Profiadau Patagonia
Newydd orffen addurno
Ysgol Esquel, Chubut
Y brîff am yr erthygl hon oedd "tudalen yn sôn am y profiad o ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia hyd yn hyn." Swnio’n ddigon syml, ond yn wir i chi, anodd iawn oedd gwybod sut i ddechrau! Mae cymaint o bethau diddorol a gwahanol ynglŷn â dysgu yma gallwn fod wedi llenwi cylchgrawn yn ddidrafferth, heb sôn am dudalen! Felly er mwyn ceisio cadw at y brîff gefais i, dw i wedi penderfynu canolbwyntio ar un enghraifft o’r hyn sy’n "wahanol", sef y defnydd o’r iaith darged gyda’r dysgwyr.
Castillano (math o Sbaeneg) nid Saesneg wrth gwrs yw iaith gyntaf bron pawb yn y Wladfa. Hyd yn oed gyda’r rhai sydd o dras Cymreig ac yn siarad Cymraeg mae’n siŵr o fod yn deg i ddweud bod Castillano yn iaith gyntaf iddynt hwythau, er ambell waith ar y cyd â’r Gymraeg! Wrth gwrs, byddaf bob amser yn ceisio osgoi siarad Saesneg â dysgwyr cymaint â phosib, fel yng Nghymru, yn enwedig wrth ddysgu cyrsiau dwys. Serch hynny, rwy’n gallu siarad Saesneg ac mae’r dysgwyr yng Nghymru yn gwybod hynny’n iawn. Hefyd, yng Nghymru, os bydd dysgwyr yn dod ataf ar ôl y wers gyda chwestiwn, byddaf weithiau yn siarad peth Saesneg â nhw er mwyn egluro rhywbeth sydd wir yn eu poeni.
Ond fan hyn, ar ôl trafod gyda’r tiwtoriaid lleol, daethon ni i’r penderfyniad na faswn i’n siarad unrhyw beth ond Cymraeg gyda’r dysgwyr. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn golygu na fydda i’n defnyddio geiriau Sbaeneg o dro i dro. Mae hynny’n angenrheidiol wrth gyflwyno’r Wlpan fel mae llawer ohonoch chi’n gwybod o’ch profiad eich hun yn Llambed. Ond fydda i ddim yn sgwrsio, nac yn ateb cwestiynau yn Sbaeneg. Gwnaethon ni hefyd benderfynu na ddylwn i byth siarad unrhyw beth ond Cymraeg gyda’r tiwtoriaid. Efallai bod hyn yn swnio braidd yn eithafol ond roedd sawl rheswm da dros benderfynu ar y rheol hon. Yn bennaf oherwydd, yn ôl y tiwtoriaid lleol, eu problem fwyaf oedd dosbarthiadau a oedd wedi bod yn dysgu ers sawl blwyddyn ond yn dal i fynnu siarad Castillano â’r tiwtor a gyda’i gilydd trwy’r amser yn ystod y wers. Felly daethon ni i’r penderfyniad mai fi ddylai ddysgu’r dosbarthiadau hynny o hyn ymlaen. Am nad oedden nhw wedi fy nghlywed yn siarad unrhyw beth ond Cymraeg doedd y dysgwyr ddim yn siŵr iawn ohono i! Doedden nhw ddim yn gwybod faint o Gastillano roeddwn i’n ei deall, a chan nad oeddwn yn ymateb o gwbl dyma nhw’n rhoi’r gorau iddi’n fuan a throi at y Gymraeg. Mae hyn wedi bod yn arf defnyddiol iawn i berswadio ambell ddosbarth sydd wedi bod wrthi’n dysgu ers blynyddoedd i groesi’r bont o’r diwedd!
Mae un o’r tiwtoriaid lleol dan hyfforddiant gyda fi bob amser gyda’r dosbarthiadau o ddechreuwyr ac os dwi’n gweld yr angen i esbonio rhywbeth wrth fynd ymlaen mae’r tiwtor lleol yn cyfieithu i mi. Maen nhw hefyd yn cyfieithu cwestiynau o dro i dro. Ond rhaid i ni fod yn ofalus iawn gyda hynny. Does dim eisiau i bethau droi’n sgwrs yn Castillano rhwng y dysgwr a’r cyfieithydd a minnau’n cael fy nhorri allan a cholli rheolaeth ar y dosbarth Felly, yn union fel unrhyw gyfarfod trefnus rhaid siarad trwy’r "Cadeirydd" bob amser! Mae pobl wedi derbyn y drefn yn eitha da chwarae teg. Dyn ni’n trïo eu cadw yn llawer rhy brysur gyda gweithgareddau fel nad oes ganddyn nhw amser i feddwl am ormod o gwestiynau ta beth!
Eseia Grandis, un o’r tiwtoriaid
lleol dan hyfforddiant
Mae’r tiwtoriaid lleol wedi twymo i’r syniad yn arw. Wrth fynd i mewn i ddosbarth un ohonynt gyda neges y diwrnod o’r blaen, ces i fy synnu braidd i weld "DIM OND CYMRAEG YN Y DOSBARTH!!" wedi’i ysgrifennu’n fawr iawn ar draws top y bwrdd gwyn. Ychydig yn llai cynnil na faswn i wedi’i argymell efallai. Ond roedd pawb i’w gweld yn ddigon diddig a’r Gymraeg yn unig i’w chlywed. Llwyddais i beidio â dechrau chwerthin nes fy mod yn ôl yn fy stafell fy hun! Canlyniad arall braf ac annisgwyl i’r polisi hwn oedd y cyfarfod Staff a Phwyllgor uniaith Gymraeg cyntaf erioed yn un o’r ysgolion. Digwyddodd yn hollol naturiol bron heb i neb sylweddoli, am mai’r Gymraeg yw iaith fy mherthynas i â phawb.
Y Bardd ac Awdur Grahame Davies
(sydd hefyd yn Ddarlithydd Cysylltiol
gyda Phrifysgol Caerdydd) yn trafod
ei waith gyda dysgwyr uwch yn
Ysgol Esquel yn ddiweddar.
Un peth bach arall sydd wedi gweithio yn arbennig o dda gyda’r dechreuwyr yw newid tipyn ar y ffordd rydyn ni’n defnyddio’r cardiau fflach. Rydyn ni’n mynd drwyddyn nhw’n drylwyr sawl gwaith yn y ffordd arferol. Ond ar ôl i ni orffen rydyn ni’n newid y drefn tipyn bach am y pum munud olaf. Dyn ni’n rhannu’r cardiau ac mae’r dysgwyr yn cael fy herio i. Nhw sy’n darllen y Gymraeg a fi sy’n ceisio cofio’r Castillano! Mae’n gweithio’n dda yn yr un modd ag y mae chwarae gemau bwrdd bach syml gyda dîs a chownteri yn gweithio er mwyn dysgu ac ymarfer rhifo, yn ogystal ag ymarfer y geiriau neu’r patrymau dan sylw. Oherwydd wrth ganolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei weld fel prif bwrpas y dasg, mae dysgwyr yn ymlacio ac yn dechrau defnyddio rhywbeth arall yn reddfol. Yn achos y cardiau fflach, maen nhw mor brysur yn chwerthin ar fy mhen i mae eu hynganiad Cymraeg yn gwella’n rhyfeddol! Mae’r cyfan fel arfer yn gorffen gyda chwerthin afreolus felly mae’n ffordd dda iawn i gloi sesiwn a danfon y dysgwyr adref gyda gwên ar eu hwynebau!
Gill Stephen
Ysgol Gymraeg yr Andes
Chubut
PATAGONIA