# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 2 Haf 2008

* Cafwyd sesiwn diddorol iawn ar Gymraeg i’r Teulu gan Owen Saer yn y Gynhadledd Flynyddol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2007. Gweler detholiad ohono isod.


   Cymraeg i’r Teulu (CiT)
gan Owen Saer

Ers dod yn Swyddog Datblygu Cymraeg i’r Teulu gyda Chanolfan Iaith Morgannwg, daeth y gwahaniaeth rhwng cyrsiau prif-ffrwd a rhai CiT yn fwyfwy amlwg imi. A chyffredinoli rhywfaint, mae cynulleidfa cyrsiau prif-ffrwd Cymraeg i Oedolion (CiO) yn dueddol o ddod atom o’u gwirfodd, ond mae’n rhaid mynd i hela’r rhai sy’n mynychu cyrsiau Cymraeg i’r Teulu (CiT), ac, o’u cael i’r dosbarth, bydd angen triniaeth braidd yn wahanol arnynt. Dyma gais i gyfleu’r gwahaniaeth rhwng cyrsiau CiO a CiT.
    Penderfynwyd ffafrio’r term Cymraeg i’r Teulu yn hytrach na Chymraeg i Rieni, gan fod yr ail yn awgrymu cynulleidfa gyfyngach. Mae’r term CiT yn cwmpasu pob cwrs sy’n cyflwyno Cymraeg i oedolion sydd am ddefnyddio’r iaith gyda phlant, boed:

•  yn y cartref (rhieni, mamguod/tadcuod, gwarcheidwaid);
•  ym maes addysg (staff meithrinfeydd ac ysgolion: athrawon, cynorthwywyr, staff cinio, staff y gegin, glanhawyr a gofalwyr), neu
•  mewn sefydliadau eraill sy’n ymdrin â phlant (canolfannau hamdden, clybiau ieuenctid, siopau ac ati).

Dw i’n gweithio gyda chanolfan Morgannwg ac fe welwch isod is-ranbarth Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg, a’i thair ardal.

teulu1.jpg
    Mae cyfrifoldebau Swyddogion Datblygu y Ganolfan hon rywfaint yn wahanol i rai’r Canolfannau eraill: mae Janette Jones yn gyfrifol am ardal Merthyr, ac am Gymraeg i’r Gweithle yn y tair ardal; mae Lynette Jenkins yn gyfrifol am ardal Rhondda Cynon Taf, ac am Asesu ac Achredu yn y tair ardal; rwyf innau, Owen Saer, yn gyfrifol am ardal Pen-y-bont, ac am Gymraeg i’r Teulu yn y tair ardal. Y drefn arferol yw bod Swyddog Datblygu yn gyfrifol am ei (h)ardal a phob cwrs ynddi, boed yn gyrsiau CiO, CiG neu CiT, a’r fantais yw eu bod yn gwybod am bob cwrs sydd yn digwydd yn yr ardal y maent yn gyfrifol amdani. Mantais trefn Morgannwg, ar y llaw arall, yw ei bod yn caniatáu i’r Swyddogion ganolbwyntio ar eu maes penodol.
    Pan y dechreuais ar fy swydd ym Medi 2006, bu’n rhaid dod i adnabod y prif sefydliadau isod sydd ynghlwm wrth y maes CiT er mwyn cael darlun o’r ddarpariaeth oedd yn bodoli eisoes. Anodd iawn oedd cael gwybodaeth am wahanol sefydliadau a chyrsiau, gan nad oedd unrhyw restr gynhwysfawr, ganolog i’w chael yn unlle (hyd y gwyddwn!).
teulu2.jpg
    Dyma fwrw ati a phenderfynwyd cynnig cyrsiau i rieni yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ers y cychwyn, mae’r ysgolion, eu penaethiaid, athrawon a staff eraill wedi bod yn hynod o gydweithredol a chefnogol i’r gwaith hwn.

Y cam cyntaf oedd:
•  Dechrau gydag ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal
•  Manteisio ar gysylltiadau personol (Penaethiaid a chanddynt enw am fod yn flaengar ac yn gefnogol i brosiectau o’r fath)
•  Cysylltu ag ysgolion mawr o ran maint - gellir disgwyl ymateb gan fwy o rieni mewn ysgolion mawr a chael digon i gael dosbarth at ei gilydd
•  Targedu rhieni oedran Meithrin a Derbyn yn gyntaf

Yr ail gam oedd gwneud gwaith ymchwil. Er mwyn penderfynu ar gynnwys y cwrs, bu angen cryn dipyn o ymchwil a thrafod gyda gwahanol bobl:
teulu3.jpg
Roedd rhaid ystyried materion ymarferol hefyd wrth drefnu’r cyrsiau:

Agweddau ymarferol
•  Hyd y cwrs a hyd y sesiynau – 4 x sesiwn 1.5 awr
•  Cynnwys y plant yn y sesiynau yn wythnosau 3 a 4
•  Diwrnod ac amser: 9.30, 2.00, neu gyda’r nos
•  Lleoliad (nid oes ystafell ar gael yn yr ysgol bob amser)
•  Argaeledd tiwtoriaid
•  Ffi’r cwrs: mae codi £5 yn arwain at fwy o ymrwymiad!
•  Costau rhedeg y cwrs: dim angen talu’r ysgol, ond ffi’r tiwtor, creu’r deunyddiau, amser y Swyddog Datblygu
•  Creu llythyr i’w ddosbarthu i’r rhieni (cysylltwch ag OS am sampl)
•  Amseru’r cwrs a’r llythyrau: rhaid dosbarthu llythyrau tua 3 wythnos cyn dechrau’r cwrs, a’r dyddiad cau tua 10 niwrnod cyn iddo ddechrau

Er nad yw hyn yn arferol (nac yn ymarferol) gyda chyrsiau prif-ffrwd, byddaf yn arfer cysylltu â phob un sy’n dymuno mynychu cyrsiau CiT. Mae’n duedd i rieni beidio â dod er iddynt ddychwelyd y llythyr a’r ffi, felly mae’r cyswllt personol hwn yn hollbwysig.

