Bob yn ail flwyddyn, bydd CBAC yn anfon holiadur at bob ymgeisydd sy’n sefyll yr arholiadau. Mae pawb yn cael holiadur i’w ddychwelyd mewn amlen radbost ar ôl yr arholiad, ac mae canran uchel o’r ymgeiswyr yn ymateb. Cynhaliwyd yr arholiad Mynediad ym mis Ionawr, ac allan o’r 155 ymgeisydd, dychwelodd 105 yr holiadur, sef 68% o’r ymgeisiaeth.
Mae’r holiadur yn gofyn am eu hymatebion i bob rhan o’r arholiad ac yn rhoi cipddarlun o’r ymgeiswyr eu hunain, a’u cymhellion. Mae’n cynnwys elfen feintiol ond y sylwadau ansoddol sydd fwyaf diddorol. Caiff yr holiaduron eu hanfon at adolygydd allanol i’w dadansoddi, a chrynodeb o’r adroddiad a geir isod. Bydd adroddiad llawnach yn y Bwletin Arholiadau a gyhoeddir ar ddiwedd y flwyddyn, yn cynnwys ymatebion i arholiadau’r haf. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn rhyfeddol o gadarnhaol.
Yr ymgeiswyr
Roedd 24% o’r ymatebwyr yn wrywod a 76% yn fenywod. Roedd y canrannau o ran oedrannau’r ymatebwyr fel a ganlyn:
> 20 oed (1%)
21 - 30 oed (18%)
31 - 40 oed (19%)
41 - 50 oed (25%)
51 - 60 oed (13%)
61 - 70 oed (18%)
70+ oed (2%) a’r ymatebwr hynaf yn 75 oed.
Dyma am ba hyd roedd yr ymatebwyr wedi bod yn mynd i ddosbarth Cymraeg i Oedolion:
Hyd at 6 mis (21%)
Hyd at flwyddyn (15%)
Deunaw mis (18%)
2 flynedd (20%)
2 flynedd a hanner (10.5%)
3 blynedd (14.5%)
4 blynedd (1%).
Roedd y mwyafrif wedi dilyn Cwrs Mynediad (32%), Cwrs Wlpan (27%), neu Gwrs Sylfaen (20%), a chanrannau llai’n dilyn y cyrsiau canlynol: Cwrs Pellach (6%); Acen (4%); Magu Hyder (3%); Popeth Cymraeg (2%); Cymraeg i ddechreuwyr (1%); Cymraeg i rieni (1%). Ni chafwyd ateb gan 4% o’r ymatebwyr.
Roedd yr ymatebwyr wedi bod yn astudio mewn 36 lleoliad ledled Cymru. Ym Mangor roedd nifer mwyaf yr ymatebwyr (29) wedi sefyll yr arholiad, ac Abertawe (15), Caerdydd (14) a Llanrwst (9) yn dilyn. Saesneg oedd iaith gyntaf 96% o’r ymatebwyr. O blith y 4% oedd yn weddill, roedd 4 mamiaith, (Japanaeg, Gaeleg, Estoneg, Ffrangeg).
Roedd y prif resymau dros sefyll yr arholiad a dymuno cael y cymhwyster yn cynnwys: mesur cynnydd, cael rhywbeth i anelu ato a rheswm dros adolygu a chadarnhau’r gwaith. Roedd cael her a hwb i barhau i ddysgu’n bwysig i lawer. Nododd nifer da resymau cysylltiedig â’u gwaith presennol, datblygiad proffesiynol ac ychwanegu at eu CV. Roedd rhesymau’n ymwneud â’r teulu a rhesymau cymdeithasol yn llai niferus ond yn codi’n gyson a chafwyd sawl sylw’n ymwneud â diddordeb a mwynhad.
Sylwadau am y profion
Roedd canrannau dros 90% ym mhob achos yn hapus bod yr arholiad yn cynnwys Profion Darllen a Deall a Llenwi Bylchau (97%), Ysgrifennu (94%), Llafar (93.5%) a Gwrando a Deall (93%). Gwnaed rhai sylwadau gan nifer arwyddocaol o ymatebwyr:
Gwrando a Deall: 17 sylw (16% o’r ymatebwyr) fod y bwletin tywydd yn anodd/gyflym.
Y Prawf Llafar: Llawer o sylwadau cadarnhaol am gyfwelwyr cefnogol a chyfeillgar.
Roedd 95% o’r ymatebwyr o’r farn bod y tasgau gwahanol yn addas i’w hanghenion a’u lefel. Nododd 96% o’r ymatebwyr i’r arholiad fod yn brofiad gwerthfawr ac yn hwb i barhau i ddysgu Cymraeg ac iddynt gael digon o gyfle i baratoi at yr arholiad.
Roedd mwyafrif helaeth (85%) yr ymatebwyr yn hapus â dyddiad yr arholiad a safwyd a’r sylwadau negyddol yn ymdrin yn bennaf â’r ffaith nad oedd dewis i sefyll yr arholiad gyda’r nos. Roedd mwyafrif helaeth y sylwadau cyffredinol yn rhai canmoliaethus o ran trefniadaeth yr arholiad, cefnogaeth y tiwtoriaid a’r cyfwelwyr, pa mor werthfawr roedd yr arholiad o ran bod yn hwb i barhau i astudio. Cafwyd ychydig o sylwadau am ganolfannau penodol (dau le yn rhy oer!), ond ar y cyfan roedd y sylwadau’n gadarnhaol dros ben.
Emyr Davies