Mae BBC Cymru, mewn partneriaeth ag APADGOS, wedi cynhyrchu DVD o holl glipiau fideo y Big Welsh Challenge (sef cwrs ar-lein) a soniwyd am hynny yn rhifyn diwethaf y Tiwtor. Y bwriad wrth gwrs yw ei gwneud hi’n haws i’r tiwtoriaid ddefnyddio’r clipiau yn y dosbarth.
Fel rhan o'r broses hon, aethpwyd ati i gyhoeddi'r nodiadau a luniwyd gan Cennard Davies ar gyfer y DVD hwn ar safle’r Big Welsh Challenge ei hun. Gellir cyrchu’r nodiadau hynny trwy fynd i: http://www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/bigwelshchallenge/ a chlicio ar 'tiwtoriaid.'
Hefyd, gellir ymweld â’r dudalen i diwtoriaid ar safle BBC Cymru: http://www.bbc.co.uk/cymru/tiwtoriaid/adnoddau/
Yn y rhifyn hwn cynigir rhagflas o’r nodiadau sy’n cydfynd â’r DVD, yn ogystal â chipolwg ar y cynnwys. Rhestrir yr unedau a hefyd y math o ymarferion a geir yn y pecyn. Mae’r nodiadau ar gael ar ffurf ffeil Word neu Pdf.
(Dosberthir y DVD trwy’r canolfannau ac ewch i’r wefan ei hun am fwy o fanylion.)
NODIADAU’R TIWTOR
Fersiwn y De
Cynnwys
Nodiadau
Rhagair
Unedau
Cyfarchion
Cyfnewid gwybodaeth
Siarad am bobl eraill
Diddordebau hamdden
Trafod eich anghenion
Gofyn am bethau
Y Tywydd
Yr Amser
Teulu ac eiddo
Trafod y gorffennol 1
Trafod y gorffennol 2
Mynegi angen
Sôn am beth dych chi wedi ei wneud
Trafod afiechydon
Y Dyfodol
Gorchmynion sylfaenol
BIG WELSH CHALLENGE
RHAGAIR
Mae DVD y Big Welsh Challenge yn cynnig i diwtoriaid amrywiaeth o weithgareddau y gellir eu defnyddio i ategu unrhyw gwrs i ddechreuwyr. Gellid hefyd eu defnyddio’n sail i gwrs blasu rhagarweiniol. Mae’r pecyn hwn yn ceisio darparu ar gyfer y ddau ddefnydd posib. Ceir fersiwn o’r Big Welsh Challenge ar wefan www.bbc.co.uk/bigwelshchallenge sy’n cynnig llawer o gyfle i ddysgwyr i ymarfer eu Cymraeg. Mae rhagarweiniad ar y DVD sy’n rhoi cyfarwyddyd i ddysgwyr sut i fanteisio’n llawn ar brif nodweddion y wefan.
Mae’r adnoddau a geir yma yn ymrannu’n ddwy adran:
Y Rhan Gyntaf
Yn y rhan yma seilir y gweithgareddau’n llwyr ar y DVD tra bod yr Atodiad yn cynnwys gweithgareddau cyfochrog, perthnasol a dilyniant patrymol sy’n gweddu i gwrs blasu. Mae’r DVD yn cynnig i’r tiwtor amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys
- gweithgareddau gwylio a deall
- chwarae rôl
- rhyngweithio trwy gystadlu, cyfnewid gwybodaeth a chyd-actio golygfeydd
- profion cofio a sylwi
- gweithgareddau adolygu ac ategu.
Bydd modd i diwtoriaid ddangos ambell olygfa ar ddiwedd gwers er mwyn meithrin hyder dysgwyr a mawr obeithiwn y byddant yn eu hannog i ddefnyddio’r wefan rhwng gwersi i ymestyn eu horiau cyswllt â’r iaith. Gan fod y sgriptiau hefyd ar gael, gellir eu defnyddio’n sail i ymarferion – cyfieithu, llenwi bylchau a.y.y.b. - a fydd yn cadarnhau’r patrymau newydd a ddysgwyd yn y wers.
Ar ddechrau pob uned ceir teitl, rhestr o olygfeydd ynghyd â’r prif batrymau a gyflwynir. Yn dilyn ceir yr adrannau a ganlyn:
Patrymau – rhestr o brif batrymau’r uned.
Geirfa
Ymadroddion
Gweithgareddau A – y rhain wedi eu seilio ar gynnwys uniongyrchol y DVD.
Ymarferion Ysgrifenedig A – eto’n codi’n uniongyrchol o gynnwys y DVD.
Atodiad
Yma, manylir yn fwy ar yr iaith a chynigir cyfleoedd i’w defnyddio’n greadigol mewn sefyllfaoedd cyfochrog i’r rhai a geir ar y DVD. Bydd yr adran hon o fudd i diwtoriaid a fydd am seilio cwrs blasu ar gynnwys y golygfeydd. Rhennir y cynnwys yn adrannau fel a ganlyn:
Gramadeg – sef crynodeb o’r pwyntiau y dylech eu hesbonio. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy gyflwyno enghreifftiau yn hytrach na rhoi esboniad gramadegol a fydd yn annealladwy i’r mwyafrif!
Drilio – nodir y patrymau y dylid eu hymarfer. Dylech geisio amrywio eich driliau gymaint ag y bo modd er mwyn cynnal diddordeb.
Gweithgareddau B – cyfle i ddatblygu’r iaith a ddysgwyd yn y rhan gyntaf.
Cam Bach Ymlaen – mae tair swyddogaeth i’r adran hon:
- Weithiau, awgrymir sut y gellir defnyddio uned i ymarfer patrymau uned arall e.e. defnyddio Uned 2 i ymarfer ‘roedd’ sy’n codi yn Uned 7. Lle bo hyn yn digwydd, nodir hynny ar ddiwedd adran Gweithgareddau A.
- Dro arall, defnyddir yr adran i gyfannu patrymau e.e. yr amser yn Uned 8.
- Er ei bod yn amhosibl rhestru’r holl bosibiliadau, dylai’r tiwtor hefyd fod yn effro i’r cyfle i ddefnyddio’r golygfeydd i gyflwyno patrymau, geirfa a phynciau nad ydynt yn codi yn yr unedau eu hunain.
Er enghraifft, gellir defnyddio golygfeydd i brofi sylwgarwch; cofio beth a ddywedwyd gan gymeriad arbennig; dysgu lliwiau; ymarfer ffurfiau’r gorffennol trwy gofio beth ddigwyddodd mewn golygfa (Uned 8/3); disgrifio pobl; trafod teimladau [e.e. Mrs Evans ar ôl iddi ffeindio’i phwrs (Uned 13/2) neu Geraint pan yw Marian ar goll (Uned 16/1) neu ymarfer ‘baswn i wedi…’trwy ddweud beth fasech chi wedi ei wneud yn sefyllfa Siân (Uned11/3). Mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw.
Ymarferion Ysgrifenedig B – defnydd cyfochrog o’r un patrymau iaith ag a welir yn Adran A , ond yn llai caeth i gynnwys y DVD.
Fel y dywedwyd, mae yma ddigon o gyfle i ymarfer siarad ac ymestyn gwybodaeth eich dosbarthiadau o’r Gymraeg. Gobeithio y cewch chi a’ch myfyrwyr bleser, hwyl a budd wrth ddefnyddio’r DVD.
Cennard Davies
* Ewch i adran Deunydd Dysgu Y Tiwtor i weld enghreifftiau o’r tasgau eu hunain.