Manteisio ar Dechnoleg
Technoleg oddi mewn
ac oddi allan i’r dosbarth
Dyn ni siŵr o fod wedi clywed yr ymadroddion, ‘Dysgu Cyfunol’ a ‘Dysgu Symudol’ cryn dipyn dros y blynyddoedd diwetha ac, yn aml iawn, mae’r ddau derm yn cael eu hynganu yn yr un anadl. Ac, wrth gwrs, maen nhw’n berthnasau agos iawn – yn cynrychioli dwy ochr yr un geiniog addysgu, os hoffech chi.
Fe all y term ‘Dysgu Cyfunol’ gyfeirio at unrhyw un o nifer fawr o sefyllfaoedd sy’n ymddangos ar y continwwm isod:
Continwwm Dysgu Cyfunol
Mae bron pawb ohonon ni diwtoriaid, erbyn hyn, yn gallu darganfod ein lle ar y continwwm uchod ac felly dyw Dysgu Cyfunol, fel y cyfryw, ddim yn beth dieithr inni. Mae rhai ohonon ni’n gweld ein lle ar ochr chwith y continwwm ac mae darpariaeth fel cyrsiau cyfunol Canolfan Caerdydd a Bro Morgannwg yn syrthio ar yr ochr dde.
Ar y llaw arall, term sy’n ymwneud â’r dysgwr, yn bennaf, a’i fodd o ddysgu y tu allan i’r dosbarth yw ‘Dysgu Symudol’, er y gall y ‘symudol’ a’r ‘cyfunol’ gorgyffwrdd yn aml iawn. Yn wir, fe all union ystyr y ddau derm hyn amrywio o faes i faes ac o berson i berson.
Felly, o ystyried natur amhendant y termau, hoffwn i ymdrin â’r pwnc mewn termau ymarferol sy’n berthnasol i ni diwtoriaid.
Technoleg yn y dosbarth
Dyn ni i gyd wedi hen arfer â defnyddio rhyw fath o dechnoleg yn y dosbarth. Wedi’r cyfan, beth wnelen ni heb draciau ‘Gwrando a Deall’ neu, yn y blynyddoedd diwetha, fideos ‘Gwylio a Deall’? Roedd hi’n gymharol hawdd inni ymdopi â’r casetiau, gan fod peiriannau casét yn fach ac yn gludadwy. Roedd fideos yn fwy o broblem gan fod angen cario set deledu arbennig i’r dosbarth, a hyn cyn dyfodiad y set deledu denau!
Ond, y dyddiau ‘ma, mae ‘na ddeunyddiau di-ri ar y we, heb sôn am adnoddau Web 2.0 megis Facebook, Twitter, Wicis, a blogiau, ynghyd â’r holl bethau dyn ni’n eu creu gyda rhaglenni fel PowerPoint, Hot Potatoes (http://hotpot.uvic.ca/), Quizlet (http://quizlet.com/), ac ati.
I’r rheini ohonon ni sy’ mor ffodus â dysgu mewn ystafelloedd gyda chyfrifiaduron, taflunwyr a byrddau gwyn rhyngweithiol, mae cymryd mantais o’r cyfoeth o ddeunyddiau digidol sy’ ar gael yn fendith. Dyn ni’n gallu amrywio deinamig y wers, rhoi chwistrelliad o hwyl a lliw i’r wers, a sicrhau bod y dysgwyr yn cael clywed llais ac arddull heblaw ein un ni! A’r unig beth sy’ angen ei gludo yw Co’ Bach! Mewn dosbarthiadau lle bo tiwtor yn cael y cyfle i ddefnyddio deunyddiau digidol, mae’n dysgwyr ni yn nodi hyn fel cryfder pendant yn eu ffurflenni adborth.
