# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

   Cynhadledd ALTE Caergrawnt
   10-12 Ebrill 2008

alte1.jpg
Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol ALTE yng Nghaergrawnt eleni. Dyma’r trydydd tro i ALTE gynnal cynhadledd fawr, a’r tro hwn roedd dros 500 o bobl wedi dod. Mae’r rhain yn wahanol i’r cyfarfodydd arferol, ac yn gyfle i’r byd a’i frawd gynnig papurau ar agweddau gwahanol ar eu harholiadau iaith. Thema fras y gynhadledd oedd Effaith Gymdeithasol ac Addysgol Asesu Iaith.
    Roedd cymaint o gyflwyniadau, roedd rhaid dewis un allan o ddeg neu ddwsin o gyflwyniadau a oedd yn digwydd ar yr un pryd. Bu rhai cynadleddwyr yn ddigon gwirion i ddod i wrando ar gyflwyniad ar ddatblygu’r arholiadau Mynediad a Sylfaen yng Nghymru. Yn ogystal â’r sesiynau cyfochrog, roedd darlithiau ar y cyd gan rai o arbenigwyr amlycaf maes asesu ieithoedd. Dyma flas ar rai o’r cyflwyniadau a welwyd:


Defnyddio Corpora i broffilio lefelau
(John Hawkins)

Mae John Hawkins yn gweithio ar yr English Profile Programme. Nod y project yw disgrifio’r hyn a olygir wrth lefel o fewn Fframwaith Cyngor Ewrop, o lefel A1 i lefel C2. Nid yw’r Fframwaith ei hun yn cynnig unrhyw gynnwys ieithyddol, hynny yw, pa gystrawennau, pa eirfa sy’n nodweddu iaith dysgwr ar y lefelau gwahanol. Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar ffwythiannau a datganiadau gallu, ac fel y nododd John Hawkins, ‘the ability to do each of these tasks does not tell us with precision which grammatical and lexical properties of English (and other target languages) the learner actually knows at each level.’ Mae hyn yn adeiladu ar waith John Trim a arloesodd yn y gwaith o ddatblygu’r lefelau ‘threshold’, a ‘breakthrough’ a ‘waystage’. Roedd John Trim ei hun yn y gynulleidfa.
    Rhan o’r project oedd defnyddio’r ‘Cambridge Learners Corpus’, sef cronfa electronig o 30 miliwn o eiriau wedi eu ‘codio’ am wallau. Dyma rai enghreifftiau:

RN - Replace noun (e.e. Have a good travel)
RV - Replace verb (e.e. I existed last weekend in London)
MD - Missing determiner (e.e. I spoke to president; I have car)

Mae’r corpws hefyd yn edrych ar y math o iaith gywir mae dysgwyr yn gallu eu cynnig ar bob lefel. Er mwyn cymharu iaith dysgwr ag iaith siaradwr iaith gyntaf, mae’r project yn edrych ar y ‘British National Corpus’ er mwyn cymharu. Mae hyn yn ffordd dda o edrych ar amlder, ac un o ganlyniadau amlwg yr ymchwil oedd bod dysgwyr ar y lefelau is yn fwy tebygol o ddefnyddio geiriau sy’n codi’n gyson mewn iaith bob dydd. Gellir edrych ar wefannau am ragor o wybodaeth am y rhain:

www.natcorp.ox.ac.uk (gwefan y ‘British National Corpus’)


Datblygu System Asesu i gefnogi polisi
(Lid King a Kate Green)

Nod y sgwrs oedd sôn am y ‘Languages Ladder’ a ddeilliodd o’r ‘National Languages Strategy’ ar gyfer Lloegr. Man cychwyn y project oedd yr angen i hybu dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion yn Lloegr. Yn ôl arolygon Ewropeaidd, mae Lloegr yn waeth na’r un wlad arall am ddysgu ieithoedd tramor, ond erbyn 2011, bydd dysgu iaith dramor yn orfodol mewn ysgolion cynradd. Mae’r ‘Languages Ladder’ yn cynnwys nifer o ddatganiadau gallu ar lefelau gwahanol, ymhob sgìl ac yn cynnig asesiad ffurfiol ar bob un. ‘Asset Languages’, sef rhan o ‘Cambridge Assessment’ sydd wedi cael y gwaith o ddatblygu’r arholiadau. Mae’r portffolio ieithoedd yn cynyddu ac yn mynd i gynnwys yr Wyddeleg, y Gymraeg a’r Gernyweg o’r flwyddyn nesaf. Mae nifer o gwestiynau am y cynllun, e.e. y ffaith eu bod yn mynd i gyfieithu’r profion o un iaith i’r llall; bod yr asesu’n digwydd drwy gyfrwng y Saesneg bob tro. Fodd bynnag, gellir edrych ar y gwefannau hyn am ragor o wybodaeth:


