Cawsom ein hagoriad swyddogol wedi’r holl adnewyddu ar 17 Mawrth 2011 wrth i Carwyn Jones ymweld â’r lle. Gwnaeth bwynt arbennig o gael sgwrs â’r dysgwyr, a oedd wedi syfrdanu o gael y wasg a’r sylw i mewn yn y dosbarth.
Ond ar y penwythnos 1-3 Ebrill cawsom gyfle i wneud ein gwaith pwysicaf, sef bod yn ganolfan i holl ddysgwyr Cymru. Cynhaliwyd penwythnos i ddysgwyr yr holl ganolfannau iaith yma. Croesawyd dros 60 o bobl o bob cwr o Gymru i fwynhau’r profiad o fod yn y Nant a’r ardal gyfagos. Yn ogystal ag adloniant anffurfiol yn y Nant ar y nos Wener, cynhaliwyd Eisteddfod Dysgwyr Gogledd-Orllewin Cymru yma ar y nos Sadwrn. Roedd y lle dan ei sang efo dysgwyr a’u cefnogwyr yn mwynhau noson berffaith.
Gorffennwyd y penwythnos fore Sul gyda gwasanaeth yng nghwmni Dafydd Iwan, a roddodd o’i orau i sicrhau bod y dysgwyr yn cael profiad gwerth chweil. Mae’n bosib gweld fideo o’r penwythnos gan Gwenllian Willis o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd trwy ddilyn y linc dilynol: http://www.youtube.com/watch?v=-lLQULnhXuk
Roedd yr ymwelwyr yn mwynhau’r llety safon pedair seren. Yn ystod eu harhosiad manteision nhw ar yr holl adnoddau newydd sydd yma: Bwthyn yn dangos bywyd yn Oes y Chwarelwyr; Arddangosfa Dreftadaeth yn y Capel; llwybr newydd i’r traeth a’r lle yn llawn o adnoddau gweledol, rhyngweithiol a chelfyddydol.
Diolch i Siwan Hywel o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru am wneud yr holl waith paratoi, diolch i bawb o bob cwr o Gymru am eu gwaith a’u cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at benwythnos tebyg y flwyddyn nesaf.
Cofiwch fod croeso mawr i bawb drefnu dod am ymweliad diwrnod gyda dysgwyr, trwy gysylltu â catherine@nantgwrtheyrn.org . Ar ben hynny mae pawb yn gallu galw fel unigolion neu fel teulu. Mae llawer yn manteisio ar y cinio Sul enwog yn y caffi (rhaid archebu lle o flaen llaw) ac mae pob un yn sicr o gael croeso cynnes a phrofiad unigryw yn y Nant. Edrychwn ymlaen at eich gweld yma.
Am ragor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau ffoniwch 01758 750334 neu ewch i’r wefan http://www.nantgwrtheyrn.org/bethsyddmlaen
Pegi Talfryn
Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn