# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

  digwydd1.jpg
Mae’n debyg mai un o’r pethau mwyaf defnyddiol i diwtoriaid a dysgwyr yw cael gwybod am wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau ar hyd a lled y wlad er mwyn gallu cymdeithasu ac ymarfer eu Cymraeg. Gall y rhain fod yn ddigwyddiadau a gynhelir yn rheolaidd megis cyfarfodydd Merched y Wawr a chyfarfodydd CYD, neu fe allent fod yn ddigwyddiadau unigryw megis gigs, teithiau cerdded a nosweithiau cymdeithasol. Y ffordd orau o ledaenu gwybodaeth yn lleol am yr holl ddigwyddiadau hyn yw mynd ati i greu Digwyddiadur ac un o’r bobl sy’n gwneud hynny’n rheolaidd bob wythnos yw Nic Dafis o Bontgarreg, sef y tiwtor dan sylw yn y rhifyn diwethaf.
digwydd2.jpg

Sut wyt ti’n mynd ati i gasglu gwybodaeth ar gyfer dy gylchlythyr, dysgu.com?
Mae’r rhan fwyaf o’r stwff yn dod ata i ac at Philippa trwy’r Ganolfan Iaith Ranbarthol a’r darparwyr eraill. Mae Aled Griffiths, swyddog Bwrdd yr Iaith yn rhoi ambell i beth a hefyd y Mentrau Iaith. Dw i’n edrych ar raglenni Theatr Mwldan, y Gromlech, a Felinfach. Wedyn, dw i’n darllen y papurau bro, a’r Teifi Seid a phethau tebyg. Does dim angen gwneud ymdrech fawr, a bod yn onest. Wrth i fwy o bobl ymuno â’r rhestr bostio, mae mwy o wybodaeth yn dod i law.
    Weithiau, byddaf i’n ymweld â gwefannau S4C, y BBC ac yn y blaen, i chwilio am stwff i’w rannu yn y cylchlythyr.
digwydd2.jpg

Sut wyt ti’n rhoi trefn ar yr holl wybodaeth?
Yn fras iawn, bob tro dwi’n clywed am ddigwyddiad fydd o ddiddordeb i ddysgwyr, dw i’n rhoi’r manylion mewn ffeil electronig dros dro, dyddiadur.txt. Os bydd y digwyddiad yn rhywbeth sy’n mynd i ddigwydd yn wythnosol neu’n fisol, dw i’n rhoi’r manylion mewn ffeil arall, patrwm.txt.
    Bob dydd Gwener, dw i’n agor y ffeil patrwm.txt, ac yn dileu pob digwyddiad  wythnosol/misol sydd ddim yn berthnasol i’r wythnos sy’n dod. Yna, dw i’n cadw’r ffeil gyda dyddiad heddiw fel enw.
    Wedyn dw i’n copïo pethau o’r ffeil dyddiadur.txt ar gyfer yr wythnos nesa i mewn i’r slotiau perthnasol am yr wythnos sy’n dod, a phopeth arall mewn i’r slot "I’ch dyddiadur".
    Mae’r holl ffeil wedyn yn cael ei chopïo a’i gludo mewn i neges e-bost. Gan fod dros 100 o bobl ar y rhestr bostio mae’n rhaid anfon dwy neges ar wahân. Dyw mail.app ar y Mac ddim yn gadael i mi anfon un neges at fwy na chant.
    I ddiogelu preifatrwydd y sawl sy’n derbyn y neges, mae’r cyfeiriadau e-bost yn mynd i’r blwch BCC: yn y rhaglen e-bost.
    Mae’n bwysig atgoffa pobl eu bod yn gallu stopio’r cylchlythyr, gan gynnwys "Y darn ar y gwaelod" sy’n esbonio sut i wneud hyn.
digwydd2.jpg

Oes unrhyw gyngor gennyt i’r sawl sy’n bwriadu llunio cylchlythyr tebyg?
Dw i’n credu bod e-bost sy’n cynnwys testun plaen yn llawer gwell na cheisio bod yn
glyfar ac anfon rhywbeth gyda lluniau ac ati. Does dim band llydan gan bawb, ac mae negeseuon e-bost llawn lluniau yn costio arian go iawn i’w lawrlwytho heb fand llydan.
Y wers fwyaf dw i wedi ei dysgu ers i mi ddechrau cadw’r cylchlythyr yw ei bod yn bwysig nodi manylion digwyddiadau yn syth, yn hytrach na chadw darnau bach o bapur, taflenni a negeseuon e-bost tan ddiwedd yr wythnos. Mae teipio pethau i fyny yn cymryd amser, ond mae 12 x 5 munud yn ystod yr wythnos yn teimlo’n llai o faich na threulio awr bob dydd Gwener.
Hefyd, mae’n rhaid bod yn hollol glir ynglŷn â beth sydd yn eich dalgylch a beth sydd ddim. Yn fy achos i, dw i’n tueddu i gynnwys popeth o fewn rhyw 15 milltir o Aberteifi, felly mae Crymych, Castell Newydd Emlyn a Llandysul yn iawn, ond nid Abergwaun, Aberystwyth a Llambed oni bai bod y digwyddiad yn rhywbeth anghyffredin.
Wrth gwrs, y ffordd orau o wneud pethau fel hyn mewn gwirionedd yw bwrw ati a gweld beth sy’n gweithio i chi.
digwydd2.jpg

Mae croeso i chi gysylltu â Nic os ydych chi eisiau trafod ymhellach: nicdafis@gmail.com
Fe welwch isod enghraifft o’r cylchlythyr dysgu.com
         iidigwydd3.jpg
   dysgu.com
_________________________________________________________________
Cylchlythyr i Ddysgwyr - 11 Ebrill 2008
Digwyddiadau o ddiddordeb i ddysgwyr ac eraill, yn ardal Aberteifi a thu hwnt.
Events for Welsh learners and others, in Aberteifi and beyond.
_________________________________________________________________


Yr wythnos sy’n dod - The week ahead
_________________________________________________________________
DYDD SADWRN, 12 EBRILL 2008
Taith Gerdded
Hafod Uchtrys ger Pont-rhyd-y-groes. Dan ofal Cymdeithas Edward Llwyd. Llwybr newydd a Lefel Ambwll. Tua 6 milltir gymedrol. Dewch â phecyn bywd a dim cŵn. Cwrdd am 10.30 ym maes parcio Eglwys Newydd (SN 757733). Rees Thomas 01970 828772.
_________________________________________________________________
DYDD LLUN, 14 EBRILL 2008
Cyd Trefdraeth
Bob bore Llun, 11.30 - 12.30, Gwesty’r Castell, canol Trefdraeth.
01239 820653
_________________________________________________________________
DYDD MERCHER, 16 EBRILL 2008
Cyd Llangrannog
Pentre Arms, Llangrannog, 7.30yh ymlaen. 1af a’r 3ydd nos Fercher pob mis.
1st & 3rd Wednesday of the month.
Philippa 01239 654561
_________________________________________________________________
DYDD IAU, 17 EBRILL 2008
Cyd Llandysul (Nos)
Y Porth, 3ydd Nos Iau yn y mis am 7.45yh.
Porth Hotel, 3rd Thursday of the month at 7.45pm.
Peter a Fleur Moody 01559 371097
Heno: Ymweliad i Delynau Teifi
_________________________________________________________________
DYDD GWENER, 18 EBRILL 2008
Cyd Aberteifi (Bore)
Yr Oriel, Theatr Mwldan, bob bore Gwener am 11.30yb.
Theatr Mwldan Gallery, every Friday at 11.30am.
Ann Stokoe 01239 621739 Howard Williams 01239 682182

Gig Crymych
Taith MC Mabon, Brwydyr y Bandiau a Lowri Evans,
Clwb Rygbi Crymych, 7.30 o’r gloch
Manylion: rhian@mentersirbenfro.com 01239 831129
_________________________________________________________________
DYDD SADWRN, 19 EBRILL 2008
Taith Gerdded - Tregaron
Bydd Dafydd Morse yn arwain taith gerdded gyda Chlwb Cerdded Crwydro Caron, ddydd Sadwrn, Ebrill 19, gan ddechrau o Westy’r Talbot Tregaron am 9yb. Bydd cyfres o geir (yn dibynnu ar y niferoedd) yn mynd lan i Soar y Mynydd, lle byddwn yn gwneud taith 6.5 milltir. Mae’r daith yn un weddol o galed, a bydd angen dillad/bwyd addas ar gyfer y daith. Dwi’n meddwl bod y Clwb yn codi tâl o £2 ar gyfer y daith i’r rhai sydd ddim yn aelodau. Dylai’r daith bara 4 awr.
    Byddai’n ddelfrydol medru cofrestru ar gyfer y daith o flaen llaw. Rhif ffôn cyswllt - Dafydd Morse ar 01974 821352


   I’ch dyddiadur - For your diary
_________________________________________________________________
DYDD GWENER, 25 EBRILL 2008
Castell Newydd Emlyn - Twrw Teifi
Gig gan fandiau ifainc yr ardal. Mwy o fanylion i ddod.
A gig by some of the area’s young bands. More details to follow.
_________________________________________________________________
DYDD SADWRN, 3 MAI 2008
Sadwrn Siarad Felin Fach
10.00 - 3.30. £5.
Manylion i ddilyn / Details to follow.

