Wrth fynd i gynhadledd IATEFL yn Brighton, roeddwn yn gobeithio cael syniadau newydd, ffres i’w defnyddio yn y dosbarth, a ffyrdd newydd o edrych ar y broses ddysgu - a chefais hyn oll mewn talpiau mawrion! Am dri diwrnod a hanner, clywsom lu o sgyrsiau ar wahanol agweddau ar ddysgu iaith, a’r rhan fwyaf yn bethau yr hoffwn eu ddefnyddio. Yma, edrychaf ar ddau yn unig o’r holl syniadau hyn.
Dysgu Ynganu
Cawsom ein trwytho mewn dull diddorol ac effeithiol o ddysgu ynganu (ynganu seiniau a geiriau unigol yn ogystal â brawddegau naturiol). Roeddem yn dysgu’r seiniau trwy ddefnyddio lliwiau i’w cynrychioli. Nid oedd y cyflwynwr yn modelu’r seiniau, ond, gan ddilyn y Dull Tawel, the Silent Way, yn eu tynnu allan ohonom trwy wneud ystumiau a rhoi adborth. (Tarddiad y gair education yw lead out neu ‘tynnu allan’). Er mor rhyfedd ydoedd, roedd yn hynod effeithiol ac wedi llwyddo i ddysgu acen Ffrangeg dda i ni i gyd mewn byr o dro - yn well o lawer na’r 5 mlynedd o ddysgu mewn dosbarthiadau ysgol.
Roedd cyflwynwyr y sesiwn wedi dysgu ieithoedd yn effeithiol trwy’r Dull Tawel sy’n seiliedig ar waith Caleb Gattegno a ddatblygodd syniadau am sut rydym i gyd yn dysgu popeth (y dysgwr, nid yr addysgwr, sy’n gwneud y gwaith dysgu). Maent newydd gyhoeddi llyfr am y syniadau: How We Learn and How We Should be Taught – an introduction to the work of Caleb Gattegno gan Roslyn Young a Piers Messum. ISBN 978 0 9568755 0 1
Efallai bydd modd i ni gael hyfforddiant yn y dull er mwyn dysgu seiniau a rhythm y Gymraeg, (mae Haydn yn bwriadu ymchwilio trwy gysylltu â Chymraes sy wedi dysgu’r dull) ond hyd yn oed os na fydd hyn yn bosibl, rwy’n teimlo fy mod wedi fy ysbrydoli i wneud mwy o ymdrech i helpu myfyrwyr i wella eu hacenion trwy ganolbwyntio ar ddysgu’r seiniau angenrheidiol yn drylwyr yn y wers gyntaf un a dychwelyd i’r un pwyntiau pan fo angen trwy gydol eu gyrfa ddysgu. Hoffwn eu helpu i sylweddoli yn gynt nad yw ‘hen’ yn Gymraeg yn debyg i’r iâr Saesneg, er enghraifft, a phwysigrwydd rhythm i ddatblygu acen naturiol. Wedi’r cyfan, y dysgwr sydd ag acen dda sy’n fwy tebygol o gael ymateb Cymraeg gan Gymry na’r dysgwr sydd â gramadeg perffaith ond acen Seisnig.
Dysgu am Ddiwylliant
Mynychais sesiwn ddiddorol a thorcalonnus am broblemau rhai pobl o dramor yn Lloegr. Er eu rhuglder yn y Saesneg, cawson nhw broblemau enfawr wrth gamddeall y diwylliant oherwydd bod y rheolau’n wahanol. Un enghraifft oedd cyfweliad â merch o Asia a oedd yn dilyn rheol ei gwlad i beidio edrych i mewn i lygaid pobl, ond yn sylweddoli wedyn fod pobl y Gorllewin yn dehongli hynny’n wahanol, sef ei bod yn anghyfeillgar, neu â rhywbeth i’w guddio. Sut bydden ni’n ymdopi yn ei gwlad hi petawn ni’n edrych i lygaid pobl yn ôl ein rheolau ni ac yn cael ein gweld yn ddigywilydd ac yn ymosodol? Yn anochel, mae pethau fel hyn yn creu embaras, ond hefyd drwg deimlad ar y ddwy ochr. Mae gêm o’r enw Barnga wedi’i dyfeisio i roi profiad uniongyrchol i bawb o’r camddealltwriaeth a’r drwgdeimlad sy’n gallu digwydd pan nad ydym yn gwybod beth yw rheolau’r grŵp arall ac, yn waeth byth, pan nad ydym yn sylweddoli pa mor wahanol yw’r rheolau. Mae disgrifiad o’r gêm yn:
http://plato.acadiau.ca/courses/educ/reid/games/Game_descriptions/Barnga1.htm
Meddyliais am rai o’r problemau sy’n gallu codi rhwng dysgwyr a Chymry oherwydd ein bod yn dilyn rheolau gwahanol. Nid yr iaith yw’r unig beth i’w ddysgu, yn enwedig pan fo pobl yn symud o ardal ddinesig i ardal wledig.
Dyma rai enghreifftiau:
Mae diolchiadau yn fwy pwysig i’r Cymry - ac mae diolch yn fawr iawn i chi yn gallu bod yn fwy priodol na diolch cwta.
Mae gwrthod a chynnig eto yn gallu bod yn gêm bwysig. Pa ddeialog sy’n fwy Cymreig o’r ddwy isod?
A. Hoffech chi gacen arall?
B. Hoffwn, diolch.
(Diwedd y sgwrs)
neu
A) Hoffech chi gacen arall?
B) O na, wi’n iawn diolch.
A) Cymerwch un fach.
B) Na, wir i chi, roedd yn hyfryd ond allwn i ddim bwyta mwy.
A) Dewch ymlaen, un fach ’to.
B) Wel, maen nhw yn ffein. Cymera i un ’te. Diolch yn fawr iawn i chi.
Yn yr un modd, mae pobl ddwad yn gallu cael eu gweld yn haerllug, yn drahaus ac yn ymwthgar, yn enwedig pan maent newydd symud i mewn i’r gymuned ac yn ceisio cymryd rhan trwy ymuno â phwyllgor, gan iddynt ddilyn rheol Gwnewch bethau mor effeithiol â phosibl yn lle’r rheol Byddwch yn ddiymhongar.
I ba raddau y dylen ni, fel tiwtoriaid, geisio bod yn fwy ymwybodol o’r gwahaniaethau cynhenid hyn a’u hesbonio? Efallai dylem weld hyn yn rhan o’n gwaith i’r un graddau â dysgu geirfa a gramadeg, os mai cymhathu yw nod y dysgwyr.
Philippa Gibson