Agweddau bugeiliol:
Cysylltu â'r rhieni cyn y cwrs
•  Diolch iddynt am ymateb i’r llythyr
•  Holi a ydynt wedi dysgu Cymraeg o’r blaen
•  Holi a oes cyswllt Cymraeg yn y teulu eisoes, e.e., plant hŷn yn yr un ysgol, cymar yn siarad Cymraeg ac ati
•  Holi a oes llyfrau/gemau Cymraeg yn y tŷ
•  Esbonio cynnwys y cwrs er mwyn eu paratoi
•  Holi a oes unrhyw beth penodol yr hoffent ei ddysgu
•  Cadarnhau’r amser a’r lleoliad
•  Gofyn iddynt ddod â phobl eraill gyda nhw!

Wrth gwrs roedd rhaid meddwl pa iaith fyddai’n addas ar gyfer rhieni plant meithrin 3 - 4 oed. Fe welwch isod amrywiaeth o batrymau ac eitemau iaith; mae rhai ohonynt yn codi ar gyrsiau prif-ffrwd i ddechreuwyr, a rhai ar gyrsiau CiT. Trafodwyd pa rai fyddai fwyaf defnyddiol i’w dysgu i riant ar gyfer cynnal deialog ddydd-i-ddydd gyda phlentyn 3-4 oed.
 
•  Cyfarch ein gilydd (‘… dw i. Pwy dych chi?’)
•  Y tywydd
•  Dyddiau’r wythnos
•  ‘Wyt ti’n hoffi…?’
•  ‘Wyt ti eisiau…?
•  Enwau lleoedd
•  ‘Ble dych chi’n byw?’ a ‘Ble dych chi’n gweithio?’
•  ‘Ble mae dy … di?’
•  Dweud yr amser

Mae’r rhiant yn annhebygol o ddefnyddio’r patrwm cyntaf yn aml gyda’i blentyn ei hun; hefyd, ni fyddai’n debygol o’i holi ble mae’n byw nac yn gweithio. Fyddai enwau lleoedd ddim yn debygol o godi llawer ychwaith. Ni fydd plentyn 3-4 oed yn gallu ymdrin â dyddiau’r wythnos, na’r amser (ar wahân i ymadroddion ‘amser cinio’, ‘amser gwely’ ac ati) – mae’n arferol i blant fod tua 6 oed erbyn iddynt allu ymdopi’n llawn â chysyniadau felly. Dylid gofalu rhag cynnwys eitemau felly ar gyrsiau CiT, gan na fydd yn hawdd i’r rhieni eu defnyddio yn syth gyda’r plant.
    Mae’r tywydd yn gysyniad hawdd i blentyn ei ddeall; yn yr un modd, mae ‘wyt ti’n hoffi…?’ yn bosibl. Mae ‘wyt ti eisiau…’ yn arbennig o ddefnyddiol wrth gynnig bwyd neu awgrymu gemau/gweithgareddau. Mae ‘ble mae dy … di?’ hefyd yn ddefnyddiol wrth wisgo/paratoi i fynd allan ac ati.

Beth sydd yn y cyrsiau CiT, felly? Fe’u seiliwyd ar y themâu y mae plant Meithrin a Derbyn yn gyfarwydd â hwy yn yr ysgol ac yn y cartref. O ran y rhieni, mae sefyllfaoedd a gweithgareddau penodol yn ei gwneud yn haws iddynt roi’r iaith ar waith yn syth e.e. ymadroddion fel ‘bwyd yn barod!’ i’w defnyddio amser bwyd, gemau i roi cynnig arnynt.

teulu4.jpg

Lluniwyd Pwyllgor Cenedlaethol Cymraeg i’r Teulu i lywio’r holl waith angenrheidiol yn y maes hwn.

teulu5.jpg

Mae amcanion y Pwyllgor yn eang iawn:
  • I gychwyn: mapio darpariaeth CiT pob Canolfan, er mwyn adnabod agweddau i adeiladu arnynt a’u rhannu, yn ogystal â bylchau.
  • Darparu cyfle gwerthfawr i’r Canolfannau a’r partneriaid ymgyfarwyddo â gwaith ei gilydd, trosglwyddo gwybodaeth a datblygu syniadau.
  • Rhannu adnoddau, dulliau hyfforddi ac arfer dda yn y dosbarth.
  • Gwyntyllu problemau gyda chyllido ac achredu cyrsiau (mewn ardaloedd gwledig yn arbennig), a thrafod y ffordd ymlaen.
Wrth gynllunio tuag at y dyfodol y bwriad yw parhau i roi cynnig ar amrywiol gyrsiau CiT, eu cymharu, a’u gwerthuso, gan arwain at greu cyrsiau cenedlaethol yn y dyfodol. Nod pwysig ar gyfer y flwyddyn i ddod yw ystyried i ba raddau y byddai’n fanteisiol gweithredu’n genedlaethol wrth hyfforddi, creu adnoddau ac ati, ac i ba raddau y dylid gweithredu’n lleol er mwyn cadw hyblygrwydd i ateb gofynion penodol gwahanol ardaloedd.
    Rydym eisoes wedi profi bwrlwm o weithgarwch, brwdfrydedd, syniadau a chydweithio a’r gobaith mawr yw y bydd hynny hefyd yn parhau.
iidigwydd3.jpg