Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
E-lyfrau gan Garmon Gruffudd

clawr Fflur DafyddMae pobl wedi bod yn darogan diwedd y llyfr papur ers degawdau ond yng Nghymru, fel y rhan fwyaf o wledydd eraill y byd gorllewinol, mae mwy a mwy o lyfrau yn cael eu cyhoeddi pob blwyddyn. Y bygythiad honedig diweddaraf i'r llyfr papur traddodiadol yw'r e-lyfr. Roedd tipyn o gynnwrf ymhlith technegwn pan gyhoeddodd Sony y llynedd eu bod yn rhyddhau'r e-ddarllenydd, sef dyfais sydd wedi ei greu yn benodol i ddarllen e-lyfrau. Yn wir ar bapur roedd yn ymddangos fel bod yna fygythiad gwirioneddol i'r llyfr traddodiadol.  Mae sgrin yr e-ddarllenydd yn debyg i bapur electronig, mae modd storio hyd at gant o lyfrau ar un ddyfais, mae'n darllen nifer o fformatau gwahanol (er enghraifft ffeiliau word, pdf, epub ac ati) ac mae modd newid maint y teip. Maent hefyd yn wych i'r amgylchedd gan nad oes papur nac inc yn agos iddynt ac ar ben hyn oll maent yn gymharol hawdd i'w defnyddio.

Fel gwasg roedd Y Lolfa yn gweld nifer o fanteision eraill. Yn fwy na dim maent yn galluogi darllenwyr o bedwar ban i lwytho'n llyfrau yn unionsyth o'n gwefan am bunt yn rhatach na phris llyfr papur gan arbed costau postio ac wrth gwrs does dim cost argraffu. Roeddem hefyd am fod ar flaen y gad ar ôl gweld effaith syfrdanol llwytho cerddoriaeth ar werthiant CDs. Ym mis Mawrth 2009 lansiwyd yr e-lyfr cyntaf i gael ei werthu yn fasnachol yn Gymraeg sef Y Llwybr, nofel dditectif gyffrous gan awdur newydd, Geraint Evans, ac ers hynny mae nifer o lyfrau eraill wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Y Lolfa ar ffurf e-lyfr gan gynnwys Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd – nofel yw hon, gyda llaw, sy'n rhagweld e-lyfrau yn disodli llyfrau papur!
clawr Geraint Evans

Cymharol ychydig o werthiant sydd wedi bod hyd yn hyn, er bod yna e-lyfrau wedi cael eu gwerthu i Gymry Cymraeg mewn sawl gwlad yn Ewrop ac yn America. Dw i ddim yn meddwl mai’r nofelau eu hunain sy’n gyfrifol am hynny gan fod y llyfrau papur wedi gwerthu yn rhagorol. Un rheswm am hyn, mae'n debyg, yw nad yw’r cysyniad o e-lyfrau wedi cydio fel y disgwyl. Dw i erioed wedi gweld rhywun yn darllen e-lyfr mewn caffi, trên neu ar awyren. Pwy a ŵyr beth yw’r rheswm dros hynny. Efallai bod eu prisiau yn rhy ddrud, efallai bod y darllenwyr yn ofni technoleg neu’n ofni eu colli. Fe ddarllenais Y Llwybr ar awyren ar y ffordd adref o wyliau yn yr haul ac yn anffodus doedd dim digon o fatri ar ôl i mi gael darganfod pwy oedd y llofrudd!


Mae yna nifer o ddyfeisiau e-ddarllen ar y gweill yn cynnwys y Kindle, sef dyfais gan Amazon sydd eisoes wedi gwerthu yn dda yn America. Hefyd, mae modd darllen e-lyfrau ar I-ffonau, ar y Nintendo DS a gliniaduron ac mae'n siwr y bydd y prisiau’n gostwng. Mae'n debyg y bydd y farchnad ar gyfer e-lyfrau yn tyfu gydag amser ond dw i'n amau’n fawr a fydd yna chwyldro fel y digwyddodd ym myd cerddoriaeth. O ran Y Lolfa rydym yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd ac am sicrhau detholiad o lyfrau da Cymraeg ar gyfer y techneg garwyr sydd am ddewis darllen llyfrau yn electronig ac rydym yn barod am chwyldro, pan ddaw. Ta waeth, dw i’n siŵr y bydda’ i wedi hen fynd i'r bedd cyn difodiant y llyfr papur.

Gellir prynu e-lyfrau'r Lolfa ar http://www.ylolfa.com/ebooks.php?lang=cy


Garmon Gruffudd
Rheolwr Gyfarwyddwr
Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, Cymru SY24 5HE
+44(0)1970 831902 - Personol
+44(0)1970 832304 - Y Lolfa

llinell