Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
Ysgoloriaeth   Dan Lynn James  Scholarship 2010

Enillydd Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2009 yw David Patterson. Ysgoloriaeth yw hi a weinyddwyd a dyfarnwyd gan CYD tan yn ddiweddar. Bydd Canolfan y Canolbarth a Phrifysgol Aberystwyth yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw yn awr, gan weinyddu’r gronfa a hysbysebu a dyfarnu’r Ysgoloriaeth.

llun David PattersonDerbyniodd David wobr ariannol o bron i £900 a defnyddiodd yr ysgoloriaeth i dalu am bum wythnos o gyrsiau Cymraeg yn yr haf. Aeth ef i Ysgol Haf Aberystwyth am wythnos, ac yna ymlaen i Gwrs Haf Aberystwyth am 4 wythnos. Mae David yn awyddus iawn i fod yn awdur Cymraeg, ac am ddysgu’r Gymraeg mor gyflym ag sy’n bosibl er mwyn gwireddu ei uchelgais a’i freuddwyd. Mae’n amlwg felly ei fod o ddifrif ynghylch dysgu’r Gymraeg ac yn barod iawn i wneud pob ymdrech.

Yn amlwg wrth ei fodd gyda’r dyfarniad, dywedodd David:

‘Mae’r Iaith Gymraeg yn annwyl i mi, er nad oeddwn erioed wedi gallu ei siarad ar lefel uwch na Mynediad. Wrth i mi symud o ardal Seisnigaidd iawn i’r fro Gymraeg, dw i’n teimlo ei bod hi dal yn bosib i mi wireddu fy mreuddwyd. Dw i wedi bod ar daith bersonol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn medru siarad yr hen iaith yn rhugl. Mae’r ysgoloriaeth hon yn fy ngalluogi i barhau â’r gwaith. Hoffwn i ddiolch i CYD ac i’r tiwtoriaid yn y brifysgol, Ursula Byrne a Patrick Sims-Williams ac i’m tiwtor dosbarth nos, Dana Edwards.’

Dyddiad cau Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2010 yw 1 Ebrill 2010. Dyfernir £1,000 i ddysgwr neu ddysgwraig  sydd am wella ei Gymraeg / ei Chymraeg a’i defnyddio bob dydd.

I gael manylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â Chanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ar 0800 876 6975 neu cymraegioedolion@aber.ac.uk  www.dysgucymraegynycanolbarth.org / www.learnwelshinmidwales.org

llinell

Ffurflen gais

 

llinell