Roedd nifer o atebion wedi dod i law yn dilyn cystadleuaeth y rhifyn diwethaf. Y dyddiad cau oedd Ionawr 20 a’r wobr oedd pâr o docynnau i fynd i weld Rhod Gilbert ar Chwefror 24, 2010 yn Venue Cymru, Llandudno. Mae’n diolch yn fawr i Venue Cymru am y wobr hael hon.
Y cwestiwn oedd:
Beth yw enw’r graig fawr enwog yn Llandudno?
Yr ateb wrth gwrs yw’r Gogarth / Great Orme a’r enillydd yw Sian Huws, 22, Ffordd Celyn, Colomendy, Dinbych, Sir Ddinbych. Llongyfarchiadau mawr i chi a gobeithio y cewch chi amser da gyda Rhod Gilbert!
Cystadleuaeth Newydd
Daw’r wobr y tro hwn o Siop Inc, Aberystwyth.
Siop Inc
Stryd y Bont
Aberystwyth
Sefydlwyd Siop Inc yn Aberystwyth yn mis Mai 2004 gan ferch ifanc leol, Angharad Jones. Plannwyd yr hedyn o syniad ym mis Chwefror ac agorwyd y drysau yn swyddogol y 24ain o Fai, felly doedd dim amser i laesu dwylo! Ers y dyddiau cynnar mae’r busnes wedi datblygu ac esblygu yn barhaol, ac mae’n dal i wneud. Y nod o’r cychwyn oedd gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau Cymraeg a Chymreig yn cynnwys llyfrau, cardiau cyfarch, crysau-t a chwys, crefftau ac anrhegion. Mae Angharad yn ceisio sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ac mae hi bob amser yn chwilio am gyflenwyr newydd.
Yn ystod y pedair mlynedd diwethaf sefydlwyd gwefan Siop Inc ac, wrth bori trwy’r wefan, cewch syniad o’r hyn sydd gan y siop i’w gynnig. Cynigir hefyd wasanaeth postio cenedlaethol a rhyngwladol gan y siop.
www.siopinc.com
Ffeiriau a Digwyddiadau
Yn ogystal â masnachu drwy’r siop, mae Angharad yn mynychu amrywiaeth o ffeiriau a digwyddiadau allanol gan gynnal ffeiriau llyfrau mewn ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac amryw o gymdeithasau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal ffair neu ddigwyddiad arbennig mae croeso i chi gysylltu â’r siop i drafod mwy! O dro i dro, os cynhelir ffair mewn ysgol neu gymdeithas elusennol, gall y siop gynnig telerau arbennig fel bod yr ysgol neu’r elusen hefyd yn elwa o’r digwyddiad.
Prif stoc y siop yw llyfrau a gwerthir amrywiaeth eang o deitlau sydd yn cael eu rhyddau gan y gweisg Cymreig gyda theitlau newydd yn cyrraedd y siop yn ddyddiol. Mae ganddynt adran blant arbennig yn y siop sy’n cynnwys amrywiaeth eang o lyfrau gan gynnwys llyfrau bwrdd, stori, llyfrau i ddarllenwyr cynnar ac ifanc yn ogystal â llyfrau i hybu sgiliau iaith a llythrennedd plant ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr. Rydym wedyn yn symud ymlaen yn naturiol at yr arddegau gyda dewis da o nofelau cyfoes ar gyfer bechgyn a merched, nifer fawr gan awduron Cymraeg a rhai yn addasiadau o ‘glasuron Saesneg’. Mae’r adran ffuglen yn gyfoethog iawn erbyn heddiw gyda dewis da o nofelau at ddant pawb ar gael, yn amrywio o waith gan rai o awduron mwyaf adnabyddus a sefydlog Cymru i nofelau cyfoes mentrus gan awduron newydd ifanc Cymru. Er mwyn gwybod mwy, ewch i’r adran adolygiadau a Nofel y Mis.
Yn y siop hefyd mae’r adran cofiannau a hunangofiannau yn gyfoethog iawn gydag amrywiaeth o sêr ac enwau adnabyddus Cymru wedi cyhoeddi hunangofiannau yn y blynyddoedd diwethaf. Ceir hefyd nifer fawr o gyfrolau barddoniaeth, llyfrau hanes a diwylliant a llyfrau am Hanes Cymru.
Os ydych yn chwilio am deitl arbennig neu os nad oes gan Siop Inc stoc o’r llyfr yr hoffech ei brynu, mae Angharad yn fwy na pharod i archebu copi i chi.
Cardiau Cyfarch
Mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth fawr o gardiau cyfarch ar gyfer pob achlysur yn amrywio o gardiau wedi’u hargraffu i gardiau wedi’u gwneud â llaw o Gymru neu brintiadau gan atristiaid adnabyddus a chardiau ffotograffiaeth. Gellir hefyd archebu cardiau personol a gwahoddiadau priodas / parti.
Y wobr y tro yma yw tocyn llyfr gwerth £20, yn rhoddedig gan Siop Inc. Medrwch anfon eich ateb trwy fynd i’r adran Cysylltu a’r dyddiad cau yw 22 Mawrth. Felly brysiwch!
Y cwestiwn yw:
Pwy enillodd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, 2009?
Pob lwc!