alte2.jpg
Effaith yr Arholiadau Gwyddeleg i Oedolion
(Anne Gallagher)

Rhoddodd Anne gyflwyniad ar ddatblygu’r arholiadau Gwyddeleg i oedolion, a’r niferoedd cynyddol sy’n dewis sefyll y profion hynny. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr arholiadau hyn ar y wefan gynhwysfawr:



Strategaeth Skills for Life
(Philida Schellekens)
Bydd rhai’n cofio Philida’n siarad yn y gynhadledd i diwtoriaid Cymraeg i oedolion yn 2006. Mae hon yn strategaeth yn Lloegr (sydd wedi ei mabwysiadu yng Nghymru) ar gyfer gwella llythrennedd, rhifedd ac ESOL ymhlith oedolion. Rhaid seilio cymwysterau ar y strategaeth hon. Roedd y cyflwyniad yn sôn am weithredu’r cynllun gyda mewnfudwyr. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar:



Effaith y CEFR
(Fframwaith Cyfeirio Cyngor Ewrop) (Brian North)

Dyma un o’r darlithiau ar y cyd. Brian North oedd un o awduron y CEFR, a disgrifiodd effaith bell-gyrhaeddol y fframwaith dros y byd. Mae’n cael ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, yng Nghanada, America Ladin, Siapan a llefydd eraill. Soniodd am arolygon a wnaed yn 2005 a 2006 ar ddefnyddioldeb y fframwaith. Un o’r prif ganlyniadau oedd bod angen help ar y rhai sy’n defnyddio’r fframwaith wrth geisio ei ddehongli a’i roi ar waith. Pwysleisiodd droeon mai rhywbeth i gyfeirio ato oedd y fframwaith, nid rhywbeth i ddiffinio cymwysterau na chyrsiau. Soniodd am y llawlyfr a ddatblygwyd gan ALTE i gysylltu arholiadau â’r fframwaith, gan dderbyn bod llawer o waith i’w wneud eto wrth ddiffinio’r chwe lefel.


Effaith yr arholiad CPE ar lyfrau cwrs
(Roger Hawkey)

Roedd Roger Hawkey’n sôn am effaith yr arholiad ar lyfrau cwrs, ac yn edrych yn fanwl ar ymatebion tiwtoriaid a defnyddwyr eraill i’r llyfrau hynny. Treuliodd dipyn o’r sgwrs yn diffinio’r hyn a olygir wrth ‘washback’. Dyma ddau o’r llyfrau amlwg oedd yn rhan o’r project, sydd yn cynnwys llyfr cwrs, pecyn i’r dysgwr, adnoddau sain ac ati. Gallai’r rhain fod o ddiddordeb i diwtoriaid sy’n dysgu ar lefelau Uwch a Hyfedredd.
Towards Proficiency Peter May OUP
New Progress to Proficiency Leo Jones CUP


Cynnydd Ffwythiannol a’r CEFR - manylebu ar gyfer dysgwyr lefelau uwch
(Anthony Green)

Roedd Tony Green yn gweithio ar yr English Profile Project (gw. crynodeb John Hawkins uchod). Er bod manylebau ar gael i’r Saesneg ar lefelau A1-B1, (sef llyfrau John Trim ar Breakthrough, Waystage, Threshold a Vantage), does dim manylebau ar gyfer lefelau C1 ac C2. Erbyn diwedd B2, mae’n debyg fod y patrymau a’r eirfa hanfodol wedi eu cyflwyno, felly roedd angen edrych ar nodweddion eraill ar y lefelau uchel hyn. Dyma ochr arall i’r geiniog - lle roedd y gwaith ar y corpora’n edrych ar allbwn yr ymgeiswyr, roedd y llunwyr manylebau yn ceisio diffinio’r hyn y dylai’r ymgeiswyr ei wybod ar y lefelau priodol. Beth yw’r nodweddion sy’n gwahaniaethu’r lefelau hyn? Roedd hi’n amlwg nad oedd y gwahaniaeth rhwng C1 ac C2 yn hawdd ei ddiffinio, ac roedd cryn waith i’w wneud eto ar y lefelau hyn.


