Diweddariad Cysgliad ar gael ar gyfer Windows 7
Mae rhai defnyddwyr wedi cael trafferthion gosod Cysgliad ar rai peiriannau sy’n rhedeg Windows 7.
Erbyn hyn mae diweddariad ar gael sy’n datrys y problemau a oedd yn effeithio ar rai defnyddwyr Windows 7. Mae modd llwytho’r diweddariad hwn i lawr o wefan Cysgliad.
Mewngofnodwch i wefan Cysgliad gan ddefnyddio manylion eich cyfrif personol ac yna dilynwch y dolenni at y pecyn diweddaru. Os nad ydych yn cofio neu’n gwybod beth yw eich cyfrinair yna cliciwch ar y ddolen “Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi?“
App y Cwrs Mynediad
Yn y rhifyn diwethaf, roedd Chris Price o Brifysgol Aberystwyth wedi cynnig copïau o App y cwrs Mynediad ar gyfer yr iPhone am ddim i ddarllenwyr Y Tiwtor.
Llongyfarchiadau i’r tiwtoriaid isod am ennill copi yr un:
Mal Pate
Philippa Gibson
Dafydd Morse