Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun-caryl-clementProffil Tiwtor


Yn frodor o Lanelli, does dim rhyfedd bod Caryl Clement yn cefnogi’r Scarlets er bod hanner ei dosbarth yn cefnogi’r Gweilch! Ac mae’r arfer honno o gefnogi rhywbeth lleol a rhywbeth Cymraeg a Chymreig wedi aros gyda hi.

Aeth i Ysgol Gynradd Dewi Sant ac yna i Ysgol Ramadeg y Merched yn Llanelli cyn ei throi hi am Brifysgol Aberystwyth. Ar ôl cael blas ar Sŵoleg, Botaneg a Chemeg yn y Chweched Dosbarth aeth ymlaen i ennill gradd mewn Microbioleg. Bu’n gweithio yn yr adran Haematoleg mewn nifer o ysbytai, gan gynnwys Ysbyty Athrofaol Caerdydd, Bronglais a Singleton. Daeth tro ar fyd pan briododd gan adael y gwaith i fagu teulu, a symudodd y teulu ymhen hir a hwyr i Lanon, Llanelli.

Gyda’r plant yn fach, dechreuodd fynychu’r Cylch Ti a Fi lleol gan ymuno â chynllun gwirfoddol i helpu dysgu Cymraeg i rieni, a hynny dan ofal y tiwtor Lowri Gwenllian. Pan adawodd y tiwtor, mabwysiadodd Caryl y dosbarth a dyna ddechrau ar y daith. Gyda hynny bellach dros ugain mlynedd yn ôl, mae Caryl erbyn hyn wedi dysgu dosbarthiadau ar bob lefel ac ymhob fformat – darnynol a dwys.

Aeth ymlaen wedyn i weithio yn yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ac yn y fan honno y dechreuodd ar ei gwaith arbennig ym myd Cymraeg yn y gweithle. Teitl ei swydd oedd Cydlynydd Cymraeg Gwaith a bu’n trefnu cyrsiau iaith i gwmnïau a busnesau bach yn ogystal â chreu deunyddiau o’r newydd e.e. geirfa arbennig ar gyfer ateb y ffôn, gweithio mewn gwesty, gweithio mewn tŷ bwyta a gweithio gyda phlant bach. Datblygwyd cyrsiau rhyngweithiol yn rhan o’r project hefyd e.e. ar gyfer staff mewn derbynfeydd, gan roi cyfle iddynt gyfuno amser yn y dosbarth â defnyddio CD arbennig gartref yn llawn o weithgareddau addas. Yn ôl Caryl, mae’r maes Cymraeg yn y Gweithle wedi datblygu llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond mae lle i wella eto. Yr her fwyaf yw codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o’r angen i gynyddu sgiliau iaith eu staff.  

Mae ei gweithgarwch yn y maes yn ddi-ben-draw ac mae hi hefyd wedi gweithio llawer gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin yn creu cyrsiau Cymraeg ar gyfer arweinyddion di-hyder, yn ogystal â chreu cwrs cyfrifiadurol Cymraeg gyda’r Mentrau Iaith. Ar y rhestr faith mae hefyd cwrs iaith i weithwyr mewn archfarchnadoedd a chwrs iaith i godi hyder siaradwyr Cymraeg mewn canolfannau galw.

Erbyn hyn mae Caryl yn Uwch Diwtor-Drefnydd gyda Chanolfan Iaith De Orllewn Cymru ac yn gofalu am ardal dwyrain Sir Gâr. Mae ganddi un dosbarth canolradd ac mae hi wedi gweld aelodau’r dosbarth hwnnw yn blaguro ac yn datblygu gan ei bod wedi eu meithrin ers eu dyddiau Mynediad. Yn bendant dywed mai’r dysgu sy’n rhoi’r boddhad mwyaf iddi ac maent wedi cael sesiynau difyr iawn yng nghwmni ei gilydd, yn enwedig yn y tŷ bwyta Eidalaidd yn Llanelli! Mae’n amlwg ei bod yn manteisio’n llawn ar yr holl ddatblygiadau technolegol gan ei bod wedi creu blog i’w dosbarth Canolradd. Y drefn yw bod rhaid i bob aelod o’r dosbarth gyfrannu o leiaf unwaith yr wythnos at y blog ac erbyn hyn mae’n rhan ganolog o weithgarwch y dosbarth. Mae ambell i ddysgwr yn blogio ar wyliau ac mae hyd yn oed y tiwtor yn cyfrannu helyntion y ci bach newydd, Max, at y blog!

Dyna hanfod tiwtor da, mae’n siŵr, sef arwain trwy esiampl.

llinell