gan Chris Reynolds
Yn ddiweddar mynychodd Helen Evans, tiwtor-drefnydd Cymraeg i Oedolion gyda Phrifysgol Abertawe, weithdy ar sut mae gwarchod eich llais. Trefnwyd y gweithdy gan uned ddatblygu staff y Brifysgol a chymerwyd y sesiynau gan Rona Campbell, awdures a chantores opera, a Peter Read, awdur a bardd.
Gyda holl ddatblygiadau technolegol y dyddiau hyn mae’n hawdd anghofio pwysigrwydd y llais i’r tiwtor. Mae rhoi cyfarwyddiadau, esboniadau gramadegol a chynnal gweithgareddau cyfathrebol yn anodd iawn os nad ydych chi’n gallu cyfathrebu!
Yn y gweithdy rhoddwyd canllawiau ar sut mae gofalu am eich llais o dan bum pennawd: ffactorau amgylcheddol, pethau llidus (‘irritants’), sŵn yn y cefndir, pesychu/gwagio’r llwnc ac arferion lleisiol da.
Mae’n hawdd anghofio bod pethau bach fel llwch, gwres sych a chemegau yn awyr yn gallu effeithio ar y llais ac mae canllawiau yn awgrymu y dylech chi geisio osgoi sefyllfaoedd lle gall y rhain effeithio’n ormodol arnoch chi. Dylid cadw’r llwnc yn llaith a cheisio anadlu trwy eich trwyn yn lle’ch ceg. Ac wrth gwrs mae awyr iach yn dda i chi. Mae sugno losin caled yn gallu helpu ond gwyliwch rhag y rhai sy’n cynnwys menthol. Mae’r rhain yn gallu clirio’r trwyn ond hefyd yn cael gwared ar fwcws angenrheidiol! Mae sŵn yn y cefndir yn gallu golygu bod angen i chi godi’ch llais yn fwy na’r arfer ac felly’n rhoi mwy o straen arno. Felly, dylech gau ffenestri, bod yn ymwybodol o sŵn peiriannau trydanol, a mynd yn agosach at y bobl rydych chi’n siarad â nhw.
Mae’r canllawiau yn awgrymu eich bod chi’n ysmygu llai neu’n rhoi’r gorau iddo’n gyfan gwbl. Ac os ydych chi’n hoff o’ch peint, wel mae hynny’n gallu effeithio ar y llais hefyd. Mae’r peryglon yn fwy na chanu’n afreolus mewn tafarn! Mae’r canllawiau yn awgrymu eich bod chi’n lleihau’r unedau o alcohol rydych chi’n eu hyfed a hefyd yn osgoi bwydydd sbeislyd, gan fod y rhain yn gallu sychu’ch llais. Mae’r nos Wener/Sadwrn arferol ar Wind Street yn Abertawe yn wael i’ch llais felly!
Mae canllawiau hefyd i’r rheiny sydd yn hoff o gadw’n iach. Os ydych chi’n nofio yn aml, er enghraifft, mae’n debyg eich bod chi wedi sylweddoli bod y chlorine yn gallu sychu eich ceg chi. Mae hynny wrth gwrs yn gallu effeithio ar eich llais. Yn fras mae angen i chi ddefnyddio’ch llais mor naturiol â phosibl a chadw’r llwnc yn llaith.
Yn olaf, mae angen digon o gwsg, ond dyw hynny ddim yn arferol ym mhob gwers...