# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

tiwtorpic.jpg
   Tiwtor:

Gŵr â’i wreiddiau yn Sir Fôn, Bangor a Phorthaethwy. Does ryfedd felly iddo ennill teitl Mastermind Cymru ac yntau fel brenin yn syllu i lawr ar ei deyrnas o ucheldiroedd y gogledd.
    Cafodd ei addysg gynradd drwy gyfrwng y Saesneg ac yna symudodd y teulu i Borthaethwy a symudodd Siôn i Ysgol David Hughes. Yn yr ysgol honno roedd yr athro Cymraeg, Arwel Jones, wedi dylanwadu gymaint arno fel yr aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio’r Gymraeg ym 1975. Roedd sefyllfa’r Gymraeg bryd hynny mae’n siwr yn destun gofid iddo a bu’n weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith yn ystod ei ddyddiau coleg. Ym 1981 aeth ymlaen i astudio diwinyddiaeth ym Mryste ac yno, trwy ddamwain bron, y cafodd ei brofiad cyntaf o gynnal dosbarth nos Cymraeg i oedolion. Ychydig wedi hynny cafodd gyfle i fynd i Glasgow i fod yn ddarlithydd Diwinyddiaeth ac yna ym 1996 fe fentrodd yntau a’i wraig Siân ymhellach fyth pan dderbyniodd Siôn swydd Gweinidog cynorthwyol yn Eglwys Gymraeg Melbourne, Awstralia. Yno y buont tan 1999 gan integreiddio’n llwyr i’r gymuned Gymraeg. Tra ym Melbourne, bu Siôn hefyd yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg ac roedd yna ddiddordeb aruthrol yn y Gymraeg. Ar un adeg roedd 50 o bobl yn mynychu un dosbarth Cymraeg! Mae’r diddordeb yn parhau hyd heddiw gyda 3 dosbarth yn dal i gwrdd yn gyson.
    Ganwyd eu mab, Rhys, yn Awstralia ym 1998 a’r dymuniad i roi magwraeth ac addysg Gymraeg i’w mab arweiniodd at benderfyniad y teulu i ddychwelyd i Gymru. Ar yr un adeg wrth gwrs, roedd newidiadau gwleidyddol cyffrous yn digwydd yma, gyda’r addewid o Gymru newydd yn apelio’n fawr at Siôn a’i deulu ifanc. Yn fuan ar ôl dychwelyd i Wrecsam, mae’n cofio iddo ryfeddu at broffil uwch yr iaith a’i bod yn fwy amlwg o lawer nag yr oedd yn yr adeg cyn iddo symud i Awstralia. Yn wir, cafodd fraw yn Y Fenni ryw dro o weld baner Cymru yno yn ei gogoniant a’r silffoedd yn y siopau llyfrau yn gwegian dan bwysau’r holl lyfrau Cymraeg.
    Mae yntau fel nifer ohonom wedi arallgyfeirio o ran swydd ac erbyn heddiw mae ganddo gwmni cyfieithu llewyrchus hefyd, sef Geirda. Mae ei waith fel cyfieithydd a’i waith fel tiwtor yn cydfynd yn arbennig o dda ac mae’n medru gweld yn rhy glir o lawer mai’r broblem fwyaf sy’n wynebu dysgwyr yw’r diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol. Fel ym Melbourne, mae angen mawr am greu cyfleoedd ymarfer yn Wrecsam. Mae’n cyfaddef mai’r agwedd allgyrsiol ac anffurfiol ar iaith sy’n apelio fwyaf ato erbyn hyn, i’r fath raddau fel bod Menter Iaith Wrecsam wedi comisiynu ei gwmni, Geirda, i gwblhau ymchwil i anghenion allgyrsiol dysgwyr yn ardal Wrecsam. Ei obaith mawr yw y gall hynny arwain at gynnal cynhadledd genedlaethol ar ddysgu anffurfiol.
proffil2.jpg
    Ar hyn o bryd, fel tiwtor, mae’n gyfrifol am ddau ddosbarth. Mae ganddo ddosbarth Mynediad dan ofal Coleg Iâl sy’n cynnwys 7 o ddysgwyr ac mae ganddo hefyd ddosbarth Wlpan Pellach dan ofal Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cynnwys 8 o ddysgwyr. Mae’r myfyrwyr Wlpan Pellach yng nghanol eu trydydd blwyddyn gyda Siôn ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr iddo.
    Ond yn ôl at frenin y cwisiau ac at y diwrnod hwnnw ym mis Rhagfyr 2007 pan enillodd y tiwtor o Wrecsam goron Mastermind Cymru. Mae’r daith siopa i Tesco Wrecsam yn mynd yn hwy bob dydd iddo gan fod cymaint o bobl yn dod ato i’w longyfarch! Pwy feddyliai y byddai’r Diwygiad Crefyddol a Goronwy Owen yn cael cymaint o sylw, sef y testunau a ddewiswyd ganddo! Nid oes llawer o bobl yn gwybod y bu bron i Siôn gystadlu yn y gyfres gyntaf ac er iddo fod yn gystadleuydd wrth gefn bryd hynny, rhaid oedd mynd drwy’r un broses ddethol ar gyfer yr ail gyfres hefyd. Mae ei ddosbarthiadau wrth eu boddau fod ganddyn nhw diwtor adnabyddus ac mae’r profiad yn sicr wedi eu hysbrydoli nhw i wylio rhaglenni Cymraeg.
    Nid yw’n syndod felly bod Siôn yn cynnal cwisiau tafarn lleol yn rheolaidd ac mae’r rhain yn boblogaidd iawn gan ddysgwyr hefyd. Mae’n amlwg bod hynny’n ymgais ganddo i greu cyfleoedd cymdeithasu a dysgu’n anffurfiol. Mae ganddo syniadau pendant at y dyfodol hefyd a hoffai weld gweithgor yn cael ei greu gyda dysgwyr yn rhan ohono fel eu bod yn cymryd cyfrifoldeb ac yn helpu cynllunio’r ddarpariaeth ar eu cyfer.
proffil3.jpg
    Mae’n amlwg nad oes terfyn ar ei ymrwymiad a’i ddiddordeb byw yn yr iaith. Arwydd pellach o hynny yw’r ffaith bod y teulu’n gobeithio teithio nôl i Awstralia yr haf hwn i gynnal gweithgareddau addysgu Cymraeg.

Siwrne dda.

dots.jpg