Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

gan Elaine Davies, Cwmni Iaith

 

Ganol y nawdegau, flwyddyn neu ddwy ar ôl pasio Deddf yr Iaith 1993, y sefydlwyd y maes Ymwybyddiaeth Iaith yng Nghymru. Yr adeg honno, dan fantell yr hen Gyngor Hyfforddi mewn Gwaith Cymdeithasol, y Cyngor Gofal erbyn hyn, cyhoeddwyd un o’r pecynnau hyfforddi cyntaf dan y teitl cellweirus They all speak English anyway. Bwriad y deunydd hwnnw oedd herio rhai o’r hen ganfyddiadau am ddwyieithrwydd yng Nghymru, mynd i’r afael â pheth o’r feddylfryd a oedd wedi gorthrymu’r siaradwr Cymraeg gyhyd, a dechrau trafod sut i gynnig gwasanaethau i ddefnyddwyr dwyieithog mewn ffordd addas a sensitif o safbwynt iaith.

Yna, gyda chyhoeddi Iaith Pawb ryw ddegawd yn ddiweddarach, ac wrth i fwy a mwy o asiantaethau yng Nghymru geisio mynd i’r afael â’u Cynlluniau Iaith a rhoi rhywfaint o gnawd am yr esgyrn moel, mae’r galw am Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith wedi cynyddu’n sylweddol.

Erbyn hyn, mae uned hyfforddi IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yn darparu gweithdai ymwybyddiaeth iaith i ystod eang o gyflogwyr yng Nghymru, yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector, ac yn gweithio mewn cyd-destunau ffurfiol yn ogystal ag yn y maes cymunedol. Ond beth bynnag y maes, mae ’na dri chwestiwn cyson yn gyrru pob sesiwn hyfforddi, sef

Pam mae angen mynd i’r afael â’r Gymraeg?

Beth y mae angen ei wybod am y Gymraeg a’i siaradwyr?

Sut mae gweithredu mewn ffordd sy’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg?  

Ac wrth geisio archwilio’r tri chwestiwn, y nod yw  plethu ynghyd yn ystod y sesiwn hyfforddi ryw dair elfen ganolog, sef cyfle i ystyried agweddau a gwerthoedd personol at y Gymraeg; derbyn peth gwybodaeth ffeithiol am y Gymraeg; a chymhwyso hynny wedyn ar gyfer y man gwaith drwy ystyried sut i greu shifft o blaid y Gymraeg, boed ar lefel polisi, strategaeth neu arferion gwaith bob dydd.

O safbwynt y sylfaen wybodaeth, mae yna rai themâu canolog, er enghraifft:

Iaith a phŵer
Dyma’r syniadaeth sylfaenol sy’n cynnal holl faes ymwybyddiaeth iaith ac mae’n ymwneud â deall sut mae’r ddeinameg rhwng yr iaith fwyafrifol a’r iaith leiafrifol mewn cymdeithas ddwyieithog fath â Chymru yn dylanwadu ar ymddygiad ieithyddol ar lefel yr unigolyn, y sefydliad a’r gymdeithas ehangach. Mewn sesiwn hyfforddi, mae cydnabod y tyndra hwnnw yn fodd i gydnabod hefyd nad rhywbeth niwtral a diogel sydd dan sylw. Yn hytrach, i’r unigolion sy’n cymryd rhan, gall trafod y Gymraeg fod yn rhywbeth sy’n llawn tensiynau a gwrthdaro, yn destun sy’n gallu esgor ar gant a mil o brofiadau ac emosiynau personol dro ben - yn destun rhyddhad ac ysbrydoliaeth ar ei orau.

Deddfwriaeth a pholisi
Ar nodyn gwahanol, mae’r hyfforddiant yn rhoi cyfle i ystyried pam mae rhaid i unigolion a chyrff ymateb i’r Gymraeg a hynny drwy drafod y cyd-destun o safbwynt deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru. Ond mewn sesiwn hyfforddi werth chweil, y gobaith yw fod y sawl sy’n cymryd rhan yn gallu gweld nad rheidrwydd yn unig yw mynd i’r afael â’r Gymraeg. Yn hytrach, ei fod ynghlwm wrth arfer da a chydraddoldeb.

Ddoe a Heddiw
Mae hyn yn cynnwys arolwg sydyn o ddemograffeg gyfoes y Gymraeg yn ogystal â thaith o gwmpas rhai o’r cerrig milltir arwyddocaol yn hanes y Gymraeg. Ac mae’r daith honno yn aml iawn yn peri i bobl ailfeddwl ac ailasesu eu hanes personol a’u hanes teuluol, gweld yn gliriach yr hyn sydd wedi digwydd, a deall yr angen i gymryd camau ymarferol i symud y glorian yn fwy o blaid y Gymraeg a normaleiddio’r defnydd a wneir ohoni.

Y profiad dwyieithog
Cyfle yw hwn i ystyried sut mae unigolion dwyieithog yn ymdrin â dwy iaith. Gan gyfeirio at brofiadau personol ac at rywfaint o’r sylfaen ymchwil yn rhyngwladol, y bwriad yw herio rhai o’r hen ganfyddiadau am ddwyieithrwydd a deall yn well yr holl ffactorau cymhleth sy’n dylanwadu ar ein hymddygiad ieithyddol ac ar y dewisiadau rydyn ni’n debygol o’u gwneud mewn sefyllfaoedd gwahanol.       

Drwy greu synthesis rhwng y personol a’r gwleidyddol, mae hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith yn anelu at greu shifft yn y ffordd y mae pobl yn synied am y Gymraeg ar lefel ymenyddol ac emosiynol, yn ceisio agor meddyliau a chalonnau. Yn hynny o beth, mae ganddo’r potensial i fod yn offeryn cryf iawn yn y broses o ddod â phobl at y Gymraeg a chreu siaradwyr Cymraeg newydd. Mae’n siŵr mai drwy hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith y gellir cymryd y cam cyntaf wrth feddwl am drefnu hyfforddiant iaith Gymraeg yn y gweithle. Dyma’r awgrym yn bendant yn y sylw yma a wnaed ar ddiwedd sesiwn hyfforddi yn ddiweddar:

“The training has really fired me up. I’ve learned such a lot today and I really want to learn more Welsh now. It will be lovely to be able to speak some Welsh at home with the children and at work, I think that it will be invaluable.”

Felly, mae’n siŵr fod gan hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith y potensial i gael dylanwad cadarnhaol iawn ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith unigolion a gweithleoedd. Mae’n un o’r blociau adeiladu sylfaenol i’w ddefnyddio wrth geisio creu Cymru sy’n gynyddol ddwyieithog dros y cyfnod nesaf.     

 

llinell