Gig Celt - Castell Newydd Emlyn
Band roc Cymraeg o’r Gogledd pell, yn chwarae yn yr Emlyn Arms.
http://www.youtube.com/watch?v=Hfyi9nyBmGU
_________________________________________________________________
DYDD IAU, 15 MAI 2008
Cyd Llandysul (Nos)
Heno: Twmpath Dawns yn Neuadd Capel Mair.
Peter a Fleur Moody 01559 371097
_________________________________________________________________
DYDD SADWRN, 17 MAI 2008
Gig Crymych
Gig ‘Deffro’r Deyrnas’ - Elin Fflur ac Eusabio
Clwb Rygbi Crymych, 8 o’r gloch
http://www.elinfflur.com/
Manylion: rhian@mentersirbenfro.com 01239 831129
_________________________________________________________________
DYDD LLUN, 19 MAI 2008
Cilgerran
‘Noson Blas ar Gymru’ - Neuadd Bentref Cilgerran, 7.30.
Manylion: rhian@mentersirbenfro.com 01239 831129
_________________________________________________________________
DYDD IAU, 19 MEHEFIN 2008
Cyd Llandysul (Nos)
Y Porth, 3edd Nos Iau yn y mis am 7.45yh.
Porth Hotel, 3rd Thursday of the month at 7.45pm.
Peter a Fleur Moody 01559 371097
Heno: Taith Gerdded ac ymweliad â Changen Llangrannog (???)
_________________________________________________________________
23 - 27 MEHEFIN 2008
Ysgol Haf Aberystwyth
10.00 - 3.00, Dydd Llun - Dydd Gwener. £35/£30. Manylion i ddilyn / details to follow.
_________________________________________________________________
7 - 18 GORFFENNAF 2008
Cwrs Haf Sir Benfro
Coleg Sir Benfro.
Manylion: Dewi Rhys-Jones, hiciacitsilfanws@hotmail.co.uk
http://docs.google.com/Doc?id=dgxzvsjz_26f7pt99hs
_________________________________________________________________
DYDD IAU, 17 GORFFENNAF 2008
Cyd Llandysul (Nos)
Y Porth, 3edd Nos Iau yn y mis am 7.45yh.
Porth Hotel, 3rd Thursday of the month at 7.45pm.
Peter a Fleur Moody 01559 371097
Heno: Helfa drysor
_________________________________________________________________
28 GORFFENNAF - 22 AWST 2008
Wlpan Awst Aberystwyth
Cwrs Dwys i ddysgwyr o bob lefel.
Manylion: http://morfablog.com/08/03/wlpan_awst_2008.pdf
_________________________________________________________________
12-14 MEDI 2008
Penwythnos Owain Glyndwr
Mae Menter Iaith Môn a Crwydro Môn yn cynnig penwythnos arbennig i ddysgwyr Cymraeg ar bob lefel.
Menter Iaith Môn and Crwydro Môn-Anglesey Walking Holidays are offering Welsh learners of all levels a special weekend on Anglesey!
Manylion/Details: http://docs.google.com/Doc?id=dgxzvsjz_16fpb4stcs
_________________________________________________________________



Gwefannau o ddiddordeb - Useful websites
_________________________________________________________
CYD  
http://www.cyd.org.uk/

BBC WALES - LEARN WELSH   
http://www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/

BBC CYMRU
http://www.bbc.co.uk/cymru/
http://www.bbc.co.uk/cymru/vocab/ (subtitles!)

Y RHITHFRO - WELSH LANGUAGE BLOGS   
http://www.blogiadur.com/

MAES-E - ONLINE COMMUNITY   
http://maes-e.com

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD   
Teithiau Cerdded yn y Gymraeg
http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/

CYLCHGRAWN AR-LEIN I DIWTORIAID A DYSGWYR
ON-LINE MAGAZINE FOR TUTORS AND LEARNERS
http://www.ytiwtor.org



Y darn ar y gwaelod - The bit at the bottom
_________________________________________________________
Os dych chi ddim am dderbyn y cylchlythr hwn, anfonwch at
nic@dysgu.com ac fe dynnwn ni eich enw o’r rhestr yn syth.
Os ydych chi’n gwybod am rywbeth sy’n digwydd a fydd o
ddiddordeb i ddysgwyr, rhowch wybod i’r un cyfeiriad.

If you no longer wish to receive this newsletter, email us
at nic@dysgu.com and we’ll take your name off the list.
If you know of any event of interest, please let us know,
at the same address.


digwydd2.jpg
Un arall sydd yn trefnu digwyddiadur yn rheolaidd yw Eirian Conlon, gyda chymorth Pauline Owen, ar gyfer y clwb C3, a hynny yn ardal yr Wyddgrug. Dyma enghraifft ohono:



   Clwb Cymdeithasu Cymraeg C3

Dyma’r DYDDIADUR DIWEDDARA.
Bob dydd Sul o Fehefin 1af ymlaen bydd Clwb Cerdded Cymraeg yr Wyddgrug yn cyfarfod am 1.15 ym Maes Parcio Love Lane yr Wyddgrug. Croeso i bawb…cysylltwch â Jane Owen 01352 756703 am fwy o fanylion.

Mehefin 2 ( nos Lun) Siwan Saunders Lewis – 7.30 Theatr Clwyd.  Cyfarfod am 7 yn y bar os dach chi isio sgwrs cyn y ddrama... a sgwrs ar y diwedd hefyd! Cofiwch: CYD Offer = £7

Mehefin 8 ( dydd Sul) – dewch i ddarganfod Gwarchodfa Natur Rhydymwyn! Bydd Kylie Jones yn mynd â ni o gwmpas y lle difyr a dirgel yma. Croeso i bawb gan gynnwys plant. Dathlu wythnos Bioamrywiaeth. Lle i 15 person yn unig. Cyfarfod am 11 – anfonwch eich enwau ata i ac mi gewch chi wybod lle!!

Mehefin 19 (nos Iau) 8 y.h.– Ffilm Gymraeg yn Theatr Clwyd!! Y ffilm antur Dirgelwch yr Ogof…..£4.50 i aelodau C3, £5 i bawb arall – Addas i bawb dros 9 oed!! Cyfarfod o 7 ymlaen yn Ystafell Haydn Rees am hwyl Smyglaidd…Un diod am ddim! Mae`r ffilm yn dechrau am 8. Diolch i John Williams, Clwyd Theatr Cymru am drefnu`r noson.

Gorffennaf 16 (nos Fercher) – Noson  Gymdeithasol yng nghwmni Cymdeithas Wil Bryan – y Savoy, Yr Wyddgrug. Cyfarfod yno am 6.30.
Helfa Drysor/cwis, bwffe, adloniant – y cwbl am £5! Rhaid i mi gael yr arian erbyn  Mehefin 20.

Gorffennaf 19 (dydd Sadwrn) – dewch am dro i fyny Moel Findeg i ddathlu diwedd blwyddyn 1af C3! Cyfarfod yn yr Enfys Gwernymynydd, 11.00. Cinio yno ar y diwedd!

Cofiwch hefyd am ŴYL WERIN TEGEINGL ( Awst 15-16) yn Yr Wyddgrug – cyfle i ni gyfarfod yn ystod gwyliau`r Haf!! Mi fyddwn ni ar stondin C3/Prifysgol Bangor rhwng 1 a 4 dydd Sadwrn ac o gwmpas y lle drwy`r penwythnos!
Dan ni`n dechrau gweithio ar raglen flwyddyn nesa`n barod – tymor nesa:
  1. Parti Penblwydd C CIWB!!
  2. Taith Gerdded yr Hydref i goedwig breifat, wedyn canu gwerin yn y Dderwen, yr Hendre.
  3. Noson Tapas a Salsa
  4. Noson Nadoligaidd efo Merched y Wawr – yn cynnwys paned a bwyd bys a bawd.

A MWY!!
Mi fyddwn ni`n gofyn i chi am eich hoff ddigwyddiadau eleni ac am awgrymiadau/cynigion ar gyfer 2008/9.
Os dach chi`n aelod o FACEBOOK, ymunwch â grwp C3 yr Wyddgrug. Diolch Alaw ac Andrew!!!

Am wybodaeth (a lluniau) edrychwch ar http://www.bangor.ac.uk/c3

I fod yn aelod o C3 - £2 y flwyddyn - cysylltwch ag Eirian Conlon/Pauline Owen, d/o Tŷ Pendre, Pwllglas, yr Wyddgrug CH7 1RA,  01352 756080 ebost e.conlon@bangor.ac.uk

digwydd2.jpg


Y bwriad yw cynnwys digwyddiadur o sawl ardal yng Nghymru yn rhifynnau nesaf y Tiwtor gan obeithio y byddai hynny’n datblygu i fod yn eitem barhaol. Felly, mae croeso i chi anfon atom fanylion digwyddiadau unigol neu gyfres o ddigwyddiadau ar ffurf digwyddiadur gan ddefnyddio’r ffurflen sylwadau a geir yn yr adran ‘cysylltu.’ Cofiwch mai ar ddiwedd mis Medi y cyhoeddir rhifyn 3 y Tiwtor.

iidigwydd3.jpg