washington Irving, heibio i orsaf niwclear (sy’n gollwng!) Indian Point a thrwy ganol carchar enwog Sing-Sing.

madog3.jpg

    Cyrhaeddon ni Albany brynhawn dydd Sadwrn lle roedd dau aelod o’r gymdeithas Gymraeg leol yno i’n cyfarfod a mynd â ni draw i leoliad y cwrs, campws Coleg Sage. Cawson ni ddiwrnod i ymlacio a phryd o fwyd mewn bar lleol wrth wylio gêm gyntaf David Beckham i Ddinas yr Angylion yn erbyn Chelsea (syniad pwy oedd hwnna, tybed?). Y diwrnod wedyn cawson ni gwrdd â’n dosbarthiadau ni am wythnos lawn o ddysgu, gweithgareddau a chymdeithasu (dim ond er lles y dysgwyr wrth gwrs).


madog4.jpg

Steve Morris ac Elwyn Hughes
yn barod i diwtora.



Casgliad hynod o bobl - Cymry, rhai sydd â chyndeidiau o Gymru a rhai heb gysylltiad â’r wlad o gwbl. Ces i’r fraint o arwain Twmpath (am y tro cyntaf erioed), a lladdwyd neb felly dwi’n cyfri hynny’n llwyddiant. Uchafbwynt yr wythnos oedd Eisteddfod y cwrs gyda seremoni gadeirio a dawns y blodau unigryw gan dîm o ‘ferched’ y fro (a thros y môr!). Tw-tws, penwisg o flodau, chwibannau hwyaid, coesau blewog ..... mae ‘na luniau ar gael ond er lles eich iechyd (a pharchusrwydd ambell i diwtor Cymraeg i Oedolion) gwell peidio â’u cynnwys yn yr erthygl hon.

Chris Reynolds

iidigwydd3.jpg