Ymgais theatr Gymreig i ymateb yn greadigol
Clwy’r Traed a’r Genau 2001 sydd yn gyfrifol am arbrawf Pwerdai Ceredigion. Er na fu i’r clwy effeithio’n uniongyrchol ond ar raddfa fechan yng Nghymru, cafodd y gwaharddiad ar symud effaith eang a dwys o negyddol ar gymdogaethau cefn gwlad: yn economaidd, wrth reswm; ond yn bennaf yn nhermau sosio-diwylliannol.
Yn Saesneg ieuir ‘arts’ â’r gair ‘culture’. Yn Gymraeg sôn am ‘iaith a diwylliant’ a wnawn. Mae’r gwahaniaeth rhwng y naill gyd-destun a’r llall yn ddadlennol; yn bennaf am ei fod yn arwyddo mai deinameg sy’n perthyn i’r broses o gyd-fyw a chydweithio â’n gilydd yw diwylliant. Yn ei hanfod, yr egwyddorion a’r beirianwaith wrth wraidd y broses barhaus o greu a chynnal cymdeithas Gymraeg a Chymreig yw diwylliant: yr egni creadigol sy’n bwydo’r fenter o ‘ddychmygu ein cymdogaeth’, chwedl y diweddar Raymond Williams. Dyma’n union yr egni a fygythiwyd – yn wir, mewn amryw o enghreifftiau, a fygwyd – gan y gwaharddiad ar ‘gwrdd’ (un o eiriau bach pwysicaf y Gymru sydd ohoni, ôl-anghydffurfiol neu beidio).
Arsyllfa diwylliannol gweithredol a saif ar ganol cywir sir Geredigion yw Theatr Felin-fach. Mae’n ‘weithredol’ yn yr ystyr ei bod yn ganolfan â’r cyfrifoldeb o adnabod ac ymateb i anghenion a photensial yr holl elfennau hynny o addysg, economi, iaith a diwylliant sy’n creu’r cylchoedd o egni yr adwaenwn yn ‘fro’, ‘cymdogaeth’, ‘milltir sgwâr’ ac yn y blaen. Wrth adnabod effaith yr argyfwng o wahardd ar gefn gwlad Cymraeg siroedd y gorllewin rhoddodd y Theatr, mewn partneriaeth â Cered (menter iaith Ceredigion), ddechreuad ar drafodaeth mewn pedair ardal yng Ngheredigion. Gan gofio mai’r unig bobl â’r hawl a’r gallu i ddiffinio eu cymdogaeth yw’r bobl hynny sy’n ei chreu a’i chynnal, datblygwyd sgyrsiau anffurfiol ymhob un o’r ardaloedd. At y cnewyllyn hwn gwahoddwyd yr holl ysbinwyr a oedd yn cynnal y platiau diwylliannol Cymraeg. A dyma sefydlu egwyddor cyntaf yr arbrawf, sef mai er mwyn gweithredu’n wirioneddol gynhwysfawr rhaid ymddiried a buddsoddi yn y gymdogaeth weithredol gysefin – y bobl hynny sy’n arwain y Clwb Ffermwyr Ifainc, Adran yr Urdd, yr Ysgol Sul (os oes un), y clwb-ar-ôl ysgol, Pwyllgor y Neuadd, Pwyllgor y Chwaraeon a’r Carnifal, y Sioe Amaethyddol, y capel a’r eglwys, cangen Merched y Wawr neu Sefydliad y Merched (os mai’r diwylliant Cymraeg sydd flaenaf yn eu cyfarfodydd) – yr holl elfennau hynny sy’n gweithredu’n naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wedi adnabod ffiniau’r gymdogaeth a chasglu’r egniwyr oll ynghyd, y gwaith nesaf oedd datblygu adnabyddiaeth yn seiliedig ar botensial y fro. Tueddiad asiantaethau allanol (gan gynnwys ‘Cymunedau’n Gyntaf’, ysywaeth) yw gosod llinyn mesur dinesig dros ardal wledig. O ganlyniad, wrth holi’r cwestiwn ‘beth sydd angen ar y fro hon?’ y rhagdybiaeth yw mai lle heb gyfleusterau a galluoedd yw cefn gwlad. Rhan o bwysigrwydd arbrawf y Pwerdai yw mai cynorthwyo’r gymdogaeth i adnabod ei hanghenion ei hunan yn nhermau ei photensial ei hunan yw’r nod. Wrth gyflawni hyn, y mae’r gymdogaeth yn dechrau meddwl am ei hunan yn nhermau cadarnhaol; mae hi’n dechrau gweld gymaint sy’n cael ei gyflawni; yn dechrau gweld a gwerthfawrogi y medrau eang sydd ar waith; yn gweld bod yna ddiffygion yn ogystal â rhagoriaethau ym mhatrymau’r gymdogaeth a fu; fod y gymdogaeth sydd yma nawr, y dwthwn hwn, wedi llwyddo i gynnal cynifer o arferion da; wedi ail-ddyfeisio eraill ar gyfer yr amserau sydd ohoni; wedi gadael i eraill fyth i farw oherwydd ei bod hi’n bryd iddynt farw; ac, nid yn anaml, wedi datblygu ymarfer newydd sydd yn gwbl briodol i anghenion y dydd heb iddynt sail yn yr ‘oes aur’ honedig a fu.
Effaith fawr y sesiynau hyn o gyd-gwestiynu a hunan-fapio yw codi hunan-hyder. A sgîl-effaith hynny yw ailegnio; yw cyffroi diddordeb newydd ymysg rhai a fu gynt ar yr ymylon. Ond yr effaith bwysicaf yw galluogi’r gymdogaeth gynhenid i wynebu’r anawsterau a’r bygythiadau go iawn gan ddefnyddio ymarfer cymdeithasol da (hynny yw, cyd-drafod, cydgwestiynu a chydweithio) yn fodd i ddatblygu ymatebion cadarnhaol. ‘Beth gellir ei wneud am y mewnfudwyr hyn os nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn ein hiaith a’n diwylliant?’ Ym mhob un o’r Pwerdai, mae’r drafodaeth leol wedi arwain at ymarfer llawn dychymyg sy’n seiliedig ar droi y ddeinameg o groeso yn estyn gwirioneddol ar ddeuheulaw cymdeithas ar y naill law gan ddiogelu a chryfhau hunaniaeth y gymdogaeth gynhenid ar y llaw arall. Yn y gweithredu deublyg hwn y mae’r pwerdy (h.y. y gymdogaeth weithredol) yn mynd i’r afael ag angst sylfaenol cyfoes y cymdogaethau Cymraeg: sut mae croesawu, ac integreiddio ac ehangu ystod eu profiad a’u potensial heb naill ai lasdwreiddio ynteu foddi’r diwylliant cynhenid.
Mae ymarfer cynnar y pwerdai, ynghlwm wrth hir brofiad gweithwyr creadigol Theatr Felin-fach, yn dangos bod patrwm o gyd-drafod a chydweithredu lleol â’r gallu i gynnig atebion; yn wir, â’r gallu i gynnig ffordd ymlaen ar gyfer asiantaethau sirol a chenedlaethol. Er engraifft, yn y ffeiriau cymdogaethol a gynhaliwyd gan ddau bwerdy, cynhyrchwyd deunydd cyhoeddusrwydd oedd yn ddau-ddiwylliannol yn ogystal â bod yn ddwyieithog. Yn y Gymraeg, dathlu oedd cywair yr wybodaeth yn ymwneud â phryd, ble a pham. Yn y Saesneg, gosodwyd y digwyddiad yn ei gyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Gyda llu o newydd-ddyfodiaid yn ogystal â’r Cymry cynhenid yn bresennol, cynhaliwyd elfennau cyhoeddus y ffeiriau trwy gyfrwng y Gymraeg gydag offer cyfieithu (a ‘chyfieithydd bro’ – cyfieithydd anffurfiol) ar gyfer y di-Gymraeg. Sicrhawyd bod stondin Cymraeg i Oedolion yn flaenllaw yn y ffair. Canlyniad y darparu deublyg clir, pendant a hyderus hwn, a ddyfeisiwyd gan gyfarfodydd y pwerdai eu hunain, oedd llif o newydd-ddyfodiaid yn cofrestru ar y noswaith ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg.
