Daethpwyd o hyd i’r llun uchod o rai o’r myfyrwyr oedd yn rhan o’r cwrs Wlpan cyntaf yn 1973! Rhowch wybod i ni os ydych chi’n adnabod y bobl sydd yn y llun ac yn gwybod beth yw eu hanesion nhw yn awr. A’r cwestiwn mawr, wrth gwrs, yw a ydyn nhw wedi datblygu’r sgiliau iaith cychwynnol hynny?
Yn y rhifynau nesaf y gobaith yw cynnwys mwy o luniau o ddosbarthiadau’r gorffennol felly dyma ymbil arnoch i anfon atom unrhyw hen luniau sydd gennych o ddosbarthiadau! Ewch i’r adran Cysylltu i wneud hynny.
O’r hen i’r ifanc ...
Yn ddiweddar cynhaliwyd sesiwn flasu mewn ysgol gynradd yng Ngheredigion, yn ymwneud ag annog rhieni i ddarllen yn y Gymraeg gyda’u plant. Noddwyd y gweithgareddau hyn gan NIACE. Bu’r grŵp bychan isod yn edrych ar dechnegau gwahanol i gynorthwyo’u plant i ddarllen yn Gymraeg dan arweiniad Mima a Howard Morse, ac roedd yn estyniad o’r dosbarth Cymraeg i’r Teulu y mae’r rhieni yn ei fynychu bob wythnos yn yr ysgol.
Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas
Yn rhifyn nesaf y Tiwtor byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am Dlws Coffa Elvet a Mai rElvet Thomas 2010.
Cyflwynir y tlws a gwobr ariannol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol i diwtor Cymraeg i Oedolion am:
- wasanaeth werthfawr i faes Cymraeg i oedolion;
- fod yn diwtor o’r radd flaenaf;
- ysbrydoli dysgwyr i ddyfalbarhau hyd at rugledd.
Bydd y ffurflen enwebu ar gael yn y rhifyn nesaf.
Clwb Cymdeithasu Cymraeg C Ciwb
Mae’r clwb hwn i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn ardal yr Wyddgrug yn mynd o nerth i nerth. Dyma beth sydd ar y gweill ganddyn nhw yn ystod yr wythnosa nesaf yn ôl Eirian Conlon, un o’r trefnwyr:
Os dach chi`n dysgu Cymraeg ac awydd ysgrifennu yn Gymraeg mae yna ddau weithdy ysgrifennu dan ofal y Fenter Iaith – Rhyddiaith efo Sian Northey (17.2.10) a barddoniaeth efo Eurig Salisbury (24.2.10). Mae’r ddau yn costio £2.50. Cysylltwch â Rebecca@menteriaithsiryfflint.co.uk 01352 744042
Ar nos Sadwrn yr 20fed o Chwefror mae yna Noson Gomedi yn y Springfield, Treffynnon, efo Ffarmwr Ffowc, John Sellers, Lloyd Antrobus a cherddoriaeth. Cynhelir y noson o 7 ymlaen ac mae tocyn yn costi £5.00. Cysylltwch â Darrenm@urdd.org 01352 744047
Ar Chwefror 28, yn y prynhawn, mae Cinio Gŵyl Ddewi Cymdeithasau Cymraeg yr Wyddgrug yng Ngwesty'r Parc Beaufort am 1 o`r gloch, efo Robat Arwyn. Mae tocynnau yn costi £16.50. Ffoniwch Elwyn Roberts ar 01352 755010 neu Gwilym Antur Edwards ar 01352 758216 cyn dydd Sul Chwefror 21 os ydych am archebu lle.
A dyma noson arbennig C3......
1.3.09 – CAWL A CHÂN
Noson Gŵyl Ddewi
efo Pwyllgor Gŵyl Werin Tegeingl a`u ffrindiau.
Bar Gwin y Delyn, 9.00
Efo “Cawl Cennin” enwog Eileen!
Croeso i bawb!!!
Ar nos Fawrth a nos Fercher, Mawrth 2 a 3, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio’r ddrama GOFALWR gan Harold Pinter yn Theatr John Ambrose, Rhuthun. Ffoniwch 01824 702575 am docynnau.
Manylion Cysylltu C3:
FACEBOOK= C3 yr Wyddgrug.
C3, Tŷ Pendre, Pwllglas, yr Wyddgrug CH7 1RA, ( 01352 756080 ebost e.conlon@bangor.ac.uk