Ond y gwir yw, dyn ni ddim i gyd yn cael y fraint o gynnal dosbarth mewn ystafelloedd gyda’r fath gyfleusterau. O fewn ardal Canolfan Morgannwg, beth bynnag, mae nifer fawr o’n gwersi yn cael eu cynnal mewn neuaddau cymuned, festrïoedd capel, canolfannau hamdden, a.y.y.b. Ac er bod un neu ddau o’n tiwtoriaid yn cludo gliniaduron a thaflunwyr o wers i wers, rhaid dweud bod eu bagiau nhw yn eitha trwm! A does dim gliniadur – na thaflunydd – gan bawb.
Ar ben hyn oll, dyw pob un ohonon ni ddim yn gwbl gyfforddus gyda’r dechnoleg yma. A hyd yn oed os oes cyfarpar priodol yn yr ystafelloedd dysgu, dyw pawb ddim yn ddigon hyderus i fedru creu deunyddiau digidol ar eu cyfer yn y lle cynta.
Felly, os dyn ni’n credu bod defnyddio adnoddau digidol yn y dosbarth yn beth gwerth ei wneud, sut y gwnawn ni hyn? Dyma rai awgrymiadau a all fod o gymorth:
- Rhannu deunyddiau: Lle bo deunyddiau digidol sy’ eisoes wedi cael eu creu, fe ellir eu casglu (gyda chaniatâd yr awdur) a’u gosod ar Go’ Bach a gwneud copïau i’w dosbarthu i diwtoriaid. Gellir hefyd rannu deunyddiau drwy rwydweithiau megis Moodle neu Blackboard.
- Dysgu sut i greu deunyddiau digidol: Mae’n bosib y bydd angen hyfforddiant cyfrifiadurol sylfaenol ar ambell i unigolyn ond mae’r rhan fwyaf erbyn hyn yn gyfarwydd â defnyddio’r we. Ar safle www.teachertrainingvideos.com ceir ugeiniau o fideos byrion sy’n dangos sut mae creu deunyddiau ar gyfer y dosbarth – cwisiau, gemau iaith, sut i lawrlwytho fideos o YouTube, creu podlediadau, a.y.y.b. Mae ‘na nifer o wefannau tebyg ond dw i’n ystyried hon yn un o’r goreuon.
- Er mwyn ysgogi syniadau, ymweld â gwefannau cyrff eraill sy’n ymwneud â dysgu ieithoedd, e.e. www.ciltcymru.org.uk ; www.ngfl-cymru.org.uk ; http://learnenglish.britishcouncil.org/en .
- Baswn i’n tybio bod gan bob canolfan stoc o gyfarpar sain y gall tiwtoriaid ei fenthyg ar gyfer eu gwersi. Ond beth am gyfarpar digidol clyweledol? Mae ‘na declynnau newydd ar y farchnad – pico projectors – sef taflunwyr bychain tua maint ffôn symudol. Mae rhai ohonyn nhw’n gallu cadw fideos a chyflwyniadau PowerPoint ar gof mewnol felly fasai dim angen cludo gliniadur gyda nhw. Mae’r dechnoleg yn weddol newydd ar hyn o bryd, felly bydd angen ychydig o ymchwil cyn prynu, gyda ffactorau fel disgleirdeb a maint y llun a deflir, ansawdd y sain, cysylltedd, maint y cof, ac ati, i gyd yn bethau pwysig i’w hystyried. A dyn nhw ddim yn rhad iawn chwaith ar hyn o bryd (tua £300) ond mae’r gost yn disgyn yn gyflym wrth i’r dechnoleg ddatblygu. Maen nhw i gyd yn gallu cysylltu â gliniadur felly fe ellir rhagweld, yn y dyfodol agos, diwtor yn cyrraedd rhyw neuadd anghysbell gyda gliniadur, taflunydd pico a dongle ac yn medru cymryd mantais lawn o’r we ac ystod o weithgareddau digidol yn ddidrafferth.
- Mewn un dosbarth, dyn ni wedi bod yn arbrofi gyda pharau a grwpiau yn recordio’u tasgau sgwrsio ar declynnau bach recordio a ffonau symudol. Mae’r dysgwyr yn ei weld yn fuddiol iawn i fedru mynd adre a gwrando ar eu hunain yn sgwrsio ac yn gallu, i raddau, cywiro’u hunain.
