Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl tlws coffa

Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dyfernir gwobr i diwtor sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i faes Cymraeg i Oedolion. Rhoddir y tlws a’r wobr ariannol gan Havard a Rhiannon Gregory, er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas a wnaeth gymaint o gyfraniad i faes dysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Teimla Havard a Rhiannon fod tiwtoriaid Cymraeg yn gwneud gwaith amhrisiadwy nad yw bob amser yn cael ei gydnabod.

Mae’r enillydd yn derbyn gwobr unigryw ac mae nifer o diwtoriaid wedi derbyn y tlws erbyn hyn, fel y gwelir isod:

2000 – y diweddar Chris Rees
2001 – Basil Davies
2002 – Felicity Roberts
2003 – er cof am Robina Elis-Gruffydd
2004 – Geraint Wilson-Price
2005 – Elwyn Hughes
2006 – Keith Rogers ac Elwyn Havard
2007 – Eirian Conlon
2008 – Cennard Davies
2009 – Shirley Williams
2010 – Ken Kane

Ken Kane o Gaerdydd enillodd y Tlws y llynedd. Ar ddechrau’r saithdegau traddododd ddarlith gerbron mawrion ail-iaith ei gyfnod, sef Basil Davies, Cennard Davies a Chris Rees ar greu cwrs Cymraeg Dwys ac yn sgil hyn, aeth ati i lunio’r cwrs Wlpan cyntaf erioed a ddaeth yn sail i gymaint o’n cyrsiau dwys ni heddiw. Yn ystod ei yrfa, mae Ken wedi dysgu ar bob math o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau penwythnos e.e. Cwrs Penwythnos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangrannog lle bu’n diwtor hynod o boblogaidd am flynyddoedd. Mae Ken yn ddriliwr heb ei ail ac am flynyddoedd bu’n hyfforddi tiwtoriaid Canolfan Dysgu Cymraeg Prifysgol Caerdydd yn null yr Wlpan.

Yn flynyddol, felly, caiff un tiwtor arbennig ei anrhydeddu am:
    •  roi gwasanaeth gwerthfawr i faes Cymraeg i oedolion
    •  fod yn diwtor o’r radd flaenaf
    •  ysbrydoli dysgwyr i ddyfalbarhau hyd at rugledd

llinell

Yn ogystal â gwobr ariannol o £300 a’r tlws hardd i’w gadw am flwyddyn, cyflwynir darn arbennig o femrwn Gregynog i’r enillydd hefyd, yn gofnod parhaol personol. Llawer o ddiolch, felly, i Havard a Rhiannon Gregory am drefnu a noddi’r gwobrau.

Mae’r ffurflen enwebu ar gael nawr drwy glicio ar y ddolen isod. Mae’r ffurflen enwebu ar ffurf Word fel bod modd i chi ei llenwi’n electronig neu ei hargraffu, yn ôl dymuniadau personol. Bydd rhaid anfon adroddiad o 300 o eiriau hefyd yn nodi pam yr ydych yn enwebu tiwtor. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 24 Mehefin 2011.

Gellir anfon y ffurflen at bwyllgor golygyddol Y Tiwtor drwy  e-bost: cymraegioedolion@cbac.co.uk.

ffurflen enwebuGellir anfon y ffurflen drwy’r post hefyd at:

Mandi Morse
Cymraeg i Oedolion
CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX.

Cyhoeddir enw’r enillydd yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, 30 Gorffennaf – 6 Awst 2011.

 

llinell