# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

   Cynhadledd IATEFL
   2008 - Caerwysg

2tiwtor_side.jpg
Mynychodd chwech ohonom o Ganolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth Gynhadledd Ryngwladol IATEFL yng Nghaerwysg rhwng Ebrill 7fed – 11eg. Er mai cynhadledd i athrawon a thiwtoriaid Saesneg fel ail –iaith, neu Saesneg i dramorwyr yw’r gynhadledd hon, mae cynnwys y gynhadledd yn berthnasol iawn i ni fel tiwtoriaid a hyfforddwyr Cymraeg i Oedolion, ac yn gyfle amheuthun i ni fedru gweld dysgu ac addysgu’r Gymraeg mewn cyd- destun ehangach.
    Yn ystod yr wythnos cawsom ddewis o bedwar cant o sesiynau, gweithdai a darlithoedd, roedd rhywbeth yno at ddant pawb, boed yn diwtor, yn hyfforddwr, yn rheolwr neu’n dechnegwr, a chyfle i wrando ar arbenigwyr byd-enwog megis Alastair Pennycook, Jim Scrivener a Mario Rinvolucri i enwi ond ychydig.
    Diddorol iawn oedd canfod syniadau ffres ac yn aml syniadau dadleuol am ddysgu iaith i oedolion, er enghraifft, ‘roedd Jim Scrivener yn ein hannog fel tiwtoriaid (rhai profiadol yn unig), i fentro i’r dosbarth weithiau gyda meddwl agored, heb baratoi dim a heb unrhyw fath o ddeunydd dysgu ! Roedd gan Mario Rinvolucri yntau rai sylwadau tra dadleuol, mynegodd :

"mae rhan ohonof yn teimlo bod y llyfr cwrs yn anghenfil o beiriant gwneud arian a saif rhwng y dysgwyr a’r iaith darged…………er hyn, mae rhan arall ohonof yn gwybod bod y llyfr cwrs yma i aros a bod y tiwtor angen helpu’r dysgwr i’w berchnogi…"

Gweithdai ymarferol oedd llawer o’r sesiynau, roedd y rhain yn gyfle gwych i ddwyn syniadau ymarferol a chasglu gweithgareddau sy’n bosib i’w haddasu i’n dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Un gweithdy o’r math hwn oedd sesiwn gan Eleanor Spicer-Lundholm a oedd yn dwyn y teitl: ‘Arddywediad – cognac yr athro’, a na, doedd y sesiwn hwn ddim yn gyfle i flasu unrhyw fath o frandi! Rhoddodd Eleanor syniadau i ni ar sut i ddefnyddio arddywediad fel dull dysgu geirfa, cyfuneiriau a brawddegau gan ddefnyddio ei hun fel peiriant tâp.
    Sesiwn diddorol a gwerthfawr i’r rhai ohonom sydd yn arsylwi ac yn arfarnu tiwtoriaid oedd cyflwyniad ar roi adborth gan Fiona Copland lle cawsom gyfle i wrando ar enghreifftiau o hyfforddwyr yn rhoi adborth i ddarpar athrawon yn dilyn sesiwn o ddysgu. Amlygodd hyn y problemau a all godi yn y sefyllfa sensitif hon, a sut y medrwn ymdrin â gwahanol bersonoliaethau yn ogystal â gwahanol safonau o ran yr addysgu.
    Roedd llawer ohonom yn ein helfen wrth wrando ar George Pickering yn ein diddanu yn ei ffordd ddi-hafal ei hun. Ei thema eleni oedd: ‘Sut i reoli’r rheolwr’ a chyflwynodd y sesiwn drwy gyfrwng cartŵnau a jôcs. Yma roedd rhaid i ni ddadansoddi cryfderau a gwendidau ein pennaeth, canfod ei anghenion a’i amcanion, a cheisio darganfod sut i gyfathrebu gydag ef neu hi yn effeithiol! Nid oedd hwn yn orchwyl hawdd gan fod ein cyfarwyddwr yn bresennol!
    Mae’r gynhadledd flynyddol hon yn gyfle gwych i feithrin cysylltiadau ac i ddysgu oddi wrth bobl broffesiynol eraill yn y maes dysgu iaith i oedolion. Braf oedd gweld cynrychiolaeth gref o’r canolfannau Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru, yn wir roedd 24 ohonom yno, ac o’r herwydd yn llwyddo i godi’r to gyda’n canu ar ddiwedd nos! Edrychwn ymlaen yn eiddgar at Gynhadledd 2009 sydd i’w chynnal yng Nghaerdydd.

Elin Williams
Ebrill 2008

iidigwydd3.jpg