Ac mae hyn yn ein harwain ni at sut y gallwn ni helpu’n dysgwyr i gynnal eu dysgu y tu allan i’r dosbarth.
Technoleg oddi allan i’r dosbarth
Mae bywydau pawb, dros y blynyddoedd diwetha, wedi troi’n brysur iawn. Rhwng gwaith (mwy nag un swydd weithiau), plant neu wyrion, perthnasau oedrannus, a bywyd cymdeithasol, mae mwy a mwy o’n dysgwyr yn cyrraedd y dosbarth yn hwyr, yn gorfod rhuthro o’r dosbarth yn gynnar ac yn ei chael hi’n anodd iawn i ddod o hyd i’r amser i wneud gwaith cartre rhwng y dosbarthiadau. Mae hi hefyd yn anos i gael dysgwyr i fynychu gweithgareddau dysgu anffurfiol nag oedd hi.
Ond ymysg yr holl brysurdeb yma, mae ‘na gryn dipyn o amser ‘marw’ neu amser gwastraff – aros am fws neu drên, eistedd ar fws neu drên, eistedd yn y car y tu allan i’r ysgol wrth aros i godi’r plant, aros i gwrdd â ffrindiau mewn caffi neu dafarn, mynd â’r ci am dro, ac ati.
Da o beth fasai medru gwneud defnydd adeiladol o’r cyfnodau byrion hyn. Mae myfyrwyr ysgol a choleg eisoes yn gyfarwydd iawn â’r cysyniad o ddefnyddio’u teclynnau symudol a’r rhwydweithiau cymdeithasol i’w helpu gyda’u haddysg. Ac mae ‘na enghreifftiau trawiadol o’r modd mae addysgwyr yn dechrau manteisio ar hyn:
- Mae gan nifer o lywodraethau o gwmpas y byd bolisïau o roi gliniadur i bob plentyn ysgol. Ymysg y rhain mae Rwanda, Wrwgwai, Affganistan a Mongolia yn ogystal â nifer o daleithiau UDA a sawl gwlad yn Ne America. Ac yn ddiweddar, lansiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd ‘Cynllun Peilot Gliniadur i Bob Plentyn’.
- Ym Mhrifysgol Texas, sylwodd un darlithydd nad oedd y myfyrwyr yn ymateb ryw lawer wrth iddi draethu o’u blaenau. Ac o sylwi ar y niferoedd helaeth oedd â’u pennau yn edrych i lawr, roedd e’n amlwg iddi bod llawer mwy o ddiddordeb gyda’i myfyrwyr mewn chwilio’r we, danfon e-byst, a thecstio ar eu ffonau symudol. Felly fe ofynnodd hi iddyn nhw gynnig sylwadau ac ymatebion ar Twitter, gan drefnu bod y negeseuon trydar i gyd yn ymddangos ar y sgrin fawr yn y ddarlithfa. Er syndod, ymddangosodd ugeiniau o atebion a sylwadau y gallai pawb eu gweld a’u trafod. Mae hyn wedi aros yn rhan bwysig iawn o’i darlithiau erbyn hyn gyda chanran uchel iawn o’r myfyrwyr yn cyfrannu’n eiddgar.
- Yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Leeds, rhoddir iPhone i bob myfyriwr ar ddechrau’r cwrs. Ar y ffôn ceir nodiadau darlithiau, fideos i ddangos gwahanol driniaethau, llyfrau cyfeiriadol digidol, meddalwedd data meddygol, a.y.y.b. Maen nhw’n gallu mewnbynnu gwybodaeth am gleifion a’u symptomau, yn ogystal â chwilio am wybodaeth ar frys, cadw nodiadau a chysylltu â’u tiwtoriaid a’u darlithwyr.
