# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008
   Dysgwr y Flwyddyn
   gyda NIACE Cymru
les1.jpg
Stori
Les Barker

Enwebais Les Barker ar gyfer dysgwr y flwyddyn efo NIACE Cymru eleni ac er mawr syndod derbyniais lythyr i ddweud ei fod wedi ennill. Buom lawr yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ar gyfer y cyflwyniad ym mis Mai.
    Daeth Les atom ym Mhopeth Cymraeg ddwy flynedd yn ôl. O’r dechrau mae o wedi mynychu dwy wers yr wythnos yn wreiddiol efo’r syniad y basai’n colli rhai oherwydd ei fod i ffwrdd efo’i waith cymaint ond prin yw’r gwersi mae o wedi eu colli erioed. Erbyn hyn mae o’n mynychu un wers efo Popeth Cymraeg ac un efo Prifysgol Bangor. Cafodd Les drafferth efo’i iechyd ar ôl y Nadolig eleni ond un wers yn unig gollodd o. Daeth i’r dosbarth unwaith yn syth o’r ysbyty gyda’r gŵn nos a’r slipars mewn bag, ac roedd e wedi dod ar y bws achos doedden nhw ddim am adael iddo yrru! Cymaint yw ei ymrwymiad at y Gymraeg.
    Bardd ydy Les a dyma sut mae o wedi ennill ei fywoliaeth ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae o’n enwog iawn yn y byd gwerin ac mae o’n perfformio ei waith ledled y wlad ac yn wir ledled y byd. Y llynedd yn yr haf treuliodd wythnosau yn teithio America
    Symudodd o Fanceinion bedair mlynedd yn ôl i Fwlchgwyn ger Wrecsam. Teimlodd reidrwydd i ddysgu’r iaith er mwyn dangos parch i’r wlad yr oedd wedi symud iddi ond roedd rhaid iddo aros ddwy flynedd gan ei fod yn teithio cymaint dros y byd yn perfformio ei waith.
    Fodd bynnag, wedi dechrau does dim stop arno. Mae o’n mynychu sesiynau sgyrsio ar draws y Gogledd Ddwyrain ac yn mynd i unrhywle er mwyn ymarfer yr iaith. Mae o’n arbennig o hoff o’r caffi Gloriosa ym Mae Colwyn lle mae’r perchnogion yn Gymry Cymraeg ac mae trigolion Llansannan dw i’n siwr yn gyfarwydd ag o yn eu sesiynau sgyrsio yno. Mae o’n arbennig o werthfawrogol meddai o faint o amser y mae tiwtoriaid yn ei roi y tu allan i’r dosbarth mewn gweithgareddau gwahanol fel Eisteddfod y Dysgwyr a gynhelir yn Sir y Fflint a’r gwahanol deithiau a drefnir.
    Dywed Les, "Dw i wrth fy modd fy mod i wedi darganfod cymuned lle mae ysgrifennu, canu, dawnsio a chwarae offerynnau yn weithgaredd normal. Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn gamp aruthrol i mi ac wedi fy helpu yn wirioneddol i ymgartrefu yn y diwylliant lleol.”
les2.jpg
    Er fy mod yn gwybod bod Les yn fardd nid oeddwn yn ymwybodol o‘i enwogrwydd nes i ni fynychu Gŵyl Y Cadi Ha a gynhaliwyd yn Sir y Fflint llynedd. Daeth Dawnswyr atom o Ynys Manaw ac roedd un ohonynt wedi cyffroi am ei bod wedi cyfarfod â Les Barker ac roedd rhaid iddi gael ei lofnod i fynd adre efo hi at ei gŵr er mwyn gwneud iddo deimlo’n eiddigeddus iawn!
    Ar ôl blwyddyn o ddysgu Cymraeg dechreuodd Les fynd ati i ysgrifennu yn y Gymraeg ei hun tra ar y un pryd yn cyfieithu’r Arwr gan Hedd Wyn. Treuliais ambell i awr ar ôl y dosbarth yn ei gynorthwyo i gyfieithu’r gerdd a oedd yn dipyn o sialens i mi heb sôn am un oedd wedi bod yn dysgu dim ond ers blwyddyn. Ac felly penderfynodd fynd ati i ddysgu ychydig am y gynghanedd a’r awdl. Eleni mae o wedi mynd at i ysgrifennu awdl ei hun. Mae o wedi bod i Dalwrn y Beirdd efo ffrind i mi ac mae’r prifardd (a’r tiwtor) Siôn Aled wedi ei wahodd i ymuno â nhw yn y tîm yn yr Hydref. Mae Les yn gobeithio y bydd wedi dysgu mwy am gynghanedd erbyn hynny!
    Treuliodd Les naw mis yn cyfieithu’r Odliadur. Roedd yn angenrheidiol meddai er mwyn iddo allu cyfansoddi ei hun. Wrth fynd ati am y tro cynta i farddoni teimlodd nad oedd yn deall digon o’r geiriau i gyfansoddi  felly be’ arall fedr o wneud ond cyfieithu’r holl lyfr! Mae o wedi cysylltu â’r Lolfa i weld a oes ganddynt ddiddordeb yn y cyfieithiad ond fedran nhw ddim gweld gwerth ariannol mewn gwneud, meddai. Fodd bynnag, wrth wneud, teimlodd fod y profiad wedi bod yn fuddiol iawn a’i fod wedi dysgu llawer am strwythur geiriau.
    Gellir crynhoi cymeriad Les drwy ddweud ei fod yn ddyn diymhongar iawn ond eto’i gyd yn athrylith bron, sy’n meddu ar feddwl chwim ac mae hynny’n brin iawn.

Frances Jones

iidigwydd3.jpg