Cyfle i ennill penwythnos
i ddau yn Nant Gwrtheyrn!
 
i ddau yn Nant Gwrtheyrn!
 Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn, wedi’i lleoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, Gogledd Cymru. 
 
       Mae’r Ganolfan yn arbenigo mewn cyrsiau preswyl Cymraeg (fel ail-iaith) i oedolion. Cynhelir priodasau a chynadleddau yn y  Ganolfan ac mae croeso bob amser i ymwelwyr ddod i fwynhau’r dyffryn cyfan gan gynnwys y Ganolfan Dreftadaeth, siop, bwyty a’r traeth hudolus. 
 
 Does dim rhaid i chi fod ar gwrs i aros yn Nant Gwrtheyrn: 
 
       - Cyfle i ddianc rhag y byd a’i bethau. 
 
       - Lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau teulu. 
 
       - Lleoliad gwych ar gyfer crwydro ardal Llŷn ac Eryri. 
 
       - Lleoliad cyfleus ar gyfer pysgota môr gyda llwybr yn arwain o’r pentref at y traeth. 
 
 
 
 
  Er mwyn cael cyfle i ennill gwobr o ddwy noson i ddau berson yn un o fythynnod Nant Gwrtheyrn, atebwch y cwestiwn canlynol: Mae Caffi Meinir wedi cael ei enwi ar ôl Meinir, sef un o’r cariadon yn stori enwog Nant Gwrtheyrn. 
 
 
          ______________________ 
 
          Beth oedd enw cariad Meinir?  
 
          ______________________ 
 
  Anfonwch eich ateb atom gan ddefnyddio’r ffurflen sylwadau yn yr adran ‘Cysylltu.’ Cofiwch nodi eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn hefyd. 
 
 
Bethan a’i chroeso cynnes
yng Nghaffi Meinir
 
 Y dyddiad cau ar gyfer derbyn atebion i’r gystadleuaeth hon yw Dydd Llun, 28 Gorffennaf 2008. Caiff enw’r enillydd ei dynnu o het ar ddydd Sadwrn, 2 Awst ym Mhabell y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac fe gyhoeddir enw’r enillydd yn rhifyn nesaf y Tiwtor ar ddiwedd mis Medi. Cofiwch — mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhywun, boed yn diwtor, dysgwr, siaradwr Cymraeg neu bwy bynnag arall! 
 
  Pob lwc!
 
 