- Mae nifer o ddarlithwyr ym Mhrifysgol Morgannwg (a sefydliadau eraill, mae’n siŵr) yn defnyddio Facebook, Wicis a Blogiau i gysylltu â’u myfyrwyr, cynnal fforymau trafod, a dosbarthu gwybodaeth a deunyddiau am eu modiwlau.
- Mae nifer fawr o ysgolion a cholegau bellach yn rhoi deunyddiau a chyrsiau ar Moodle neu Blackboard ac mae myfyrwyr yn eu canfod ar eu ffonau, eu iPods, a’u rhwydlyfrau.
- Dw i wedi bod i gynadleddau a seminarau yn ddiweddar lle rhoddir iPad i bawb ar y cychwyn yn lle pecyn o bapurau. Trwy’r iPad, roedd modd i bawb lawrlwytho nodiadau, gwneud eu nodiadau eu hunain a rhoi eu hymateb i’r sesiynau.
Ond sut y gall hyn fod o help i ni ddysgu Cymraeg i Oedolion? Wedi’r cyfan, dyw’n dysgwyr ni ddim mor gyfforddus gyda’r teclynnau bach symudol ‘ma â’r to ifanc. Mae ‘na rai yn fy nosbarthiadau i sy erioed wedi cyffwrdd â chyfrifiadur, heb sôn am ffôn call (smart phone) neu iPod. Ond, mae’r sefyllfa yn newid yn raddol fach. Erbyn hyn, dim ond rhyw ddau neu dri ym mhob dosbarth sy’ ddim yn gyfarwydd â thrafod cyfrifiadur ar ryw lefel, ac mae’r rhan fwyaf yn berchen ar declyn MP3 neu ffôn sy’n gallu chwarae traciau MP3 a dangos lluniau. Gan fod y cyfleusterau ar gael yn y ganolfan lle dw i’n dysgu, dw i’n cynnal sawl sesiwn gyda’m dosbarthiadau yn yr ystafell gyfrifiaduron ar ddechrau pob cwrs i sicrhau bod pob dysgwr yn gwybod sut i ddefnyddio’r we.
Yng Nghanolfan Morgannwg, dyn ni wedi bod yn creu podlediadau ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen ac wedi eu gosod ar iTunes U fel bod unrhyw un yn y byd yn gallu eu lawrlwytho (am ddim) a’u gosod ar eu ffonau neu ar eu teclynnau MP3 (http://itunes.glam.ac.uk).
Dyn ni hefyd wedi bod yn creu fideos byrion er mwyn ymarfer geirfa ac atebion. Eto gellir gwylio’r rhain ar ffôn neu unrhyw declyn sy’n dangos fideo.
Er mwyn bod yn deg â’r rheini nad oes ganddynt ffonau neu declynnau, dyn ni wedi prynu cyflenwad bach o declynnau MP3/ MP4 ac wedi llwytho’r podlediadau a’r fideos arnyn nhw’n barod. Fe gânt fenthyca’r rhain (o dalu ernes bychan) tan ddiwedd eu cwrs.
Dywed y dysgwyr eu bod yn gwneud defnydd cyson o’r rhain. Gyda chlustffonau, maen nhw’n gallu ymarfer geirfa a phatrymau am gyfnodau byr wrth iddynt gerdded yn y dre, eistedd mewn caffi neu deithio ar fws. Mae un yn cyfaddef ei fod e’n gwrando ar y podlediadau yn y gwely y peth ola cyn mynd i gysgu!
Ac yn awr...
Dros yr haf eleni, fe sefydlir rhwydwaith Moodle cenedlaethol i’r canolfannau Cymraeg i Oedolion. Mae nifer o diwtoriaid yn dysgu mewn sefydliadau sy’ eisoes yn defnyddio Moodle ac yn ymwybodol iawn o’r potensial. Fe rydd y Moodle yr adnodd inni fedru dosbarthu deunyddiau i’n dysgwyr a’n cyd diwtoriaid yn ddiffwdan. Mae’n werth dechrau meddwl ‘nawr am y math o adnoddau y gallwn ni eu creu i’w cynorthwyo.
Maldwyn Pate
Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg