Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

croeso i rifyn 10Yn y rhifyn hwn rydym yn edrych yn bendodol ar y maes Cymraeg yn y Gweithle ac, yn y lle cyntaf, yn gofyn y cwestiwn pam cynnig Cymraeg yn y Gweithle?


Dyma gyfle i edrych ar rai o’r gweithwyr mwyaf profiadol yn y maes, e.e. Caryl Clement yn yr adran Broffil, a chyfle i ddod i adnabod y Swyddog Datblygu Asesiadau Cymraeg yn y Gweithle newydd. Wrth bori trwy’r adran Canolfannau gellir cael ciplowg ar yr holl weithgarwch sy’n digwydd yn y gweithleoedd, o Frecwast Busnes Morgannwg i gwrs canolfan y Gogledd ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru a’r cynghorau sir.

llun clawr 10Rhan bwysig o’r ddarpariaeth gychwynnol i unrhyw gwmni neu fusnes yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i ddatblygu sgiliau iaith ac, yn yr erthygl Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith, mae Elaine Davies yn disgrifio’r gwaith y mae cwmni IAITH yn ei wneud ar yr agwedd hon.

 

Hefyd ...
Dewch i gwrdd â Swyddogion Maes D 2010 ac i weld pwy fu’n lansio cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2010. Dymunwn yn dda i Pegi Talfryn ar ei swydd newydd ac edrychwn ymlaen at gael ymweld â’r Nant ar ei newydd wedd.

Yn ogystal â hynny, mae Chris Reynolds yn cynnig cyngor ymarferol i diwtoriaid (Edrychwch ar ôl eich llais!)  ac rydym oll yn dymuno penblwydd hapus i’r Clonc!

Oeddech chi’n ddigon ffodus i ddysgu Cymraeg gyda’r Gleision ac a ydych chi’n gwybod pwy sy’n cadw Blog Brenhinol?

Rydym yn teithio i fyd y llyfrau gydag adolygiad o e-lyfrau gan Garmon Gruffudd o’r Lolfa, a cheir blas ar y ddarpariaeth a gynigir gan Siop Inc. Mae’r siop lyfrau hon hefyd yn cynnig y wobr yn ein cystadleuaeth, sef tocyn llyfr gwerth £20!

 

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd newydd ar gyfer pob lefel, o weithgaredd darllen ar lefel Hyfedredd (‘Plu’ gan Caryl Lewis) i weithgareddau gwrando ar lefelau Sylfaen a Chanolradd. Ewch i’r archif am fwy o adnoddau, yn enwedig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

 

Dydd Gŵyl Dewi hapus!

llinell