Profion llafar mewn ail iaith: perspectif ‘social-neuroscience’
(Hyeon Jeong, Shuken Shiozaki a Ryuta Kawashima)

Dyma’r cyflwyniad mwyaf rhyfedd gan ymchwilwr o Siapan. Nod y project ymchwil oedd mesur gweithgarwch ymenyddol yn ystod profion siarad. Roeddynt yn ceisio cymharu’r gwahaniaeth rhwng siarad â chyfwelydd llafar a siarad â chyfrifiadur (‘semi-direct’), gan ddefnyddio sganiwr fMRI i edrych ar lif y gwaed mewn lleoedd penodol yn yr ymennydd, sef y parthau sy’n gyfrifol am iaith (parthau Broca, Wernicke ac ati), a’r parthau sy’n gyfrifol am wybyddiaeth gymdeithasol (‘social cognition’). I’r diben hwn, roedden nhw wedi rhoi’r ymgeiswyr i mewn i sganiwr fMRI a chynnal prawf llafar, gan edrych ar luniau o’r hyn oedd yn digwydd yn yr ymennydd. Canlyniad yr ymchwil oedd bod mwy o ‘cortical activation’ yn digwydd wrth siarad mewn ail iaith, a mwy hefyd yn digwydd pan oedd cyfwelydd llafar yn bresennol (nid cyfrifiadur). Roedd hi’n anodd gwybod sut i gymhwyso canlyniadau’r ymchwil wrth lunio profion llafar.


Gosod Safonau - egwyddor, gwleidyddiaeth neu ragfarn?
(Lynda Taylor)

Roedd Lynda Taylor yn sôn am sut mae ein dealltwriaeth o ‘safon’, yn arbennig beth a olygir wrth Saesneg safonol, yn newid. Mae arholiadau Saesneg Caergrawnt yn darparu fersiynau amrywiol o’r profion gwrando, e.e. fersiwn i America Ladin, fersiwn i ddwyrain Asia. Fodd bynnag, prin yw’r cyrff arholi sy’n rhoi unrhyw ystyriaeth i’r amrywiaeth bosibl. Roedd Lynda’n cydnabod bod iaith yn newid a chanfyddiadau o beth sy’n dderbyniol yn newid, wrth i’r iaith Saesneg droi’n lingua franca byd-eang.


Datblygu ffurfiau cyfatebol mewn profion darllen: Pwysigrwydd y Lluniad (Construct)
(Cyril Weir)

Mae Cyril Weir yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ar asesu iaith. Roedd yn pwysleisio pwysigrwydd ‘lluniad’ wrth ysgrifennu manylebau, hynny yw, diffinio’n ofalus beth a olygir wrth ‘ddarllen’ a sicrhau bod hynny’n cael ei adlewyrchu yn y profion. Cyfeiriodd at ddulliau gwahanol o sicrhau bod gwahanol gyfleon i sefyll arholiadau yn cyfateb o ran safon, a pha mor anodd oedd gwneud hyn mewn gwirionedd. Awgrymodd ddefnyddio pethau fel ‘item-banking’ a gweithio ar fanylebau gan edrych ar nifer o baramedrau gwahanol. Gellir gweld sylwedd y cyflwyniad yn Research Notes a gyhoeddir gan Cambridge ESOL:



Cyfeiriodd hefyd at wefan ddefnyddiol, sydd yn galluogi pobl i ddadansoddi testunau (Saesneg, wrth gwrs). Un peth defnyddiol yma yw mesur amlder - o edrych ar eitem eirfa unigol, mesur pa mor aml y mae’n codi mewn iaith bob dydd.

Dylid rhoi ‘Compleat Lexical Tutor’ i’r chwiliwr, neu glicio ar:


Roedd llawer iawn o gyflwyniadau eraill yn y gynhadledd. Dylid edrych ar wefan alte: www.alte.org am ragor o fanylion a dolenni defnyddiol eraill.

Emyr Davies

dots.jpg