Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Swyddog Datblygu

Asesiadau Cymraeg

yn y Gweithle

gair am GlendaMae Glenda Brown newydd ymuno â Thîm Cymraeg i Oedolion CBAC. Dechreuodd ar ei swydd fel Swyddog Datblygu Asesiadau Cymraeg yn y Gweithle (CiO) ar y 4ydd o Ionawr.

Cafodd Glenda ei geni ym Mangor a’’i magu ym Mhorthmadog. Aeth i Ysgol Eifionydd, Porthmadog ac, ar ôl cyfnod yn gweithio ym Manc y Natwest, symudodd lawr i’r de gan weithio fel pennaeth swyddfa yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Ymgartrefodd yn y de pan gyfarfu â’r gŵr a magu teulu.

Er ei bod yn newydd i CBAC, mae Glenda’n gyfarwydd iawn â’r maes Cymraeg i Oedolion.  Ar ôl gweithio yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, bu’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy fel Swyddog yr Iaith Gymraeg, yn cydlynu cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle. Dechreuodd gynnal dosbarth nos hefyd dan ofal Coleg Gwent. Yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Cymraeg yn y Gweithle a Chymraeg i’r Teulu yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent am dair blynedd.

Rhan o’i chyfrifoldeb yn y swydd newydd hon fydd i ddatblygu fframwaith asesu ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg Ymarferwyr Cynllun Sabothol Ysgolion Cynradd ac Uwchradd ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen. Ariennir y Cynllun Peilot hwn gan APADGOS a rôl CBAC fydd i gymhwyso’r Cwrs Sabothol ar gyfer athrawon ysgolion cynradd Sir Benfro a Chaerfyrddin. Cynhelir y cwrs yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, i athrawon sy’n dysgu Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cynradd. Mae’r cwrs sabothol, sy’n ddi-breswyl, yn ymestyn dros 11 wythnos, ac yn cael ei gynnal o 9.00 tan 4.00 bob dydd. Ar hyn o bryd, mae 12 o athrawon wedi ymuno â’r cynllun o fis Ionawr tan y Pasg.

patrwm dotiauNod y cynllun yn y pen draw yw codi hyder a gwella sgiliau ieithyddol Cydlynwyr y Gymraeg yn yr ysgolion, ac i gynnig cymorth iddynt ynghylch sut y gallant addysgu’r iaith yn y dosbarth. Gan mai peilot yw’r cynllun ar hyn o bryd, nid ydyw wedi ei achredu a bydd Glenda felly yn cyd-weithio â’r partneriaid i addasu llwybr credydau CBAC i gyd-fynd â’r cynllun.

Rhan arall o’i swydd fydd i ddatblygu Erfyn Diagnostig Rheoli Sgiliau Iaith Gymraeg yn y Gweithle o dan arweiniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  Bwriad y porthol ar-lein hwn fydd i alluogi gweithleoedd a’r sector preifat i:

Mae’r agwedd hon ar y gwaith yn gyffrous iawn gan fod yr effeithiau’n medru bod yn bell-gyrhaeddol, o gofio’r angen i gyrff cyhoeddus a phreifat i weithredu’u cynlluniau iaith.

Mae’n edrych ymlaen at y gwaith yn fawr iawn gan fod y maes Cymraeg yn y Gweithle yn agos iawn at galon Glenda ac mae hi wedi bod ynghlwm wrth sawl cynllun arbrofol e.e. darparu dosbarth Cymraeg i’r Gwasanaethau Argyfwng /  Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Roedd hynny’n her fawr oherwydd natur y swyddi a’r ffaith nad oes modd clymu’r gweithwyr i’r un amser yn rheolaidd.

Yn ei barn hi, gyda’r swydd newydd, dyma gyfle eto i dorri tir newydd ac mae croeso i chi gysylltu â Glenda os ydych am fwy o fanylion.
glenda.brown@cbac.co.uk

llinell