Gweithredu ar lun cylch a wna cymdogaeth, wrth gwrs. Aml-gylchog yw natur yr holl ddeinameg. Wrth dynnu bobl ynghyd – nid i greu rhagor o weithgaredd (nid oes prinder gweithgaredd cymdeithasol mewn cymdogaethau Cymraeg) ond i hunanarsylwi a hunanasesu – nod yr arbrawf yw sicrhau bod y broses hon o gyd-drafod a chyd-gwestiynu yn porthi peirianwaith y pwerdy cymdogaethol. Wrth ateb yr her o ddod â newydd-ddyfodiaid at y Gymraeg mae set newydd o gwestiynau yn cael eu codi: sut mae eu cynnal? Sut mae eu hymbriodi â phrif ffrwd y cyd-ymdeithwyr (h.y. y gymdeithas fyw)? Mae’r cylchoedd creadigol felly yn troi. Mae’r ddeinameg greadigol ar waith.
A beth am y sefydliadau hynny a ganfyddir i fod yn holl bwysig ar gyfer cynaladwyaeth cymdogaeth? Oes gan y Pwerdy rôl i chwarae yn y fan hon. Yr ateb yw: oes, yn sicr. Oherwydd nod creiddiol yr arbrawf yw galluogi’r cymdogaethau i symud oddi wrth feddylfryd adweithiol... (‘Mae’r awdurdod yn bygwth cau’r ysgol. Rhaid protestio.’) ...i feddylfryd rhagweithiol. (‘Beth yw cynaladwyaeth yr ysgol hon? Beth yw ei hanghenion? Beth yw anghenion y gymdogaeth – ei heconomi, ei hiaith a’i diwylliant? Beth yw perthynas y naill a’r llall? Beth fedrwn ni gynnig i’r awdurdod fel ffordd ymlaen?’). O adnabod yr angen i godi’r cwestiynau hyn, ac o’u codi eu cwrdd, y gymdogaeth ei hun sy’n creu’r agenda ac sy’n berchen arni. Dyma gymdogaeth gyfrifol; cymdogaeth ragweithiol.
Y mae cymdogaethau ym mhob oes wedi wynebu argyfyngau a bygythiadau. Y cymdogaethau sy’n goroesi yw’r rhai sydd yn ddigon hyderus i edrych yn drylwyr ar eu hunain a chodi’u pennau a’u golygon tua’r dyfodol. Fel yn sgîl clwy’r traed a’r genau, mae pob argyfwng yn cynnig cyfle yn ogystal â bygythiad. Ond nid trwy’r grid cenedlaethol y daw’r gallu i naill ai adnabod na gweithredu ar gefn y cyfle. Dim ond y pwerdy lleol all wneud hynny.
Euros Lewis
Lefeiniwr Arweiniol, Cynllun Pwerdai Ceredigion
[Y mae Euros Lewis yn ymgynghorydd annibynnol
ar faterion addysg gymdogaethol, diwylliant a chyfryngau.]
ar faterion addysg gymdogaethol, diwylliant a chyfryngau.]
Mae rhagor o wybodaeth am arbrawf Pwerdai Ceredigion ar gael gan Dwynwen Lloyd Evans, Pennaeth Theatr Felin-fach, Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion, Campws Felin-fach, Dyffryn Aeron, Ceredigion, SA48 8AF (01570 470697) – dwynwenle@ceredigion.gov.uk