... ar ddiwrnod braf yng Nghaerffili, daeth nifer fawr o
deuluoedd at ei gilydd i gael hwyl a sbri yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Gan gydweithio â Menter Iaith Caerffili fe gynhaliodd Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent ddiwrnod codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yng Ngwent, gan sôn am y ddarpariaeth a’r cyfleoedd dysgu anffurfiol Cymraeg i’r Teulu yng Nghaerffili.
Daeth dros 350 o bobl at ei gilydd i gael llawer o hwyl wrth ddawnsio gyda Heini, canu gyda Stephanie o Hei-di-ho a chael sesiynau stori gyda Pili Pala. Llwyddodd Heini i gael llawer o’r plant ar eu traed i gadw’n heini a hefyd roedd sawl rhiant yn cadw rhythm yn eu cadeiriau!! Llwyddodd Stephanie i gael pawb i ganu a bu Pili Pala yn ymlacio’r plant drwy ddarllen storïau difyr iddyn nhw.
Roedd yna ymwelydd arbennig hefyd, sef Sali Mali, ac ymunodd hithau yn yr hwyl a’r sbri. Bu Amanda o Masquerade yn peintio wynebau’r plant, a bu Matthew o Ave a Go Ceramics yn diddanu’r plant drwy eu helpu i wneud potiau clai!
Cynhaliodd Dave Hale, un o diwtoriaid Cymraeg i’r Teulu o’r Ganolfan, sesiwn flasu ar gyfer y rhieni. Dysgodd y rhieni sut i gyfarch, sut i ddweud eu henwau a thrafod teimladau gyda’r cwestiwn “Sut wyt ti?“
Yn sgil hynny, cafodd sawl dosbarth Cymraeg i’r Teulu eu cynnal dros ardal Caerffili. Ar ôl mynychu’r sesiynau blasu yma, mae llawer o deuluoedd yn edrych ymlaen at gofrestru ar gwrs ym mis Medi.