# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
   Joio@Morlan
Gwybodaeth i Rieni am gyfleoedd
cymdeithasu cyfrwng Cymraeg i blant



Mae Joio@Morlan yn weithgaredd sydd yn bodoli ers Hydref 2005. Mae’n brosiect a drefnir ar y cyd rhwng CERED (Menter Iaith Ceredigion), Urdd Gobaith Cymru a Chanolfan y Morlan yn Aberystwyth.
    Daeth y mudiadau at ei gilydd gyda’r nod o drefnu cyfres o gynlluniau chwarae yn Aberystwyth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod gwyliau ysgol i ddisgyblion rhwng 7-11 mlwydd oed. Gwelwyd bod yna fwlch o fewn darpariaeth Gymraeg adeg y gwyliau i blant ysgolion cynradd gan fod nifer o ddigwyddiadau a chyrsiau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg yn yr ardal. Felly roedd yna alw am ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyma lansio prosiect Joio@Morlan.

Pwrpas y cynllun oedd:
• bod disgyblion 7-11 mlwydd oed Aberystwyth a’r cyffiniau yn cael y cyfle i ddefnyddio a chymdeithasu yn y Gymraeg tu allan i oriau ysgol. Dyma gyfle euraidd, yn enwedig i blant o deuluoedd di-Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel gymdeithasol yn ogystal â lefel addysgiadol.

• cyfle i blant fwynhau yn y Gymraeg a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl a gwaith tîm i godi hyder, boed hyn yn sesiynau drama, celf a chrefft, gweithdai roc, coginio neu dripiau dyddiol i Wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn.

• cynnig lleoliad mewn amgylchedd diogel ar gyfer plant o 9 y bore tan 5 yr hwyr, tra bod eu rhieni yn y gwaith.

Roedd y cynllun chwarae cyntaf a gynhaliwyd yn Hydref 2005 yn llwyddiannus iawn ac o ganlyniad trefnwyd rhai adeg cyfnod y Pasg hefyd. Rydym wedi trefnu chwe chynllun chwarae ers hynny ac mae hyd at 40 o blant ar gyfartaledd yn mynychu pob cwrs. Mae’r mwyafrif sy’n mynychu yn dod o ardal Aberystwyth, ond mae rhai hyd yn oed yn dod mor bell â Chei Newydd!
    Am fwy o wybodaeth am joio@morlan, neu am weithgareddau tebyg yn eich
ardal chi, cysylltwch â:
CERED (01970) 633671
neu ewch i wefan y mentrau iaith: www.mentrau-iaith.com
Urdd Gobaith Cymru (01239) 652150

Rhodri Francis