Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd eleni, o 31 Gorffennaf i 7 Awst 2010, a lleolir yr Eisteddfod yn y Gweithfeydd, Glyn Ebwy.
Un o brif atyniadau’r Eisteddfod yw Maes D (pabell y dysgwyr) ac, yn arferol, penodir swyddog arbennig yn flynyddol i gydlynu gwaith Maes D, sef Swyddog y Dysgwyr. Ond eleni mae yna newidiadau cyffrous i’r swydd unigryw hon oherwydd, yn ôl Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:
‘Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid i ariannu’r swydd am gyfnod o dair blynedd, a bydd hyn yn creu cysondeb a chyfle i gynllunio a gweithio’n strategol mewn maes sy’n bwysig iawn i ni fel un o wyliau mawr y byd.’
Yn sgil hynny, mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi penodi Jo Knell yn Swyddog y Dysgwyr am y tair blynedd nesaf. Yn wreiddiol o Fryste, mae Jo yn gyn-enillydd Tlws y Dysgwyr yn yr Eisteddfod. Dysgodd Gymraeg yn 1988, ac fe’i hurddwyd yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn 1991.
Bu Jo yn athrawes Gymraeg ail-iaith mewn rhannau o dde a de orllewin Cymru am nifer o flynyddoedd, gan ddysgu’r gantores Connie Fisher yn ystod ei chyfnod yn Hwlffordd. Yn fwyaf diweddar bu’n gweithio fel Pennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Gyfun Trefynwy, lle bu’n dysgu Caroline Hagg, enillydd Medal Lenyddol y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd 2009.
Gyda phrofiad o’r sector Cymraeg i Oedolion yn ogystal, mae Jo’n edrych ymlaen i’r her o annog a helpu pobl i fynd ati i ddysgu Cymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd rôl greiddiol yr Eisteddfod yn y gwaith o hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Dywedodd, ‘roedd ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn nôl yn 1991 yn un o brofiadau mawr fy mywyd. Roedd yn hwb eithriadol, a chefais fy symbylu i helpu eraill i fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at arwain y gwaith ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol mewn gwahanol rannau o Gymru. Yn ddi-os, mae dyfodiad yr Eisteddfod i wahanol rannau o’r wlad yn ennyn diddordeb a chyffro o’r newydd yn yr iaith, ac mae’n fraint cael bod yn rhan o’r bwrlwm a’r gwaith yn lleol a chenedlaethol.’
Ychwanegodd Elfed Roberts, ‘rwy’n hynod falch i groesawu Jo i’r tîm. Mae ganddi’r profiad, yr ymroddiad a’r weledigaeth i sicrhau bod yr Eisteddfod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y sector Cymraeg i Oedolion.’
Yn ogystal â Jo Knell, mae dau swyddog arall wedi eu penodi hefyd er mwyn cynorthwyo â’r gwaith am eleni. Un ohonynt yw Kate Oprava sydd hefyd wedi dysgu’r Gymraeg ac mae hithau wrth ei bodd gyda’r gwaith, gan ymweld â llawer o ddosbarthiadau Cymraeg yng Ngwent i siarad am yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gill Griffiths yw’r trydydd swyddog. Bu’n Swyddog y Dysgwyr gyda’r Eisteddfod adeg Eisteddfod Bro Ogwr ym 1998, a bu hefyd yn Gynorthwy-ydd Personol i Elfed Roberts, y Prif Weithredwr. Mae ganddi brofiad fel tiwtor CiO gan gynnal dosbarthiadau am gyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Gill hefyd yn actores broffesiynol! Yn wirfoddol, mae’n is-lywydd gyda Merched y Wawr, Rhanbarth y De-ddwyrain, ac yn aelod o Bwyllgor Iaith a Gofal y mudiad. Mae’n weithgar iawn gyda’r mudiad adeg yr Eisteddfod bob blwyddyn ac yn rhan o’r criw sy’n cynnal gweithgareddau ar stondin ym Maes D yn flynyddol.
Gyda thair ohonynt wrth y llyw, dyma edrych ymlaen yn arw at arlwy Maes D eleni. Os ydych am fwy o fanylion cysylltwch â jo@eisteddfod.org.uk
Cystadlaethau ar gyfer y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010: